Fyddwch byth yn brin o bethau i'w gwneud
a'u gweld yn ystod eich ymweliad â Rhondda
Cynon Taf. Rydym ni wedi meistroli'r grefft o
lwyfannu sioe. Bydd achlysuron gwych at bob
dant gydol y flwyddyn.
Rydym ni'n cynnal nifer o achlysuron haf
poblogaidd i bobl o bob oed. Ym Mharc
Coffa Ynysangharad, rydym yn cynnal yr w
ˆ
yl
fwyd ac amaethyddiaeth boblogaidd Cegaid
o Fwyd Cymru, a'r sioe gerdd ryfeddol
Penwythnos Mawr Ponty. Ym Mharc Aberdâr,
rydym ni'n cynnal diwrnod o hwyl am ddim i'r
teulu sef Gw
ˆ
yl Aberdâr.
Uchafbwynt ein calendr achlysuron bob
blwyddyn yw Rasys Nos Galan. Mae'r rhain
yn denu miloedd o bobl i dref Aberpennar.
Cynhelir y Rasys hyn bob Nos Galan er cof
am y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân.
Bydd cannoedd o athletwyr o bob oed a
gallu yn teithio o bell ac agos i gymryd rhan.
Am ddewis gwych o achlysuron, ewch i
Achlysuron
Rasys Nos Galan, Llanwonno
1...,5,6,7,8,9,10,11,12,13,14 16,17,18,19,20,21,22,23