header Cymraeg English
Hanes Pontypridd  
   
Y duedd ydy i bobl ei chymryd yn ganiataol mai codi pont William Edwards dros Afon Taf ym 1756 ydy man cychwyn hanes Pontypridd. Ond, er i nodweddion esthetaidd a phensaernïol y bont ragorol yma ddenu llawer o ymwelwyr, ychydig fu'i dylanwad hi ar y cylch. Dim ond ar ôl agor Camlas Morgannwg, ym 1794, y buodd unrhyw newid o bwys yn natur wledig yr ardal.

Cynllun o Gamlas Morgannwg (wedi'i amlygu mewn glas)

Cynllun o Gamlas Morgannwg (wedi'i amlygu mewn glas)

Pentref Trefforest, yn hytrach na Phontypridd, welodd ddatblygiadau cynharaf y cyfnod diwydiannol. Erbyn diwedd degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yno waith tun a gwaith haearn bychan. Trefforest oedd terfynfa tramffordd a osododd y Dr Richard Griffiths rhwng y pyllau glo cyntaf oedd yn cael eu cloddio ym mhen isaf Cwm Rhondda a Threfforest. Fe gloddiodd e gamlas hefyd - Camlas y Doctor - oedd yn cysylltu'r dramffordd â Chamlas Morgannwg. Yn arwyddocaol, roedd Camlas y Doctor a'r dramffordd i bob diben yn anwybyddu'r dreflan fechan, wasgaredig o amgylch pont William Edwards. Fuodd dim un datblygiad o unrhyw bwys ym Mhontypridd ei hun tan agor gwaith cadwyni Brown Lenox ym 1818.
Brown Lenox

Wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd rhagddi, dechreuodd Pontypridd ddisodli Trefforest yn ganolfan fasnachu i'r cylch. Mae Cyfeirlyfr 1835 Pigott yn cofnodi'r newid yma, gan nodi bod marchnad yn cael ei chynnal ym Mhontypridd – ond dim sôn am Drefforest. Hwb sylweddol i Bontypridd oedd agor Rheilffordd Dyffryn Taf, rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful, ym 1841. Mae hi'n arwyddocaol mai ar ochr Cwm Rhondda i'r dyffryn y cafodd gorsaf y rheilfford ei chodi, yn wahanol i'r gamlas. Buan y byddai ehangu aruthrol ar y diwydiant glo ac, achos bod Pontypridd ar garreg drws y maes glo, roedd yn lle delfrydol i elwa ar y sefyllfa. Ar y llaw arall, dechreuodd pethau arafu yn Nhrefforest am nad oedd byllau glo o fewn cyrraedd hwylus iddo.

Amserlen y Rheilffordd sy'n nodi'r newid yn yr enw ym 1866

Amserlen y Rheilffordd sy'n nodi'r newid yn yr enw ym 1866

Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd poblogaeth Pontypridd tua 2,500 ac un Trefforest yn dal dan 1,000. Yn ychwanegol at hynny, roedd llawer o adeiladau wedi' u codi rhwng y dreflan a oedd o amgylch pont William Edwards a gorsaf y rheilffordd - yn ogystal ag ar hyd y rheilffordd a'r dramffordd a oedd yn cyfredeg. Roedd Taff Street wedi datblygu yn brif stryd i fasnach y dref ac roedd pob stryd arall sy wedi'i nodi yng nghyfrifiad 1841 ar yr ochr orllewiniol i Afon Taf, yn eu plith: High Street, Mill Street, Crossbank Street, Market Street a Bridge Street. Roedd tystiolaeth o godi adeiladau hefyd yn ardaloedd Trallwn, Ynysangharad a Choedpen-maen, ar ochr ddwyreiniol Afon Taf. Roedd trigolion yr ardaloedd yma, yn ogystal â rhai ychydig ymhellach i ffwrdd yng Ngwerngerwn, Glyn-taf a Phentre-bach, hwythau yn bur ddibynnol ar y gamlas, y gwaith cadwyni a'r chwareli i gael bywoliaeth.

