Cafodd y Côr byd-enwog hwn ei sefydlu
ym 1883. Bu'n perfformio i'r Breninesau
Fictoria ac Elizabeth II, yn ogystal â
chynnal teithiau hynod lwyddiannus drwy
Unol Daleithiau America, Canada,
Ewrop, Awstralia, a Seland Newydd.
Bu Côr Meibion Treorci yn
fuddugoliaethus mewn llu o
gystadlaethau, a chyhoeddi dros 90 o
albymau. Yn ogystal â hyn, mae wedi
rhannu llwyfan gyda Syr Tom Jones, y
Fonesig Shirley Bassey, Julie Andrews, ac
Ella Fitzgerald, i enwi ond rhai.
Bydd aelodau'r Côr wastad yn estyn
croeso cynnes y Cymoedd i ymwelwyr!
Bydd y Côr yn ymarfer bob nos Lun a
nos Iau yn Ysgol Gynradd Treorci,
Glyncoli Road, o 7.00yh tan 9.00yh.
Beth am alw heibio i wrando? Hoffech
chi wybod rhagor? Croeso i chi edrych
ar
Côr Meibion Treorci
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref
delfrydol i bobl greadigol o bob math. Yn
ogystal â bod yn ardal hardd, mae
Rhondda Cynon Taf yn cynnig lleoedd i
fyw a gweithio am brisiau fforddiadwy.
Mae’r treflun a'r cefn gwlad yno o flaen
eich llygaid, a chyda'r Brifddinas a lleoedd
tu hwnt iddi o fewn cyrraedd hawdd.
Mae artist-wneuthurwyr, crefftwyr sy'n dod
i'r amlwg, a phobl greadigol o bob math
yn byw a gweithio yma. Mae rhwydwaith
yn tyfu i'w cefnogi ac hefyd er mwyn eu
hyrwyddo nhw a'u canolfannau fel
cyrchfannau i dwristiaid.
Dewch i grwydro'r Ty
ˆ
Model yn Llantrisant,
lle mae oriel a dau lawr o stiwdios yn
barod i'ch croesawu. Cewch groeso hefyd
mewn gweithdai ac orielau bychain megis
Lemon Blues yn y Pentre yng Nghwm
Rhondda, sy'n rhoi llwyfan i wneuthurwyr
lleol ac yn trefnu cynnal clwb crefftau. Beth
am ddilyn Taith Taf i Ffynnon Taf, i ymweld
â Chaffi Celfyddydau Umber & Sienna?
Neu beth am alw heibio i Oriel Giles ym
Mhont-y-clun?
Mae achlysuron Stiwdio Agored ym mis
Medi yn gwahodd pobl leol ac ymwelwyr i
ystyried, dysgu, cymryd rhan, neu brynu.
Fyddai'r un ymweliad â Rhondda Cynon
Taf ddim yn gyflawn heb dreulio amser
yng nghanol rhyfeddodau Teyrnas y
Grogiaid yn Nhrefforest. Dyma gartref y
ceramigau byd-enwog sydd wedi
anfarwoli arwyr byd y bêl, mawrion y
llwyfan, a llu o eiconau cenedlaethol.
Crefftau
1...,2,3,4,5,6,7,8,9,10 12,13,14,15,16,17,18,19,20,21,...23