header Cymraeg English

CÔr Meibion Pontypridd

 
   

Cafodd Côr Meibion Pontypridd ei sefydlu ar ôl i grŵp bach o ddynion gynnal cyfarfod yn yr ‘Educational Settlement’ yng nghanolfan Y.M.C.A y dref ar Dachwedd 19eg 1949. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd y côr yn cael ei adnabod fel ‘Pontypridd Educational Settlement Male Choir’. Daeth Mr Gwilym T Jones, a oedd yn arweinydd a phianydd enwog ar y pryd, yn arweinydd cyntaf y côr. Cyn hynny, roedd e’n arwain corau gan gynnwys Côr Meibion Cwm-parc, ‘Royal Welsh Male Choir’ a Chôr Meibion Treorci a’r Cylch. Ym 1926, cymerodd e’r awenau o flaen ‘Pontypridd and District Male Voice Choir’. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cytunodd i gyflawni dyletswyddau ychwanegol trwy arwain Côr Meibion Llanharan.

Roedd cyngerdd gyntaf y côr yn gyngerdd breifat ar gyfer henoed Cilfynydd yn ystod haf 1950. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, perfformiodd y côr yn Neuadd Shelley yn ei gyngerdd flynyddol gyntaf. Fis yn ddiweddarach, roedd y côr wedi perfformio yn eu cyngerdd gyntaf nhw a oedd yn rhan o 14 o gyngherddau nosweithiau Nadolig yn olynol yn hen Ysbyty’r Graig. Daeth yn draddodiad fod y côr yn derbyn teisen Nadolig a the gan Weinyddwr yr Ysbyty ar y pryd. Daeth y cyngherddau i ben ym 1965 wrth i’r ysbyty gael ei ailadeiladu. Cystadleuaeth gyntaf y côr oedd eisteddfod is-genedlaethol a oedd wedi cael ei chynnal yn Llanharan ar Fehefin 23ain 1951. Yn rhyfeddol, dyma nhw’n ennill y wobr gyntaf a derbyn clod sylweddol. Mae modd gwerthfawrogi’u llwyddiant nhw drwy ddarllen yr erthygl a gafodd ei chyhoeddi yn y Pontypridd Observer.

Erbyn ail gyngerdd flynyddol y côr ym mis Tachwedd 1951, ‘Pontypridd and District Y.M.C.A Male Voice Choir’ oedd i’w glywed ar wefusau pawb. Roedd pobl o bell yn cael cyfle i glywed y côr pan roedden nhw wedi gwneud ei recordiad cyntaf i’r BBC ym mis Mehefin 1956. Cafodd y recordiad ei gynnwys mewn rhaglen ynglŷn â chanmlwyddiant cyfansoddi Hen Wlad Fy Nhadau a deucanmlwyddiant adeiladu’r Hen Bont. Roedd cyngerdd fawreddog hefyd wedi cael ei chynnal fel rhan o’r dathliadau yn Neuadd y Dref. Dyma fyddai’r gyngerdd olaf y byddai Mr Gwilym T. Jones yn ei harwain. Bu farw ar 31ain Rhagfyr 1956 chafodd plac er cof amdano fe ei ddadorchuddio yn Neuadd Shelley ym mis Medi 1957.

Ar ôl marwolaeth Mr Gwilym T. Jones, cafodd Mr William J. Evans, tad i’r canwr opera Syr Geraint Evans, ei benodi’n arweinydd y côr ym mis Ionawr 1957. Cyn hynny, roedd e wedi ffurfio’r ‘Handel Glee Party’ ym 1932 a oedd wedi ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau amrywiol yn ystod ei oes fyr. Roedd e hefyd wedi ffurfio Côr Ffilharmonig Cilfynydd ym 1950. Dan ei arweiniad ef, roedd ‘Pontypridd and District Y.M.C.A. Male Voice Choir’ wedi ffynnu ac roedd eu perfformiadau nhw’n denu cynulleidfaoedd mawr. Achlysur bythgofiadwy ar fyd y llwyfan gyngerdd oedd pan roedd y côr wedi rhannu’r un llwyfan â Syr Harry Secombe a Syr Geraint Evans yn Theatr Neuadd y Dref, Pontypridd, ym mis Tachwedd 1959. cawson nhw hefyd lwyddiant mewn cystadlaethau ac ennill nifer o wobrau cyntaf mewn eisteddfodau is-genedlaethol. Y flwyddyn wedyn, roedd y côr wedi torri’i gysylltiad â’r YMCA a newid ei enw i ‘Pontypridd Male Choir’. Ond, erbyn i Mr William J Evans ymddeol o’i swydd yn arweinydd ym mis Ionawr 1964, roedd y côr yn cael ei adnabod fel Côr Meibion Pontypridd.

