header Cymraeg English

Hanes yr Anthem Genedlaethol

 
   

The Story of The Welsh National Anthem - Hen Wlad fy Nhadau - The Land of My Fathers

Evan James

Evan James

James James

James James

   
Cefndir  
   

Mae Anthem Genedlaethol Cymru yn un o'r anthemau mwyaf ardderchog yn y byd ac yn gân wedi'i gwreiddio yn hanes. Evan James a'i fab James James, dau fasnachwr gwylaidd a oedd yn byw ym Mhontypridd yng nghanol yr 19eg ganrif a'i sgrifennodd hi. Cafodd Evan James ei eni ym 1809 yng Nghaerffili ond pan roedd e'n bedair blwydd oed symudodd i fyw yn nhafarn yr Ancient Druid yn agos i Argoed ym mhlwyf Bedwellte. Gwehydd oedd o ran ei swydd ond treuliodd flynyddoedd cynnar ei fywyd priodasol yn dafarnwr hefyd a sefydlodd ei wydd yn agos i'r dafarn. Cafodd ei fab James ei eni yno hefyd ym 1832 a roedd e'n un o saith blant. Daeth Evan James a'i deulu i Bontypridd ym 1847 i redeg ffatri wlân wrth ochr Afon Rhondda. Yno buodd e tan ei farwolaeth yn 1878. Gadawodd James James Pontypridd i fynd i Aberpennar ac wedyn symudodd i Aberdâr yn 1893 lle buodd e farw ym 1902.

Byddai Evan James yn treulio llawer o oriau yn darllen llenyddiaeth a chyfansoddi barddoniaeth seml. Mae llawer yn dweud roedd e'n cadw darn o lechfaen wrth ei ochr drwy'r amser rhag ofn byddai syniadau newydd yn dod i'w feddwl. Rydyn ni'n deall bod James wedi amlygu dawn naturiol at gerddoriaeth o oedran ifanc iawn ac roedd e wrth ei fodd yn canu'r delyn. Felly byddai'r tad a'i fab yn treulio nosweithiau hir hapus gyda'i gilydd, un yn cyfansoddi penillion a'r llall yn chwarae cerddoriaeth.

Y Ffatri Mill Street i Evan James

Y Ffatri Mill Street i Evan James
   

Genedigaeth' yr Anthem Genedlaethol

 
   
Mae pawb yn cytuno bod y dôn wedi ei chyfansoddi ym mis Ionawr 1856. Mae'r dyddiad wedi'i ysgrifennu ar gopi cynharaf yr Anthem sy'n dal gyda ni, llawysgrif yn llaw James James ac sydd yn cael ei chadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Does dim sicrwydd ynglyn ag amgylchiadau cyfansoddi'r anthem fodd bynnag. Mae'n ddirgelwch i'r dydd heddiw ai'r geiriau ynteu'r gerddoriaeth a ddaeth gyntaf. Yn anffodus does dim cofnod dibynadwy ar gael ac mae llawer o storïau sy'n gwrthddweud ei gilydd yn dal o gwmpas o hyd. Mae un o'r rhain yn dweud y cafodd geiriau Hen Wlad Fy Nhadau ei ysgrifennu yn ymateb i wahoddiad ei frawd i ymuno ag e yn America. Mae e'n rhoi'r geiriau i James a'r rheiny'n ei ysbrydoli i gyfansoddi'r gerddoriaeth.
Rhoddodd Taliesin James, mab James James, esboniad arall mewn llythyr at John Crockett o Bontypridd. Wedi'i ddyddio Rhagfyr 1910, ysgrifennodd James wedi cyfansoddi'r dôn wrth gerdded ar hyd ochr Afon Rhondda a gofyn i'w dad i ysgrifennu penillion iddi. Beth bynnag yw'r gwir, enwon nhw'r gân yn ‘Glan Rhondda' - addas iawn yn yr amgylchiadau.

