4
Cynnal annibyniaeth pobl – rhoi cymorth i oedolion a phobl hŷn fyw'n annibynnol.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Gwella'r ffordd mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydblethu;
• Darparu gwasanaethau o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl ac yn amddiffyn eu hurddas a'u lles, gan eu
cynorthwyo i fyw yn eu cartrefi eu hunain.
Sut gwnaethon ni?
• Rhoddodd Grŵp Ymgynghorol Pobl Hŷn Rhondda Cynon
Taf adborth gonest a defnyddiol i ni ynglŷn â'n gwaith ni
yn y flaenoriaeth yma. Byddwn ni'n parhau i ofyn am eu
safbwyntiau yn y dyfodol.
• Rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth ‘Ymateb Cyntaf’ i
wella sut mae pobl yn cysylltu â'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod un lle i droi am
gymorth. Roedd dros 30,000 o alwadau yn ystod y
flwyddyn gyntaf, ac yn ôl yr adborth, roedd 98.7%
ohonoch chi'n fodlon ar yr ymateb. Ond, mae angen i ni
ddadansoddi'r wybodaeth yma.
• Mae gwaith ein gwasanaeth ailalluogi tymor byr, sydd
wedi ei ddylunio i osod pobl ‘ar ben ffordd’, wedi golygu
bod 94% (307 o bobl ) yn teimlo ein bod ni wedi eu
cynorthwyo nhw i barhau i fyw'n annibynnol.
• Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cwblhau
cynlluniau cymorth tai ym Mhenygraig ac Ynysybŵl, ac
mae'r rhain yn helpu 30 o bobl anabl i fyw'n annibynnol
yn y gymuned.
Helpu i gadw pobl yn iach
Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant a theuluoedd – cadw pob plentyn a
pherson ifanc yn ddiogel a gwella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant bregus.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Cadw plant gyda'u teuluoedd pan fo hynny er lles y plentyn;
• Gwella'r prosesau o asesu, cynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer y plant hynny y bydd arnynt angen gofal
parhaol tymor hir;
• Amddiffyn plant a phobl ifainc bregus rhag niwed;
• Atal plant rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.
Sut gwnaethon ni?
• Mater o ddarparu cymorth cynnar i deuluoedd i'w hatal
rhag cyrraedd pwynt o argyfwng yw'r gwaith yma. Nid
yw ein gwaith hyd yn hyn wedi gwneud y gwahaniaeth
roedden ni wedi ei fwriadu: Mae nifer y plant yn ein
gofal wedi cynyddu o 621 i 650 ac mae nifer y plant ar y
Gofrestr Amddiffyn Plant wedi cynyddu o 363 i 471.
Mae'r ddau ymhlith y niferoedd uchaf yng Nghymru.
• Y flwyddyn yma, roedd 768 yn rhagor o blant yn gallu
manteisio ar y rhaglen ‘Dechrau'n Deg’. Mae gan
gyfanswm o 2,508 o blant yr hawl i fanteisio ar y
rhaglen, sy'n ceisio rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i
blant mewn tlodi.
• Mae'r ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ a'r Tîm Integredig
Cymorth i Deuluoedd yn darparu cymorth wedi'i
bersonoli i deuluoedd. Cafodd ei gydnabod gan
Arolygwyr Gwasanaethau Cymdeithasol fod ganddyn
nhw rai ‘arferion da’ ym mis Mai 2013.
• Mewn rhai gwasanaethau, mae anawsterau o ran
recriwtio staff wedi golygu ein bod ni heb asesu
anghenion plant bregus yn gyflym. Ond rydyn ni wedi
cyflawni mwy o lawer o asesiadau – 2,646 yn 2013/14
o'i gymharu â 2,219 yn 2012/13.
• Mae ein gwaith yn y maes yma wedi arwain at ostyngiad
mewn troseddu gan bobl ifainc, a daeth llai o bobl ifainc
i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro
cyntaf. Mae ein perfformiad yn cymharu'n dda â
gweddill Cymru.