Ydych chi'n hel achau'r teulu? Mae
cymorth ar gael! Os ewch i'r llyfrgell
agosaf, bydd llyfrau ar gael sy'n
esbonio sut i chwilio am eich
hynafiaid, a lle mae gwybodaeth
amdanynt i'w chael.
Ac os ewch chi i'r llyfrgelloedd yn
Aberdâr, Pontypridd, a Threorci,
mae ganddynt gyfoeth o ffynonellau
hanesyddol ar feicroffilm a
chyfrifiaduron - papurau lleol,
Cyfrifiadau, ayyb. Dyma'n
llyfrgelloedd cyfeirio ni:
Llyfrgell Aberdâr, Green Street,
Aberdâr, CF44 7AG
01685 880050
Llyfrgell Pontypridd, Library Road,
Pontypridd, CF37 2DY
01443 486850
Llyfrgell Treorci, Station Street
Treorci CF42 6NN
01443 773204
Mae cyfoeth o ddeunyddiau sy'n
gysylltiedig ag achau ar gael ar y
Rhyngrwyd. Croeso i chi
ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn y
llyfrgelloedd er mwyn eu cyrchu.
Hoffech chi weld rhestr lawn o
adnoddau gwybodaeth ar-lein?
Dyma'r cyfeiriad:
Hanes
Teulu
Yr Hen Bont, Pontypridd
Llyfrgell Aberdâr
Llyfrgell Pontypridd
Llyfrgell Treorci