Ar y dde: Darlun â llaw o Taff Street

Darlun â llaw o Taff Street
OS Map Pontypridd
Dal i gynyddu oedd poblogaeth Pontypridd dros y tri degawd nesaf ac roedd tua 6,000 erbyn 1871. Mae cyfrifiad y flwyddyn honno a map ordnans 1875 yn dangos cynnydd yn nifer y strydoedd sy'n cael eu nodi, gan gynnwys Morgan Street, Union Street a Rickards Street. Roedd y dre'n dechrau ymestyn a bellach yn cynnwys Y Rhiw (Y Graig yn ddiweddarach) a Phont Siôn Norton. O ddarllen map 1875, gwelwn fod yn y dref 5 pwll glo, 3 bragdy, ffatrïoedd gwlân, gwaith brics, melinau a gwaith cemegau. Cafodd dau gwmni pwysig yn hanes datblygu Pontypridd eu sefydlu, sef, Pontypridd Gas and Light Company a Pontypridd Water Works Company.

Roedd Pontypridd yn cael ei disgrifio yn dref “ar gynnydd” neu yn “dref farchnad ar gynnydd”. Ym 1875 mae Worrall's Trade Directory yn ystyried Pontypridd yn “ market town ” sydd wedi ymsefydlu am y tro cyntaf. Yn ystod y 1850au roedd marchnad pur sylweddol yn cael ei chynnal ar y safle presennol a chynnyrch yr ardaloedd o'i hamgylch yn cael ei gario i'r dref bob dydd Mercher a dydd Sadwrn. Roedd bron pawb o bobl Cwm Rhondda'n dod i Bontypridd i siopa a threfnu unrhyw faterion busnes. Byddai cannoedd o bobl yma ar ddiwrnod marchnad a dyna pryd bydden nhw'n prynu' u hanghenion ar gyfer yr wythnos gyfan. Dal i dyfu roedd y farchnad ac, ym 1877, cafodd The Pontypridd Market and Town Hall Company ei ymgorffori yn endid cyfreithiol. Charles Bassett oedd un o'r sefydlwyr – ffigwr amlwg ym mywyd masnachol a chyhoeddus Pontypridd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ei ddylanwad ef, ac yntau'n bostm, feistr, yn allweddol o ran newid enw'r dref o ‘ Newbridge ' i ‘Pontypridd' ym 1856.

Ar y dde: Cynlluniau ar gyfer ehangu'r farchnad dan do

 

Cynlluniau ar gyfer ehangu'r farchnad dan do
Glyn-taf

Wrth i fyd busnes a phoblogaeth Pontypridd gynyddu, datblygodd yn ganolfan i sefydliadau cyfraith a threfn yr ardal. Roedd i'r dref ei heddlu hi'i hun mor gynnar â 1839. O 1851 ymlaen, byddai llys sirol yn cael ei gynnal yng ngwesty White Hart, cyn codi Llys ym 1869. Roedd sefydlu Undeb Pontypridd ar gyfer y Tlodion, ym 1863, a chodi tloty Pontypridd ddwy flynedd wedyn yn fodd arall o gadw rheolaeth ar ymddygiad cymdeithasol y dosbarth gweithiol a oedd ar gynnydd. A'i roi yng ngeiriau'r Athro Meic Stephens, “roedd Pontypridd yn datblygu ei chyfundrefn drefol ei hun ac yn tyfu yn dref o gryn bwys”. (Cyfieithiad ) Agorodd mynwent y dref ym 1871 yng Nglyn-taf. Cafodd papur newydd cyntaf y dref, The Pontypridd District Herald , ei sefydlu ym 1873, ac ar ôl hynny, The Pontypridd Chronicle . Cafodd The Pontypridd Observer, sy'n dal i gael ei gyhoeddi i'r dydd heddiw, ei sefydlu ym 1897. Sefydlwyd Clwb Rygbi Pontypridd ym 1875.

