header Cymraeg English
Brown Lenox Chainworks  
   
Brown Lenox
   
Yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Y Chainworks ', mwynhaodd Brown Lennox and Co. Ltd berthynas faith â Phontypridd gan wneud cyfraniad arwyddocaol i hanes y dref. Mae dechreuadau'r cwmni yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1800au pan gymerodd Samuel Brown batent ar gadwyn haearn gyr yr oedd wedi'i dyfeisio i ddisodli'r ceblau o raffau cywarch a ddefnyddid i ddal angor llong. Gan nad oedd yn gallu ariannu'r prosiect nes ei gwblhau, perswadiodd berthnasau a ffrindiau i'w helpu. Arweiniodd hyn ym 1806 at sefydlu partneriaeth rhwng Brown a'i gefnder, Mr Samuel Lennox, a dyna, i bob pwrpas, ddechrau cwmni Brown Lennox.
 
Brown Lenox
   

Er mwyn dangos rhagoriaeth cadwyni haearn, gosododd Brown rigin a cheblau môr o haearn ar long o'r enw Penelope a hwylio i India'r Gorllewin.

Gwnaeth hyn gymaint o argraff ar y Morlys fel iddynt orchymyn gosod ceblau cadwyn ar bedair llong ryfel cyn gynted ag iddo ddychwelyd ym 1808. A dyna ddechrau cyfres ddi-dor o gytundebau blynyddol a barhaodd am dros ganrif rhwng 1808 a 1916. Nid yw'n syndod i waith mwy gael ei godi ym Millwall ar afon Tafwys ym 1812 i gwrdd â'r galw. Fodd bynnag, roedd y galw cynyddol am gynhyrchu cadwyni yn dangos bod angen gwneud hynny.

Uchod: Dolenni cadwyn o'r SS Mauretania cyn eu profi (chwith) ac ar ôl eu profi (de) dan lwyth o 370 tunnell
Dolenni cadwyn o'r SS Mauretania cyn eu profi (chwith) ac ar ôl eu profi (de) dan lwyth o 370 tunnell
Isambard Kingdom Brunell yn sefyll wrth ochr cadwyni wedi'u gwneud gan Brown Lennox ar gyfer yr SS Great Eastern

Dewiswyd Pontypridd fel lleoliad y gwaith cadwyni oherwydd ei fod mor agos i gyflenwad o haearn a glo. Roedd y gwaith, a godwyd ym 1816, yn Ynysangharad gerllaw Camlas Morgannwg. Cafodd dau fasn camlas eu hadeiladu, un i dderbyn tanwydd a haearn a'r llall i gael gwared â'r cynnyrch gorffenedig. Roedd y gwahaniaeth o 20 troedfedd rhwng y ddau fasn camlas yn gyfrifol am lif mawr o ddwr a rhedai hwnnw'n ddigon cyflym, drwy olwyni dwr ac yna tyrbeini, i gynhyrchu'r holl bwer a oedd yn angenrheidiol.

Daeth cynhyrchu ceblau cadwyn yn llawer haws wedi dyfodiad peiriant i blygu a sgarffio dolenni cyn eu defnyddio i wneud cadwyn. Samuel Brown, gyda chymorth Phillip Thomas - rheolwr cyntaf y gwaith - a ddyfeisiodd y peiriant hwn. Wrth i'r diwydiant glo ddatblygu ac i'r galw am beiriannau weindio a chludo gynyddu, ehangodd y cwmni ei orwelion a chynhyrchu gwahanol fathau o offer. Parhaodd y cwmni i ddatblygu'n gyflym a chodwyd estyniad i gynnwys morthwylion stêm ar gyfer gwneud angorau trymion. Mae cyfrifiadau'r 1800au yn dangos bod pobl yr ardal yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y gwaith. Yn wir, mae map 1875 yr Arolwg Ordnans a chyfrifiad 1881 yn dangos mai enw'r rhes o dai ar ochr arall y gamlas, gyferbyn â'r gwaith, oedd Chainworkers Row.

Chwith: Isambard Kingdom Brunell yn sefyll wrth ochr cadwyni wedi'u gwneud gan Brown Lennox ar gyfer yr SS Great Eastern

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf