Dyma le i chi gael mwynhau Trecio
Segway drwy'r coedwigoedd, rhoi prawf
ar eich cydbwysedd ar y rhaffau uchel,
neu hedfan drwy'r awyr ar wifrennau
gwibio. Mae gennym le chwarae antur yn
arbennig i blant 2-12 oed. Mae hyn yn
cynnwys llithrennau ochr bryn, siglenni
anferth, fframau dringo, tipis, a thai
chwarae.
Mae Mountain View Ranch ar agor o
9.00yb tan 5.00yh, saith diwrnod yr
wythnos, yn Heol Penybryn, Caerffili
CF83 1NG
Ffôn: 02920 886666
Mountain View Ranch
Mae'n mannau agored, eang yn cynnig
digonedd o gyfleoedd i fynd allan i'r
awyr agored, yn llawn egni, i fynd am
dro bach neu i fentro i rywbeth mwy
egnïol byth!
Mae'n bryniau tonnog, a'u golygfeydd
hyfryd, yn berffaith i gerddwyr, beicwyr, a
marchogion ceffylau. Mae ystod o
lwybrau a theithiau cerdded, a beicio, yn
croesi'r ardal. Yn ogystal â hyn, mae
llwybrau sain, llwybrau gyrru, a Llwybrau
Treftadaeth yn barod i'ch taith. Bob
hydref fe fyddwn ni'n cynnal Gw
ˆ
yl
Gerdded, sy'n cynnig ystod o deithiau
cerdded tywysedig i chi gael troedio
llwybrau newydd.
Ydych chi'n teimlo ychydig bach yn fwy
mentrus? Beth am roi cynnig ar feicio
cwad, Segway, neu Barth y Gad?
Neu a fyddech chi'n teimlo'n fwy
cyffyrddus ar y lleiniau golff? Mae nifer o
glybiau golff wedi'u hen sefydlu yn yr
ardal - â golygfeydd rhyfeddol o hardd
o rai ohonynt.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gorwedd
ychydig y tu allan i Aberdâr. Dyma
baradwys yn wir i bawb sy'n dwlu ar fyd
natur, yn cynnig teithiau cerdded a
llwybrau - caffi clyd i chi gael ymlacio
wedyn. Yn ogystal â hyn, mae cae
chwarae antur, llety, a chyfleusterau
gwersylla a charafanio i'w cael ar y safle.
Mae llawer o deuluoedd yn mwynhau
Parc Gwledig Barry Sidings ger
Pontypridd, a Pharc Gwledig Cwm
Clydach yn y Rhondda. Mae'r ddau yn
cynnig golygfeydd a llwybrau cerdded
hyfryd, bywyd gwyllt, hwyl i'r plant, a
lleoedd i fwyta ac ymlacio. Neu beth am
gilio i un o barciau hyfryd ein trefi, lle i
enaid gael llonydd?
Canolfan Beicio Cwad a Gweithgareddau Dyffryn Taf
Clwb Golff y Rhondda
Parth y Gad, Parc Gwledig Cwm Dâr