Mae'r diwylliant caffi yn rhan o fywyd y
Cymoedd ers blynyddoedd lawer. Bu
teuluoedd yn dod o'r Eidal am
genedlaethau i agor caffis, siopau
pysgod ac ysglodion, a pharlyrau hufen
iâ. Mae llawer o'r lleoedd bwyta hyn yn
dal ar agor, yn cynnig bwyd blasus a
chroeso cynnes.
Mae ein tai bwyta a thafarndai
annibynnol ni yn paratoi prydau cartref
go iawn. Neu beth am roi cynnig ar
giniawa cain a bwyd gwych gwesty'r
'Miskin Manor', y Ty
ˆ
Newydd, neu un
o'n gwestai gwledig eraill? Beth sydd at
eich dant chi? Bwyd yr Eidal? Bwyd
Gwlad Thai? Byddwch chi'n sicr o gael
gwledd wrth eich bodd yma.
Ydych chi'n teimlo'n sychedig? Cewch
ddewis rhwng llu mawr o dafarndai
bendigedig. Mae llawer o'r rhain wedi
ennill achrediad cynllun Braf Bob Nos, i
ofalu'u bod yn cynnig profiad
cymdeithasol gwych.
Mae Cwmni Bragu Otley, a sawl
bragdy lleol arall, wedi creu cwrw
cartref, a seidr bendigedig. Seidr yw
cynnyrch Gwynt y Ddraig. Mae Distyllfa
Penderyn, sy'n swatio ar gyrion Bannau
Brycheiniog, yn cynhyrchu whisgi
arobryn ac yn croesawu ymwelwyr.
Bwyd a
Diod o Safon
Bunch of Grapes