Cerddoriaeth ddalen Anthem

Cerddoriaeth ddalen Anthem
   

Blynyddoedd cynnar yr Anthem

 
   

Er na chafodd hi ddim ei chydnabod yn Anthem Genedlaethol Cymru, mae Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei hystyried yn anthem gan y bobl ers cyn diwedd yr 19eg ganrif. Chafodd hi mo'i chomisiynu i gofio rhyw achlysur arbennig fel anthemau eraill. Yn wahanol i anthemau eraill, enillodd hi ei phlwyf yn araf a hawlio lle bob perfformiad. Perfformiwyd y gân gan ferch 16 mlwydd oed o'r enw Elizabeth John o Bontypridd yng Nghapel Tabor Methodistiaid, sydd nawr yn Glwb Gweithwyr, ym Maesteg. Yn ôl erthygl a ysgrifennodd y newyddiadurwr a'r derwydd, Owen Morgan (Morien) ar gyfer y “Western Mail” (Ebrill 4ydd 1894) canodd James James ei hun y gân mewn eisteddfod yn Nhafarn Castell Ifor yn Nhrehopcyn. Mae ffynonellau eraill yn dweud iddo ganu'r alaw yn Seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Pontypridd a gafodd ei chynnal ar Gomin Pontypridd ym 1857.

Maesteg Workingmens Club

Maesteg Workingmens Club
"Gems of Welsh melody"

Daeth hi'n fwy cyfarwydd ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 1858 Llangollen. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymru oedd heb eu cyhoeddi. Cynhwysodd Thomas Llewelyn (Llewelyn Alaw) o Aberdâr Glan Rhondda yn ei ddetholiad a rhannodd y wobr gyntaf. Roedd John Owen (Owain Alaw) y beirniad a cherddor o fri yn hoffi'r gân yn fawr iawn. Penderfynodd i gynnwys y geiriau a'r gerddoriaeth yn ei gasgliad, Gems of Welsh Melody , a gafodd ei gyhoeddi gan Isaac Clarke o Ruthun ym 1860. Trefnodd yr alaw ar gyfer pedwar llais hefyd a rhoddodd y teitl Hen Wlad fy Nhadau iddi. Rydyn ni bron yn sicr y cafodd y geiriau eu cyhoeddi am y tro cyntaf yn y llyfr ‘ Gems of a Welsh Melody' . Mae tudalen o faled yn cael ei chadw yn llyfrgell Pontypridd ac mae'r geiriau arno'n dweud ei bod wedi ei hargraffu gan F. Evans o Bontypridd ym 1858. Bydd rhaid chwilio ymhellach ynghylch dilysrwydd y dyddiad.

Canodd John Owen Hen Wlad Fy Nhadau mewn nifer o gyngherddau dros Ogledd Cymru i gyd. Ac iddi hi gorawd fflamychol ac yn hawdd ei dysgu daeth hi'n boblogaidd iawn gyda dilynwyr yr Eisteddfod. Roedd yr unawdwyr mawrion yn ei chanu eu hunain gyda chrynawch wrth weld ymateb y cynulleidfaoedd. Canodd Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) y gân gyda chryn effaith yn Eisteddfod Caer ym 1866 yn ôl yr hanesydd Dr John Davies. “Cafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chanu gyda'r fath frwdfrydedd fel y cafodd ei mabwysiadu yn Anthem Genedlaethol. Cafodd ei chanu i gau pob sesiwn a phob Eisteddfod o hyn ymlaen” meddai Dr John Davies yn ei lyfr A History of Wales. Naw mlynedd wedyn cafodd y gân ei chanu gan yr unawdwr blaenllaw Robert Rees (Eos Morlais) yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. “Roedd ei berfformiad yn llwyddiannus iawn” meddai'r papur newydd “Baner ac Amserau Cymru”. Cafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chydnabod yn gân yr Eisteddfod yn Eisteddfod Caernarfon ym 1880 a chafodd ei chanu ym mhob un o seremonïau'r orsedd ers hynny.

Cafodd Hen Wlad fy Nhadau hwb arall eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gafodd ei chynnal yn Neuadd Albert yn Llundain yn 1887. Doedd dim modd i'r Tywysog Albert Edward, Tywysog Cymru, osgoi'r Eisteddfod hyn er roedd e wedi llwyddo i wneud sawl esgus yn y gorffennol. Arweniodd Eos Morlais pawb i ganu “God Bless the Prince of Wales” wrth iddo dyrraedd. Ar ddiwedd yr achlysur cododd Eos i ganu Hen Wlad Fy Nhadau. Cododd Albert a'i deulu hefyd a sefyll tra oedd yr anthem yn cael ei chanu. Dydyn ni ddim yn gwybod pam cododd e ond roedd y teulu brenhinol wedi codi i Anthem Genedlaethol Cymru.

