header Cymraeg English
Pontypridd  
   
Hanes Pontypridd
Hanes Pontypridd

Mae'n eithaf anodd mynd i'r afael yn iawn â chefndir Pontypridd ond, cyn i William Edwards adeiladu'r bont ym 1756, mae'n ymddangos mai ardal denau ei phoblogaeth o ffermydd gwasgaredig oedd Pontypridd – lle gwledig, digon marwaidd. Dechreuodd y boblogaeth dyfu ryw 50 mlynedd yn ddiweddarach pan sefydlwyd Gwaith Tun Trefforest (tua 1800) a'r system drafnidiaeth ar y gamlas a gludai ddeunyddiau crai o gymoedd Cynon a Merthyr.

   
‘Yr Hen Bont', Pontypridd
‘Yr Hen Bont', Pontypridd

Teithwyr ar droed yn unig sy'n cael defnyddio pont William Edwards erbyn heddiw. Mae'r adeiladwaith yma o hyd yn gofadail i ddyfeisgarwch a dyfalbarhad William Edwards.

   
Yr Anthem Genedlaethol
Yr Anthem Genedlaethol

Mae Anthem Genedlaethol Cymru yn un o'r anthemau mwyaf ardderchog yn y byd ac yn gân wedi'i gwreiddio yn hanes. Evan James a'i fab James James, dau fasnachwr gwylaidd a oedd yn byw ym Mhontypridd yng nghanol yr 19eg ganrif a'i sgrifennodd hi.

   
Llwybr yr Anthem Genedlaethol
Llwybr yr Anthem Genedlaethol

Pontypridd yw cartref gwreiddiol yr Anthem Genedlaethol, ond mae'r Anthem yn rhan o hanes sawl tref arall yn yr ardal hefyd. Ydych chi'n hoffi tipyn bach o antur? Dilynwch Lwybr yr Anthem gyda ni! Byddwch yn dod i nabod yr ardal yn well, ac yn dysgu am ein Hanthem hefyd.

Mae'r cysylltau ar y map yma i gyd yn ymwneud â digwyddiadau pwysig yn hanes ein Hanthem. Pan gliciwch ar un o'r cysylltau, byddwch chi'n mynd yn syth at yr wybodaeth.
   
Brown Lenox Chainworks
Brown Lenox Chainworks

Yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Y Chainworks ', mwynhaodd Brown Lennox and Co. Ltd berthynas faith â Phontypridd gan wneud cyfraniad arwyddocaol i hanes y dref.

   
Philip Thomas
Philip Thomas

Mae'r garreg fedd sy'n nodi man claddu Phillip Thomas heddiw yn sefyll ym Mynwent Glyn-taf.

   
CÔr Meibion Pontypridd

CÔr Meibion Pontypridd

Cafodd Côr Meibion Pontypridd ei sefydlu ar ôl i grŵp bach o ddynion gynnal cyfarfod yn yr ‘Educational Settlement’ yng nghanolfan Y.M.C.A y dref ar Dachwedd 19eg 1949. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd y côr yn cael ei adnabod fel ‘Pontypridd Educational Settlement Male Choir’.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf