header Cymraeg English
Yr hen bont ym Mhontypridd  
   
William Edwards
William Edwards

Ganed William Edwards yn fferm Ty Canol, y Groes-wen, ym mhlwyf Eglwysilan, ym 1719, ond ar fferm arall yn yr un plwyf, Bryn-tail, y treuliodd e'r rhan fwyaf o'i fywyd. Fe fuodd ei dad, Edward Dafydd, farw a William ond yn blentyn. Yn ôl yr hanes, boddi wnaeth e, wrth geisio croesi rhyd Afon Taf.

Ychydig o addysg ffurfiol gafodd Edward ond roedd e'n darllen llawer o lenyddiaeth Gymraeg ac yna, yn ei ugeiniau, dysgodd ddarllen ac ysgrifennu Saesneg yn ychwanegol. Yn ôl un o'i gyfoeswyr, bachgen styfnig a phenderfynol oedd e – nodweddion y buodd yn dda iddo pan aeth e ati i godi'r bont ym Mhontypridd. Roedd e hefyd yn ddyn crefyddol iawn a daeth yn weinidog ar gapel Methodist lleol y Groes-wen ac yntau ond yn ei ugeiniau – swydd a gynhaliodd weddill ei fywyd.

Fe ddysgodd e grefft saer maen o'i ben a'i bastwn a'i brofiad ei hun. Roedd e'n barod i ddysgu gan eraill serch hynny; a phan ddaeth seiri maen i'r ardal i godi efail i'r gof dysgodd gop ï o' u hoffer a' u technegau adeiladu nhw. Yn sgîl ei ddawn gyda thrin cerrig, cyn pen fawr o dro roedd pobl yn ei gydnabod yn adeiladwr mwyaf medrus yr ardal. Am fod y fath enw da iddo fe, cafodd gynnig y gwaith yn sgîl penderfyniad i godi pont gerrig ar draws Afon Taf. Roedd y cytundeb a lofnododd e gyda chynrychiolwyr Cantrefi Meisgyn a Chaerffili yn gofyn am godi pont ar draws Afon Taf, ynghyd â gwaith cynnal a chadw'r bont honno dros gyfnod o saith mlynedd.

Yr hen bont

Yr hen bont

Y Bont Heddiw 2006

Y Bont Heddiw 2006

Y Bont Heddiw

Teithwyr ar droed yn unig sy'n cael defnyddio pont William Edwards erbyn heddiw. Mae'r adeiladwaith yma o hyd yn gofadail i ddyfeisgarwch a dyfalbarhad William Edwards.

Adeiladu'r Bont  
Canolfan y Bont
Roedd y bont bren a gododd William Edwards gyntaf yn llawer mwy confensiynol na'r un a'i gwnaeth e'n enwog – ac roedd iddi dri bwa. Rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth storom arw a chododd llif yr afon, gan olchi swp mawr o gerrig a choed a sbwriel i lawr yn erbyn ei cholofnau cynnal. Yn y diwedd roedd y pwysau yma'n ddigon i'w bwrw hi drosodd ac fe aeth hi gyda'r afon. Yn wyneb y profiad yma o geisio codi pont dros Afon Taf a'i llifogydd gwyllt – a'r diwedd a ddaeth iddi hi – penderfynodd e ar ateb llawer mwy chwyldroadol – byddai i'r bont newydd un bwa yn unig , er mwyn osgoi dal unrhyw sbwriel fyddai'n dod i lawr gyda'r afon.
Yn ffodus iawn, mae nifer o lawysgrifau o'r cyfnod ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n cofnodi'r amgylchiadau ynghylch ymdrechion William Edwards i godi pont un bwa dros Afon Taf. Llawysgrif Plas-y-brain ydy un – ac mae un arall gan un o'i gyfoeswyr, o'r enw Thomas Morgan. Dyma ddywed Thomas Morgan am y cais cyntaf i godi pont un bwa: ‘.. pan roedd e bron â gorffen y bwa, methodd y gwaith coed yn y canol â chynnal, a chwympodd y cyfan i waelod yr afon'. (Cyfieithiad) Y cofnod yn llawysgrif Pen-y-brain, serch hynny, yw, ‘ Toc wedi cwblhau'r bwa gyntaf, a chyn cael y canol ynghyd, daeth llifogydd a golchi'r cyfan i ffwrdd'. (Cyfieithiad) P'un bynnag o'r rhain sy'n gywir, mae hi'n glir bod ail gais William Edward i bontio Afon Taf wedi methu hefyd. Fe fyddai'r rhan fwyaf o ddynion wedi rhoi'r ffidil yn y to ar ôl dau fethiant - ond rhoi cynnig arall ar godi pont un bwa ar draws Afon Taf oedd ymateb William Edwards.
De drychiad