Ar ddiwedd yr 19eg ganrif cymerodd yr anthem gam mawr arall ymlaen. Cafodd y recordiad cyntaf o ganeuon Cymraeg ei gwneud yn Llundain ar Fawrth 11 1899 a chafodd ei dosbarthu gan Gwmni Gramaphone. Roedd Hen Wlad Fy Nhadau ymhlith y caneuon hynny.

   

Cofio Anthem Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd

 
   

Roedd coffadwriaeth gyntaf Pontypridd i awdur a chyfansoddwr yr anthem ym 1909. Rhoddodd prifathro cyntaf Ysgol Ramadeg Pontypridd, Mr Rhys Morgan, anerchiad i Gymdeithas Cymrodorion Pontypridd a phlediodd achos sefydlu cofeb i Evan James a James James yn ystod mis Ebrill y flwyddyn honno. Ar Fehefin 10fed 1909, cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Adeilad y Dref. Cafodd pwyllgor ei benodi a oedd yn cynnwys y Cynghorydd Hopkin Morgan yn gadeirydd a Mr Rhys Morgan a Mr J Colenso Jones yn gyd-ysgrifenyddion. Serch hynny, aeth dros 20 mlynedd heibio cyn llwyddo i wireddu delfryd Mr Rhys Morgan i gael cofeb i gofio Evan a James James.

Dechreuodd y prosiect yn dda iawn. Ar ddiwedd Mehefin 1909 ymddangosodd adroddiad a rhestr o lofnodion ynglyn â chyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cyffredinol yn y papur newydd ‘Pontypridd Observer'. Cafodd cylchlythyrau eu hanfon allan a chafodd cyngherddau eu cynnal i godi arian. Aeth Henry Davies i America hyd yn oed ym mis Mehefin 1913 i godi arian oddi wrth Gymry America er inni weld yn yr Observer iddo ddioddef y sarhad o wadu sibrydion ei fod e wedi gwario peth o'r arian a gododd tra oedd e yno.

Pum mlynedd ar ôl dechrau'r ymgyrch roedd nod y pwyllgor yn dal heb ei chyrraedd. Cafodd haelioni'r cyhoedd ei dynnu tuag at Senghennydd ar ôl y drychineb gwaith glo ofnadwy ym mis Hydref 1913. Yr ergyd olaf fodd bynnag oedd dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dyna roi'r gorau i'r ymgyrch.

Sir W Goscombe John

Sir W Goscombe John

Ar ôl y rhyfel roedd hi'n anodd iawn ail sefydlu'r ymgyrch. Nid tan 1928 aeth Syr W Goscombe John i gyfarfod o'r pwyllgor codi arian â model bach o'r gofeb roedd e'n meddwl fasai'n addas. Er cytuno â'i awgrym, roedd angen £500 o hyd cyn gallu cau'r ymgyrch. Ar ôl nifer o fisoedd ac ond ychydig lwyddiant, penderfynodd Mr Rhys Morgan drafod y mater gyda Syr William Davies, golygydd y ‘Western Mail'. Ymddangosodd apêl yn y cyhoeddiad ar Fehefin 29ain 1929 a oedd yn haeddu ‘ymateb cyflym' gan bob ‘Cymro a Chymraes'. Cafodd yr arian ei gasglu mewn amser byr iawn.

Erbyn mis Mai 1930 roedd Syr W Goscombe John bron wedi gorffen ei waith. Mae llythyr a llun a anfonodd e at ysgrifenion cofeb Hen Wlad Fy Nhadau, yn dangos y basai'r gofeb ddau ffigwr efydd, un yn cynrychioli cerddoriaeth ac un yn cynrychioli barddoniaeth. Roedd y gofadail orffenedig i'w gosod ar bedestal o garreg glas o Chwarel Graig yr Hesg gerllaw.