Ei olynydd naturiol oedd Miss Joyce Durston, a oedd wedi bod yn gyfeilyddes y côr ers 1957. Roedd hi eisoes wedi arwain Côr Meibion Pontypridd gyda chlod yn ystod adeg o salwch Mr William Evans. Cyn hynny roedd hi wedi ennill bri i’w hun pan oedd hi’n arwain côr o ryw 24 o fenywod ifainc o’r enw ‘Christie Singers’. Roedd Côr Meibion Pontypridd wedi llwyddo i ennill yr eisteddfod is-genedlaethol yn Aberteifi ym mis Mai 1964 pan roedd e wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn eisteddfod dan ei harweiniad hi. Roedd hyn yn argoeli’n dda. Dyma’r côr yn mynd i’r Almaen ar ei daith dramor gyntaf ym mis Medi 1965 a chynnal cyfres o gyngherddau yn Nurtingen, sef gefeilldref Pontypridd yn yr Almaen. Y flwyddyn olynol, daeth côr meibion o Nurtingen i Bontypridd. Roedd teithiau wedi cael eu cynnal dros y blynyddoedd ac roedd cyfeillgarwch wedi cael eu magu rhwng teuluoedd yn ystod y teithiau cyfnewid yma. Un o’r uchafbwyntiau yn ystod teithiau tramor cynnar Côr Meibion Pontypridd oedd cael gwahoddiad gan Ganghellor Gorllewin yr Almaen, Kurt Georg Kiesinger, ym mis Awst 1968 i berfformio yn ei balas preifat ef ym Mhalas Bebenhausen ger Stuttgart. Roedd y perfformiad wedi cael ei ddangos ar y teledu yn ddiweddarach.

Joyce Durston

Joyce Durston

21st Anniversary Concert Programme

21st Anniversary Concert Programme

Roedd rhai o lwyddiannau mwyaf y côr wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd ar ôl hynny. Cafodd cyngerdd ei chynnal i ddathlu pen-blwydd y côr yn un-ar-hugain oed yng Nghapel Tabernacl ar 19eg Tachwedd 1970. Anfonodd Mr Stuart Burrows delgram i longyfarch y côr, a chafodd e ei dderbyn a’i ddarllen ar goedd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Côr Meibion Pontypridd yn un o ddeuddeg o gorau i berfformio yng nghyngerdd mil o leisiau yn Neuadd Albert. Ym mis Mehefin 1973, roedd aelodau o’r côr wedi cael eu gwahodd i ymddangos ar yr un llwyfan â Marlene Dietrich ar ôl iddi hi ei glywed yn perfformio tu allan i Theatr Newydd Caerdydd pan oedd hi’n perfformio yno. Hwyrach yn y mis, roedden nhw wedi cystadlu yn erbyn deuddeg o gorau meibion eraill o ardaloedd eraill Cymru a nhw oedd y côr cyntaf i ennill cystadleuaeth gorawl ar y teledu. Roedd troffi HTV a siec gwerth £250 wedi cael eu rhoi iddyn nhw. Roedd y côr wedi dathlu eu jiwbilî arian nhw flwyddyn ar ôl hynny a dathlu’r achlysur trwy ennill cystadleuaeth i gorau meibion rhwng 40 a 70 o leisiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin. Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod i gôr a oedd yn cael ei arwain gan fenyw ddod yn fuddugol. Ar ôl mwy o gyngherddau llwyddiannus a thaith i Wlad Pwyl ym 1976, roedd Joyce Durston wedi rhoi’r gorau iddi ym mis Tachwedd 1977. Dan ei harweiniad hi roedd y côr wedi cael nifer o brofiadau llwyddiannus gartref a thramor, ac roedd yn dristwch mawr bod ei chyswllt hir hi â’r côr wedi dod i ben.

Roedd Dorothy Davies-Ingram, a oedd wedi bod yn gyfeilyddes Côr Meibion Pontypridd ers 1964, wedi cael ei phenodi’n gyfarwyddwraig cerdd y côr. Roedd hi eisoes wedi bod yn aelod o gôr Shelley Singers. Ymunodd Jonathan Guillford â’r côr i fod yn gyfeilydd. Roedd Dorothy Davies-Ingram wedi ymddangos am y tro cyntaf yn ei swydd hi fel cyfarwyddwraig cerdd y côr yng Ngŵyl Mil o Leisiau yn Lido Afan, Aberafan, ym mis Rhagfyr 1977. Ym 1989 hi oedd y fenyw gyntaf i arwain Mil o Leisiau yn Neuadd Albert. Roedd y flwyddyn hefyd yn ben-blwydd y côr yn 40 oed. Fel rhan o’r dathliadau roedd Côr Meibion Pontypridd wedi ymddangos mewn cyngerdd gala gyda’r côr meibion Liederkranz Obersingen o Nurtingen ym mis Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen. Yr un flwyddyn, penderfynodd Dorothy Davies-Ingram newid ei swydd a throi’n ddirprwy arweinydd  a chyfeilyddes tra bydd Jonathan Gulliford yn dod yn gyfarwyddwr cerdd.

Dorothy Davies-Ingram

Dorothy Davies-Ingram

St Davids Day 2008 Concert Programme

St Davids Day 2008 Concert Programme

Yn fwy diweddar, mae Côr Meibion Pontypridd wedi mwynhau nifer o deithiau cofiadwy. Roedden nhw wedi teithio i’r Unol Daleithiau yn ystod blwyddyn eu hanner canmlwyddiant nhw ym 1999 ac roedden nhw wedi mynd yn ôl yno bedair blynedd yn ddiweddarach. Roedd Côr Meibion Pontypridd wedi cynnal ymweliad gan Liederkranz Obersingen am bum niwrnod yn 2005 er mwyn dathlu 40 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng y ddau gôr. Yn 2008 roedd y côr wedi cynnal nifer o gyngherddau llwyddiannus ar Ynys Cyprus, ac eleni bydd Côr Meibion Pontypridd yn ymweld â Nurtingen yn ne’r Almaen. Mae cynulleidfaoedd yn mwynhau safonau uchel cerddorol y côr o hyd.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf