Allwch chi ddim ymweld â
Phontypridd heb alw yn y Bunch of
Grapes, sef tafarn a bwyty arobryn.
Mae’r 'Bunch' yn gwerthu bwyd tafarn
modern gwych a chwrw anhygoel o'i
fragdy'i hun, Cwmni Bragu Otley.
Beth am alw heibio am beint o gwrw
go iawn, seidr crefftwyr lleol a
thamaid i'w fwyta? Neu mae prydau
bwyd arbennig o ffein ar gael yn ein
ty
ˆ
bwyta.
Mae'r prif gogydd Sebastien Vanoni
yn ymfalchïo yn ei fwydlen, sy'n
defnyddio cynhwysion tymhorol
gorau'r ardal. Bydd bwydlenni yn
newid yn aml. Mae'n dibynnu ar ba
gynnyrch sydd ar gael y tymor hwnnw.
Yn ystod yr wythnos, bydd y cyflenwyr
yn dod â chynnyrch ffres lleol i ddrws
y Bunch of Grapes. Y cynnyrch hwn
sy'n ysbrydoli'r Pen-cogydd Vanoni i
greu seigiau tafarn modern. Bydd ef
yn cadw rhai o'i seigiau nodedig
unigryw ar y fwydlen, gan eu bod yn
ffefryn gan bawb o'i gleientiaid
rheolaidd.
Mae Cwmni Bragu Otley yn
cynhyrchu'i gwrw arobryn ei hun
ychydig filltiroedd i ffwrdd o'r
tafarndy. Mae modd i chi brynu'r
cwrw yn syth o siop y bragdy hefyd.
Mae'r 'Bunch of Grapes' yn
Ynysangharad Road, Pontypridd
CF37 4DA
Ffôn: 01443 402934
Gwefan:
Iechyd da!
Cwmni Bragu Otley
1...,4,5,6,7,8,9,10,11,12,13 15,16,17,18,19,20,21,22,23