Y Bathdy Brenhinol yw sefydliad
gweithgynhyrchu hynaf Ynys Prydain,
a'r allforiwr mwyaf yn y byd i gyd. Am
y tro cyntaf mewn mil o flynyddoedd,
mae'r Bathdy am agor canolfan
ymwelwyr i'r cyhoedd. Caiff ymwelwyr
fynd tu ôl i'r llenni i weld y bobl a'r
prosesau sy'n gyfrifol am fathu'r
ceiniogau a'r punnoedd yn ein pocedi.
Mae'r Bathdy Brenhinol eisoes wedi
dechrau adeiladu canolfan ymwelwyr
bwrpasol ar ei safle yn Llantrisant. Y
disgwyl yw y bydd y gwaith wedi'i
gwblhau yn ystod 2016.
Bydd cyfle i ymwelwyr fynd ar daith
gerdded drwy'r Bathdy Brenhinol, a
gweld yn union sut y caiff y darnau a
bathau arian a ddefnyddiwn bob dydd
eu dylunio. Bydd cyfle hefyd iddynt
fwrw'u darnau a bathau arian eu hun
i'w trysori yn atgof o'r ymweliad.
Yn ogystal â chael gwybodaeth yn syth
o lygad y ffynnon am daith y metalau
wrth gael eu troi'n ddarnau a medalau
gorffenedig, bydd ymwelwyr yn cael
mwynhau ystod o brofiadau
rhyngweithiol statig. Bydd y rhain yn
dod â threftadaeth gyfoethog y Bathdy
Brenhinol yn fyw o flaen eich llygaid.
Cewch weld llu o ddarnau, bathau, a
medalau prin ac anghyffredin o
bedwar ban byd.
Y
n dod yn fuan!
Y Bathdy Brenhinol
LIDO
CENEDLAETHOL
CYMRU
NATIONAL
LIDO
OF
WALES
Bydd gwaith gwych gweddnewid Lido Pontypridd wedi
dod i ben erbyn haf 2015, ac yn denu ymwelwyr yn
eu miloedd o bob cwr o Gymru.
Mae'r Lido ym Mharc Coffa Ynysangharad yn
boblogaidd iawn, a dyma un o byllau awyr agored
mwyaf y Deyrnas Unedig, o ran maint a
phwysigrwydd hanesyddol. Ar hyn o bryd, mae'n
destun rhaglen fuddsoddi sydd werth £6.3 miliwn fydd
yn creu cyfleuster o'r radd flaenaf.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
Lido Pontypridd
1...,7,8,9,10,11,12,13,14,15,16 18,19,20,21,22,23