Welco
Croeso i gartref yr Anthem
Genedlaethol, bro mebyd y
canwr byd-enwog Syr Tom
Jones, y Cymoedd glo enwog,
a'n croeso cynnes ni!
Mae tegwch ein bro yn
syfrdanol, ein
gweithgareddau awyr agored
yn llawn hwyl a chyffro, ein
corau meibion a'n bandiau
pres yn swyno gwrandawyr
ym mhedwar ban byd, a'n
chwaraewyr rygbi yn arwyr y
bêl hirgron.
Cewch ryddid i grwydro
drwy'n golygfeydd hardd a'n
cefn gwlad trawiadol o
brydferth ar droed, ar feic,
neu ar gefn ceffyl - ac i
ymlacio wedyn mewn ty
ˆ
bwyta, bar, neu gaffi clyd.
Neu beth am grwydro drwy
ein canol trefi hanesyddol a
hynod ddiddorol? Byddwch
chi wrth eich bodd yn ein
siopau - rhai lleol yn ogystal
â'r cadwyni mawr - a'n
lleoedd i hamddena.
Dyma'ch cyfle i gael blas ar
ein hanes a'n treftadaeth
cyfoethog, ein campau ar y
caeau chwarae, a'r
gynhysgaeth a adawodd ein
diwydiant glo enwog i ni.
Dyma fro lle mae diwylliant
a'r celfyddydau yn ffynnu, a'r
bywyd cymdeithasol yn llawn
hwyl a sbri.
A chofiwch – does dim cro so
sy'n hafal i groeso'r Cymoedd!
Croeso!