Mae ty
ˆ
bwyta arobryn Thai Sky yn cynnig
blas ar y Dwyrain Pell yng nghalon
Cymoedd y Rhondda. Mae'r ty
ˆ
bwyta
hwn yn cyfuno hanfod coginio o Wlad
Thai gyda gwasanaeth cyfeillgar fydd yn
estyn croeso nodweddiadol y Cymoedd i
chi. Daeth y teulu â'r addurniadau o'u
teithiau yng Ngwlad Thai. Maent wedi
defnyddio'r eliffantod brodwaith a
cherfluniau traddodiadol Gwlad Thai i
greu man bwyta pwrpasol. Caiff y bwyd
ei baratoi'n ffres ac yn arbennig ar eich
cyfer chi gan ddefnyddio perlysiau go
iawn a sawsiau aromatig o Wlad Thai.
Mae cyfoeth o seigiau i'w cael. Heblaw
am y Cyri Gwyrdd Thai poblogaidd,
beth am roi cynnig ar Gyri Massaman?
Pryd arbennig y pencogydd yw hwn,
gyda dewisiadau ac opsiynau cig,
pysgod, a llysieuol ar gael.
Rydym ni'n gwerthu lager go iawn o
Wlad Thai hefyd, yn ogystal â detholiad
eang o winoedd a gwirodydd.
Ond cofiwch - mae'n ty
ˆ
bwyta ni'n
eithaf prysur. Bydd angen cadw lle
ymlaen llaw.
Thai Sky 5 High Street,
Treorci, CF42 6AE
07967 038488
Blas ar Wlad Thai - yn Nhreorci
Anturiaethau i rai sy'n caru bwyd!
Ydych chi'n caru bwyd? Mae llu o
anturiaethau bwyd ar gael yn Rhondda
Cynon Taf, gan gynnwys
arddangosiadau fforio/chwilio, a
choginio ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.
Carol Adams sy'n trefnu Food Adventure
Cyf. Mae'r cwmni newydd hwn yn
darparu gweithgareddau â thema bwyd,
gan gynnwys ymweliadau â
chynhyrchwyr bwyd a diod a phrydau
bwyd i'w dilyn, mewn tafarndai a thai
bwyta lleol.
Mae hi'n cyfrannu at y 'Corpulent Capers
Food Blog' sydd yn adolygu bwytai ac yn
tynnu sylw at gynhyrchwyr bwyd lleol a'u
nwyddau. Hoffech chi ragor o
wybodaeth? Ewch i
Gwynt y Ddraig
Miskin Manor