Ar y chwith: Glyn-taf

Wrth i ddau ddegawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd rhagddyn nhw, roedd cynnydd mwy dramatig ar y gorwel. Yn ôl cyfrifiad 1881 roedd poblogaeth y dref yn dal o dan 8,000. Erbyn 1891 roedd wedi cynyddu i 13,000 ac i 20,000 erbyn 1901. Dim rhyfedd, felly, i Aelod Seneddol y dref, Alfred Thomas, wneud y sylw yma yn ei araith wrth agor adeiladau cyngor y dref ym mis Ebrill 1906: “..hanner can mlynedd yn ôl, roedd Pontypridd yn llai nag unrhyw un o'i maesdrefi. Pan rydyn ni'n cymharu, neu, yn hytrach, pan rydyn ni'n gwrthgyferbynu'r darlun sydd gyda ni yn ein cof â'r hyn a welwn ni heddiw, rydyn ni'n cael ein hatgoffa o ryw dref y byd newydd – Unol Daleithiau'r Amerig, er enghraifft”. Dal i dyfu'n gyflym iawn a wnaeth y boblogaeth gyda chyrraedd yr ugeinfed ganrif a chyrraedd ei hanterth yng nghyfrifiad 1921.

Mae twf aruthrol Pontypridd i'w briodoli i dwf aruthrol diwydiant mwyngloddio'r cyfnod. Cyn hynny, ar raddfa fechan roedd y cloddio am lo a bychain oedd y gweithluoedd. Yn sgîl cloddio dwfn am wythiennau glo daeth galw am weithfeydd lle roedd eisiau llawer o weithwyr. Y pyllau cyntaf i godi gwythiennau o lo o byllau dwfn oedd y Great Western yn Nhrehopcyn a'r Albion , Cilfynydd. Er mae ar gyrion y dref roedd y pyllau hyn, gymaint oedd y galw am weithwyr fel yr aeth pobl ati ar frys i godi adeiladau yn y dref ei hun mewn ymdrech i gael digon o dai ar gyfer y gweithwyr. Cloddiwyd Pwll Maritime yn ddyfnach i gyrraedd gwythïen glo ager ym 1906 a dyma'r pwll cyntaf ym Maes Glo'r De i godi ffwrneisi golosg yn is-gynnyrch. Yn sgîl ehangu'r pyllau uchod, tyfodd ardaloedd Pwll-gwaun, Maes-y-coed, Trallwn a'r Graig yn helaeth yn sgîl y perchnogion yn codi rhesi a rhesi o dai ar gyfer eu gweithwyr.

Ar y dde: Capel Carmel

Capel Carmel

Yn ogystal â'r tai ar gyfer y dosbarth gweithiol, cododd tai trillawr, mawreddog o gwmpas y Graig-wen a'r Comin i ddiwallu anghenion dosbarth bychan o weithwyr coler-wen y dref - yn gyfreithwyr, cyfrifwyr, athrawon a gwyr busnes.

Roedd twf diwydiant a thwf y dref yn mynd law yn llaw. Ym 1895 daeth sefydlu Cyngor Dosbarth Trefol ac iddo 6 o gylchoedd etholaethol i ddisodli ‘bwrdd lleol' a fuodd yn llywodraethu'r dref rhwng 1875 a 1895. Roedd nifer o ddyletswyddau statudol ar y cyngor, gan gynnwys cynnal gwasanaethau trydan, nwy a chludiant ar gyfer ei drethdalwyr, yn ychwanegol at lyfrgelloedd cyhoeddus, parciau a meysydd hamdden a phwll nofio awyr agored. Roedd gwasanaeth tramiau rhwng Trefforest a'r dref - ac ymlaen i Gilfynydd a Threhafod - yn gweithredu rhwng 1905 a 1930 pan ddaeth gwasanaeth bysiau-troli i'w ddisodli.
Tram ym Mhontypridd