Ar Orffennaf 23ain 1930 cafwyd dadorchuddio cofeb Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad. “Roedd hi'n ddiwrnod nodedig yn hanes Pontypridd” meddai'r ‘Observer'. Fel mae'r cardiau gwahoddiad isod yn dangos casglodd gorymdaith y tu allan Adeiladau'r Dref ac ymdeithio i Barc Ynysangharad lle roedd 10,000 o bobl wedi casglu. Dadorchuddiodd Arglwydd Treowen y gofeb yng ngwydd yr Archdderwydd ‘Pedrog' ac aelodau eraill o'r Orsedd.

Flwyddyn ar ôl dadorchuddio'r gofeb ym Mharc Ynyshangharad, cafodd carreg farmor ei chodi yn Mill Street, Pontypridd i nodi'r fan lle safai ffatri wlân Evan James ar un adeg.

Yn anffodus, cafodd y garreg ei difrodi yn ystod gwaith adeiladu a llechfaen arall llawer llai trawiadol sy ar ochr yr adeilad heddiw.

Yn ôl cofnodion Cyngor Pontypridd, roedd dadorchuddio'r llechfaen ym 1931 yn uchafbwynt i'r prosiect a oedd wedi dechrau dros 20 mlynedd cynt gan Mr Rhys Morgan a Chymdeithas Cymrodorion Pontypridd.

Blwyddyn bwysig arall ynglyn â choffau'r Anthem Genedlaethol gan dref Pontypridd oedd 1956. Roedd wythnos lawn o wasanaethau coffa a dathliadau yn ystod canmlwyddiant yr anthem gan gynnwys gwasanaethau crefyddol, cymanfaoedd canu, cyngherddau ysgol, diwrnodau mabolgampau yn ogystal â ras 10 milltir rhwng Aberpennar a Phontypridd. Yr uchafbwynt oedd cyngerdd mawreddog gan gynnwys perfformiad gan y canwr opera byd enwog Geraint Evans o Gilfynydd. Y tu hwnt i Bontypridd noddodd y ‘Western Mail' gystadleuaeth Traethawd i Ysgolion. Heb unrhyw syndod i neb, pwnc y traethawd oedd ‘The Welsh National Anthem' neu ‘Yr Anthem Genedlaethol Cymru' (sic).

Torri papur newydd
Ein Hanthem Genedlaethol
Ychydig ddiwrnodau cyn dechrau dathliadau canmlwyddiant yr anthem adroddodd y ‘Western Mail' bod ymwelwyr a ddaeth i weld bedd Evan James yng Nghapel Carmel y Bedyddwyr yn Mhontypridd wedi cael sioc i weld cyflwr ofnadwy'r fynwent. Dechreuodd Mr William Gilmore, un o ddiaconiaid capel Carmel brosiect i drawsffurfio mynwent yr eglwys yn ardd goffa gyda chymorth Clwb Rotari Pontypridd. Cafodd achlysuron eu cynnal i godi arian, gan gynnwys cyngherddau a gêm rygbi ym mharc y dref. Roedd hi'n anodd iawn casglu digon o arian er cael rhoddion hael gan y Clwb Rotari a Chyngor Sir Morgannwg. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962 apêlodd y Parchedig Haydn Lewis o Don Pentre ond cododd e dim ond £10.

Yn anffodus doedd prosiect yr ardd goffa ddim yn llwyddiannus fel yn achos y gofeb ym Mharc Ynysangharad. Cafodd Capel Carmel ei dynnu i lawr ym 1969 a'r ardd goffa ei gadael mewn cyflwr enbyd. Mae'r adroddiadau'n dangos y dadlau ynglyn â datgladdu ac ailgladdu gweddillion Evan James (cliciwch yma). Ar fore Sul tawel ar Orffennaf 1af 1973, cafodd gweddillion Evan James a'i wraig Elizabeth eu hailgladdu ym Mharc Ynysangharad ym mhresenoldeb Mr Gilmore, y Parchedig Haydn Lewis ac eraill.

Ymhlith coffadwriaethau eraill yn ddiweddar mae enwi'r ysgol Gymraeg newydd a agorodd ym Mhontypridd ym 1983 yn ‘Ysgol Evan James' a llun mosaig mewn tanffordd yng nghanol y dref sy'n darlunio'r ddau.

Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu gan Wasanaeth y Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Cliciwch yma i weld Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf

Capel Carmel

© 2018 Rhondda Cynon Taf Libraries