Yr awgrym yn adroddiadau'r cyfnod ydy bod y bont wedi'i chwblhau'r tro yma a'i bod hi wedi sefyll am tua chwe wythnos cyn cwympo unwaith yn rhagor. Roedd diffyg profiad William Edwards o godi'r math yma o adeiladwaith wedi dod i'r amlwg – doedd dim cydbwysedd yn y bont orffenedig a hynny'n gwthio'r cerrig allweddol allan unwaith yn rhagor – gan achosi'r bont i ollwng. Roedd adroddiad yn ‘Gentleman's Magazine' y cyfnod i'r perwyl ‘..the floods have carried away an arch built over the Taff 144 feet wide.' . Yn yr erthygl ‘The Theory of Arches and Pontypridd' y dyfarniad ydy ‘the weight of the bridge was either too great on the haunches or too little on the crown.'

Pedwaredd pont William Edwards – a'r olaf ohonyn nhw – ddaeth yn fyd-enwog. Yn y bont yma fe drefnodd e'r tyllau crwn enwog - naw troedfedd, chwe throedfedd a phedair troedfedd – yn y spandreli a felly gostwng y pwysau - a'r pwysedd – ar frig y bont. Dyma bont unigryw; a fuodd hi fawr o dro cyn dod yn enwog. Er gwaethaf ei henwogrwydd, dyfarniad erthygl The Theory of Arches and Pontypridd' oedd mai methiant alaethus oedd hi o ran lle i groesi afon. Y feirniadaeth oedd mai dim ond 11 troedfedd o led oedd rhwng y canllawiau a'i bod hi mor serth fel bod rhaid cael cadwyni a phwysau treigl wrth y wagenni ar y ffordd i lawr ar ôl cyrraedd y brig.
Y ffordd

Yn ôl yr hanes, canlyniad cynigion William Edwards i gael pont ar draws Afon Taf oedd ei adael â dyledion sylweddol. Sylw Malkin ar y pryd oedd nad oedd arno unrhyw ddyled o ran gwaith adeiladu ac eithrio i'w ‘ddiwydrwydd a'i gyflog ef ei hun.' Ond, yn ôl ei gyfoeswr Thomas Morgan, erbyn y daeth hi'n godi'r pedwaredd pont ‘…roedd gyda'r saer maen ddyledion sylweddol ac roedd e wedi digalonni. Ond roedd gyda'r Arglwyddi Talbot a Windsor, sy'n berchnogion ar ystadau sylweddol yn y gymdogaeth, gydymdeimlad â'i achos, ac, a hwythau'n barod i roi anogaeth i'r fath athrylith blaengar, aethon nhw ati i drefnu cronfa dysteb ymhlith bonedd y parthau hynny.' (Cyfieithiad)

Ar ôl iddo lwyddo ym Mhontypridd, daliodd William Edwards a'i feibion i godi pontydd hwnt ac yma, nifer ohonyn nhw ac iddyn nhw fwâu hir a cheudodau crwn, fel ym Mhontypridd. Serch hynny, yng ngoleuni'r profiad ym Mhontypridd, roedd i'r ymdrechion diweddarach esgynfannau yn arwain at y pontydd a'r rheiny'n codi'n raddol. Mae'r ysgrif coffa, yn Gentleman's Magazine 1789; yn arwydd o'r enwogrwydd a'r bri a ddaeth i ran William Edwards, a hynny i raddau helaeth yn sgîl yr hyn a gyflawnodd e ym Mhontypridd:

‘Yn ei gartref ger Caerffili, William Edwards, pensaer ac adeiladydd pontydd, neu'r Parchedig William Edwards – roedd e'n arfer cynnal y naill gymeriad a'r llall â'r un dyfalwch a galluoedd… Y gwr anghyffredin yma a gododd y bont enwog dros Afon Taf – Pont y ty pridd -, gerllaw'r New Bridge Saesneg. Lledaenodd ei enwogrwydd ar draws y deyrnas a byddai pobl yn troi ato am gymorth pryd bynnag byddai anhawster ynglyn â chodi pont. Cadwodd ei frwdfrydedd dros weithgareddau crefyddol a chynnal cynulleidfa fawr, gymysg – Methodistiaid yn bennaf – a dal i godi pontydd tan oedd yn 72 mlwydd oed pan fuodd e farw ar ôl brwydro yn erbyn afiechyd hir ag amynedd oedd yn esiampl i bawb.' Mae llechfaen efydd yng Nghapel Groes-wen yr Annibynwyr, lle buodd William Edwards yn weinidog am ddeugain mlynedd, sy'n nodi, ‘Adeiladydd i'r Ddeufyd'. (Cyfieithiad)

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf