6
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2013/14
Fe ddewison ni ein blaenoriaethau ar gyfer 2014/15 trwy gymryd adborth pobl leol
a rheoleiddwyr i ystyriaeth; ynghyd â'r hinsawdd ariannol anodd rydyn ni'n ei
wynebu, a'r cynnydd rydyn ni wedi ei wneud yn ystod 2013/14.
Fe ystyrion ni hefyd sut y byddai'r blaenoriaethau hyn o fudd i chi, trigolion Rhondda Cynon Taf, yn y tymor hir.
1. Gwneud y defnydd gorau o'n cyllideb.
2. Amddiffyn pobl rhag niwed a mynd i'r afael
ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
3. Cadw Rhondda Cynon Taf yn lân ac yn wyrdd.
4. Rhoi cymorth i oedolion a phobl hŷn i fyw'n
annibynnol.
5. Cadw pob plentyn ac oedolyn ifanc
yn ddiogel.
6. Sicrhau addysg o'r radd flaenaf i bawb –
‘Pob Ysgol yn Ysgol Dda’.
7. Gwella ein cymunedau (cyfuno adfywio
ffisegol a chymdeithasol).
Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn cyfrannu at sicrhau bod Rhondda Cynon Taf
yn fwy diogel, yn fwy iach ac yn fwy ffyniannus.
Rhagor o wybodaeth:
• Gweithredu gydag uniondeb.
• Rhoi defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd yr hyn
rydyn ni'n ei wneud.
• Sicrhau ein bod ni'n sôn wrthych chi am sut rydyn ni'n gwneud.
• Ceisio yn gyson i wneud pethau'n well.
• Gweithio gyda phartneriaid lle bydd hynny'n
gwella'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
• Parchu eraill.
Bydd pobl yn bywmewn cymunedau lle mae gwahaniaethau'n
cael eu derbyn, lle mae goddefgarwch a pharch yn rhan o'u
bywydau a lle nad ydyn nhw'n cael eu haflonyddu. Bydd hyn ar
sail ein gwaith ymmaes
cydraddoldeb.
Ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2014–2017:
Gweithredu nawr er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd hyn ar sail ein gwaith ym maes
cynaliadwyedd.
Helpu pobl i fanteisio ar wasanaethau yn eu dewis iaith.
Bydd hyn ar sail ein gwaith ym maes y
Gymraeg.
Themâu pwysig sy'n sail i'n gwaith
Rydyn ni eisiau eich cynnwys chi oherwydd mae hynny'n deg ac yn gywir.
Mae eich cyfraniad chi yn ein helpu ni i gadw golwg ar ein cynnydd ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw ac
yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf. Rhai o'r dulliau gorau i ni gael eich barn yw Panel y Dinasyddion a sesiynau ‘galw
heibio’, ond mae croeso i chi ddweud eich dweud mewn sawl ffordd.
Sut rydyn ni'n ymgysylltu â thrigolion Rhondda Cynon Taf
Cysylltu â ni!
• Gwefan:
• Twitter:
@CyngorRhCT neu
• E­bost:
• Ffôn:
01443 680723
• Llythyr:
Carfan Cyflawniad a Gwella, Tŷ Bronwydd, Y Porth CF39 9DL
• Ar gyfer ymgynghoriadau presennol:
• Dewch yn rhan o Banel y Dinasyddion:
• Hwb Cwm Taf ar gyfer Ymgysylltu:
• Cynllun ‘Rhowch gymorth inni wella’ Rhondda Cynon Taf:
• Eich syniadau ar sut i arbed arian i'r Cyngor:
• Manylion cyswllt eich Cynghorydd lleol:
adran
4
adran
5
1,2,3,4,5 6