Tram ym Mhontypridd

Fe godwyd gorsaf gynhyrchu trydan yn Nhrefforest i gynnal y gwasanaethau ac roedd gwaith nwy mawr wedi'i godi gerllaw ers 1894. Agorodd Llyfrgell Pontypridd ym 1890 ac roedd hi'n cynnwys darllenfa, llyfrgell fenthyca ac adran gyfeirio. Cafodd Bwrdd Ysgolion ei sefydlu yr un flwyddyn â'r cyngor dosbarth. Flwyddyn wedyn, dyma agor Ysgol Sir Pontypridd – gyda chymorth rhoddion ariannol gan y pyllau lleol. Ar y dechrau, roedd hi'n ysgol gymysg ac ynddi hi le i 180 o ddisgyblion. Cafodd nifer o adeiladau dros dro eu codi yn wyneb cynnydd yn nifer y disgyblion ac, ym 1913, dyna sefydlu ysgol newydd – i ferched – yn Nhrefforest. Yn nes ymlaen cafodd Bwrdd yr Ysgolion ei ddisodli gan Bwyllgor Addysg Lleol ac iddo 12 o aelodau'n cynrychioli'r cyngor lleol, 4 wedi' u hethol gan gyngor y sir – a rhaid oedd i un ohonyn nhw fod yn fenyw. Nid twf trefi yn unig a ddaeth yn sgîl yr ehangu diwydiannol – bu newid mewn diwylliant ac erydu'r Gymraeg yn iaith y boblogaeth. Cyn cyfnod y pyllau dwfn, pobl o rannau gwledig Morgannwg - ac o siroedd gwledig eraill – oedd wedi' u denu i Bontypridd i chwilio am waith. Arweiniodd y mewnlifiad cyntaf hwnnw at godi capeli gan Anghydffurfwyr a'r Gymraeg oedd iaith yr addoli. Mwy na thebyg mai Howell Harris a gyneuodd fflam Anghydffurfiaeth gyntaf ym Mhontypridd. Fe ymwelodd e â'r cylch ym 1739; ond chafodd yr addoldy cyntaf yn y dref mo'i godi tan 1810 – Capel Carmel y Bedyddwyr. Capel Penuel, yn Taff Street, oedd y cyntaf i'r Methodistiaid Calfinaidd ei godi – hynny ym 1833. Dydy'r naill na'r llall yn sefyll heddiw. Cafodd Capel Sardis yr Annibynwyr ei godi ym 1834 a dyna'r unig gapel lle mae'r Gymraeg yn ffynnu hyd y dydd heddiw. Mae hi'n arwyddocaol nad oedd unrhyw eglwys Anglicanaidd y tu fewn i ffiniau'r dref yn y blynyddoedd cynnar hynny. Sefydlodd Eglwys Loegr Eglwys y Santes Fair, Glyn-taf, ym 1843 ond tan iddyn nhw godi Eglwys y Santes Cathryn ym 1868, doedd yr un eglwys Anglicanaidd yng nghanol y dref.

"Education Committee"
Eglwys y Santes Cathryn

Eglwys y Santes Cathryn

Roedd codi nifer o gapeli o gwmpas y dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adlewyrchu'r cyfnod o dwf cyflym yn ei hanes. At hynny, Saesneg oedd iaith yr addoli mewn llawer o'r capeli hyn – a hynny'n adlewyrchiad o'r ffaith mai pobl o'r tu hwnt i Glawdd Offa oedd y mwyafrif o'r mewnfudwyr i'r dref erbyn hynny.

Roedd diwylliant y capeli anghydffurfiol yn troi o gwmpas corau meibion, cyngherddau ac eisteddfodau. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, fodd bynnag, doedd hynny ddim yn bodloni gofynion adloniadol nifer cynyddol o drigolion y dref. Cafodd nifer o theatrau a sinemâu eu codi yn y dref. Y Royal Clarence Theatre oedd y theatr barhaol gyntaf i'w chodi ym Maes Glo'r De ac ynddi le i gynulleidfa o fil. Cafodd ‘Neuadd y Dref' ar safle Marchnad Pontypridd, ei chodi ym 1885. Daeth Neuadd y Dref – ac iddi seddau ar gyfer 1,700 yn bwysicach na'r theatr. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn fwyfwy poblogaidd yn ogystal.

