Evans James (neu Ieuan ap Iago)
(1809-1878) a'i fab James James (Iago
ap Ieuan) (1833-1902) a gyfansoddodd
yr Anthem Genedlaethol, ym
Mhontypridd ym 1856. Mae cofadail i’r
ddau, y bardd a'r cerddor a greodd
Hen Wlad Fy Nhadau, ym Mharc Coffa
Ynysangharad.
Llais Tom Jones a ddaeth â Phontypridd
i lwyfan y byd yn y Chwedegau, ac
mae Tom “y Llais” yn dwyn calonnau
sawl cynulleidfa byth oddi ar hynny.
Mae'n canolfannau ni yn cynnig llwyfan
i fandiau, comedïwyr, a pherfformwyr
drwy gydol y flwyddyn. Bydd adloniant
ar gael mewn sawl tafarndy a chlwb
hefyd, lle cewch wylio doniau'r fro yn
perfformio - sêr y dyfodol yn eu plith,
efallai?
Y Celfyddydau
a Diwylliant