Cafodd y pwll glo cyntaf ei suddo yng
Nghwm Rhondda gan Walter Coffin ym
1812, gan newid diwydiant a thirwedd y
rhanbarth am byth. Ychydig a erys
bellach o greithiau'r diwydiant glo ar ein
tirwedd, ond mae'r hanes i gyd i'w weld
yn ein hamgueddfeydd.
Bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ar
safle hen Lofa Lewis Merthyr, yn rhoi
cyfle i ymwelwyr gael profiad byw o
waith i lawr y pyllau. Mae cyn-lowyr yno
i'ch tywys ar eich taith drwy'r Parc, gyda
sawl gair o brofiad personol i ddod â'r
dyddiau a fu yn fyw i chi.
Diwydiant dipyn yn llai cythryblus oedd
yr un a sefydlwyd yng Nghrochendy
Nantgarw ym 1813. Daeth yr arlunydd
a'r crochennydd William Billingsley a'i
fab yng nghyfraith, Samuel Walker, i
brynu Ty
ˆ
Nantgarw ar lan ddwyreiniol
Camlas Morgannwg. Aethont ati i droi'r
adeilad yn ffatri borslen fechan. Bellach,
mae'r crochendy byd-enwog yn gartref i
amgueddfa, lle cewch weld casgliad o
borslen enwog Nantgarw.
Nepell oddi yno, yn Ffynnon Taf, saif un
o ryfeddodau mwyaf Cymru - ffynnon
boeth sy'n ffrydio ers dros 5,000 o
flynyddoedd. Yn Ffynnon Taf mae'r unig
ffynnon boeth yn y wlad. Mae'r dw
ˆ
r yn
codi o ddyfnder o 400 o fetrau, gyda
thymheredd sy'n cyrraedd 21 radd. Ers
canrifoedd, mae pobl yn teithio yno o
leoedd pell ac agos gan obeithio cael
iachad i'w hanwylderau.
Ac mae rhyfeddodau tref brysur
Pontypridd yn werth eu gweld hefyd. Am
flynyddoedd maith, platfform yr orsaf
reilffordd oedd yr un hwyaf yn y byd.
Yno hefyd saif yr Hen Bont, o waith
William Edwards (1719-1789). Fe'i
codwyd ym 1756, yn dilyn tri chais
aflwyddiannus. Dyma'r bont un bwa
gyntaf i fod yn hwy na Phont y Rialto yn
Fenis.
Mae Llwybrau Treftadaeth a Phlaciau
Glas yn dod â hanes yr ardal yn fyw.
Maen nhw'n caniatáu i chi ymweld â
chartrefi, ysbrydoliaeth a chymunedau
ein heiconau lleol. Croeso i chi gerdded
y llwybrau hyn, neu i yrru. Mae
sylwebaeth sain, islwythiadau o'r
Rhyngrwyd, a thaflenni ar gael i'ch tywys.
Bob blwyddyn, mae'r mis Drysau Agored
yn gyfle i ddathlu pensaernïaeth a
diwylliant y Fwrdeistref Sirol. Mae'n
cynnig mynediad am ddim i safleoedd
sydd, fel arfer, naill ai ar gau i'r cyhoedd
neu'n codi tâl mynediad.
Mae gan y rhanbarth olion Oes yr Efydd
syfrdanol hefyd ger Llyn Fawr a'r Garth,
yn ogystal â bryngaer Oes Haearn yn
Rhiwsaeson, gwersyll Rhufeinig ym
Meisgyn, hen gastell Normanaidd
Llantrisant a cherflun i'r arloeswr
Dr William Price.
Crochendy Nantgarw
Ffynnon Boeth Ffynnon Taf
Llyn Fawr, Mynydd y Rhigos
1,2,3,4 6,7,8,9,10,11,12,13,14,15,...23