Roedd paffio yn un gamp a ddaeth â bri arbennig i Bontypridd. Ganed Frederick Hall Thomas, a oedd yn mynd dan yr enw Freddie Welsh, yn Morgan Street a daeth yn bencampwr pwysau ysgafn y byd ym 1914. Un o baffwyr eraill Pontypridd a enillodd fri oedd Frank Moody, a enillodd bencampwriaeth Pwysau Canol gwledydd Prydain ym 1927. Mewn erthygl, dan y teitl ‘Pontypridd – Echel Bydysawd Paffio Cymru' a ysgrifennodd Ted E Lewis, hyrwyddwr, rheolwr ac un o'r aelodau a sefydlodd Bwrdd Rheoli Paffio gwreiddiol gwledydd Prydain, “nad oes un dref o'i maint yn gallu honni ei bod wedi codi pencampwr byd a phencampwr Prydain”. Un ganolfan bwysig ar gyfer nifer o gampau oedd Taff Vale Park yn Nhrefforest. Roedd yn cynnwys trac beicio oedd ar oleddf, trac rhedeg o ludw, caeau chwarae a'r unig eisteddle o sylwedd i'w chael ar draws y cymoedd i gyd. Ymhlith y llu o weithgareddau i'w cynnal yno oedd y Welsh Powderhall Sprint Championship a gafodd ei sefydlu ym 1903. Denodd nifer fawr o gystadleuwyr ac o wylwyr yn ystod y 26 o flynyddoedd y cafodd y bencampwriaeth ei chynnal.

 

Byth oddi ar gyfrifiad 1921, mae poblogaeth Pontypridd wedi disgyn yn barhaus. Roedd yr edwino yn arbennig o amlwg yn ystod y 20au a'r 30au. Yr un yw ei hanes â llawer o drefi eraill y De – dioddef caledi yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd am iddi fod mor ddibynnol ar ddiwydiant glo. Erbyn 1929 roedd y De, a oedd ar un adeg wedi cynhyrchu traean o gynnyrch glo'r byd, bellach yn cynhyrchu llai na 3% ohono. Roedd canlyniad penderfyniad llynges Prydain - a gwledydd eraill i ddefnyddio olew yn lle glo yn ddinistriol i allforion glo ager. A'r maes glo mewn argyfwng, diflannodd pyllau glo'r rhanbarth o un i un ac roedd rhaid i'r rhai a oedd ar ôl fod yn ofalus tu hwnt o' u costiau. Megis yn achos ei chymdogion, gwelodd Pontypridd ei chyfoeth yn crebachu a'i phoblogaeth yn edwino. Roedd rhaid i bobl chwilio am fywoliaeth rywle arall a daeth diweithdra a thlodi yn beth cyffredin ymhlith y rhai a arhosodd yma. Un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol o ran denu swyddi i'r ardal oedd sefydlu Ystad Ddiwydiannol Trefforest ym 1936. Erbyn Medi 1939 roedd 2,500 yn cael gwaith ar yr ystad a rhwng 60 a 70 o gwmnïau'n cynhyrchu nwyddau yno. Chwaraeodd yr ystad ran bwysig yn ystod y rhyfel – mewn perthynas ag awyrennau yn bennaf. Mae hi wedi bod yn ganolfan ddiwydiannol o bwys ers hynny hefyd.
Ystadau Masnachu
Tan y blynyddoedd diwethaf hyn, roedd Pontypridd yn ganolfan siopa lewyrchus oedd yn denu llawer o bobl o'r cymoedd, trefi llai a'r pentrefi. Fe fyddai llu o ymwelwyr yn dod yma'n rheolaidd. Does neb wedi cadarnhau'r union nifer, ond y gred ydy y byddai cymaint â 50,000 yn ymweld ar Sadwrn prysur. Roedd Pontypridd yn ganolfan cymdeithasol a hamdden o bwys. Un o brif drafferthion cael cymaint o ymwelwyr oedd creu tagfa traffig yng nghanol y dref. Er gwaethaf agor cefnffordd A470 a ffyrdd lliniaru eraill, mae'r dref yn dal yn llawn traffig achos bod rhaid i nifer cynyddol deithio ymhellach ac ymhellach i'w gweithle. Mae un her fawr yn wynebu Pontypridd ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain – ydy hi'n mynd ar hyd lwybr ailddatblygu o'r bôn i'r brig – ynteu wrthsefyll twf canolfannau siopa alldrefol a dewis adnewyddu'i hadeiladau gwreiddiol, a, thrwy hynny, gadw'r marchnadoedd dan do a'r awyr agored yn yr hen ddull.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf