Sialens Beicio'r Cymoedd
Mae Sialens Beicio'r Cymoedd yn
cynnig dringfeydd clasurol,
golygfeydd syfrdanol, a
disgyniadau cyflym.
Mae dewis o ddau bellter:
Cwrs Cyffredin
65 cilomedr yn dringo cyfanswm o
3,800 troedfedd
Cwrs Arwrol
95 cilomedr yn dringo cyfanswm o
6,000 troedfedd
Mae'r ddau gwrs yn dechrau ym
Mharc Gwledig Cwm Dâr, ac yn
cynnwys llwybrau yn y Rhigos, y
Bwlch, a mannau mynyddig eraill.
Hoffech chi ragor o wybodaeth?
Anfonwch e-bost:
Gwasanaeth Coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn
coffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd
Cyntaf, er parch i'r rhai a fu'n
gwasanaethu ar y pryd, yn enwedig y
rheiny a wnaeth yr aberth eithaf.
Caiff Diwrnod y Lluoedd Arfog ei
ddathlu bob blwyddyn, a daw miloedd
o bobl i ymweld â'n man arobryn, Parc
Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd,
gydol y flwyddyn. Yn ogystal â hynny,
rydym ni'n falch iawn o'r casgliad
gwych o gofebau rhyfel mewn sawl un
o'r trefi ym mhob rhan o Rondda
Cynon Taf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf
am ein seremonïau coffáu'r Rhyfel Byd
Cyntaf drwy ymweld â:
/
firstworldwarcentenary
Bwlch, Rhondda
1...,6,7,8,9,10,11,12,13,14,15 17,18,19,20,21,22,23