2
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2013/14
Ym Mehefin 2013, cymeradwyodd y Cyngor ei flaenoriaethau ar gyfer 2013/14, sef:
1. Cynllunio gwasanaethau tymor canolig
cyflawni o fewn ein gallu;
2. Materion iechyd a diogelwch y cyhoedd
amddiffyn pobl rhag niwed;
3. Gwasanaethau gofal y strydoedd a'r
amgylchedd naturiol
Bwrdeistref Sirol fwy glân a gwyrdd;
4. Cynnal annibyniaeth pobl
rhoi cymorth i oedolion a phobl hŷn fyw'n annibynnol;
5. Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant a
theuluoedd
cadw pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel a gwella
cyfleoedd bywyd ar gyfer plant bregus;
6. Addysg
sicrhau addysg o'r radd flaenaf i bawb;
7. Adfywio ein cymunedau'n ffisegol;
8. Adfywio ein cymunedau'n gymdeithasol.
Rydyn ni wedi bod yn mesur ein cyflawniad ac yn monitro
ein cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Adroddiad
Blynyddol ar Gyflawniad yn dod â'r wybodaeth yma at ei
gilydd i'n helpu ni i gael gwybod a ydyn ni wedi gwireddu
ein blaenoriaethau.
Beth mae ein Harchwilydd Annibynnol
yn ei ddweud am ein cynnydd?
Ym mis Gorffennaf 2014, dywedodd Swyddfa
Archwilio Cymru:
• “Mae'r Cyngor yn llywio gwelliannau i'w
wasanaethau addysg a'i wasanaethau cymdeithasol,
ond mae'n wynebu her sylweddol i gyflawni targedau
cenedlaethol ar gyfer ailgylchu gwastraff.”
• “Mae prosesau craffu ac adrodd ar berfformiad y
Cyngor yn gwella er bod lle i werthuso'r cynnydd y
mae'n ei wneud tuag at gyflawni ei amcanion gwella
yn well.”
• “Mae trefniadau cynllunio ariannol strategol y Cyngor
wedi parhau'n gadarn ond mae angen gwella'r broses
o gyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion.”
Mae sylwadau cadarnhaol yr Archwilydd yn galonogol, ond
rydyn ni'n cydnabod bod angen i ni wneud yn well mewn
rhai meysydd o'n gwaith hefyd. Mae'r adroddiad cyfan gan
Swyddfa Archwilio Cymru ar gael yn
adran
Ein perfformiad yn 2013/14
Mae'r rhan yma yn crynhoi ein cynnydd ym mhob maes blaenoriaeth. Am ragor o
wybodaeth, ewch i
Cynllunio gwasanaethau tymor canolig – cyflawni o fewn ein gallu.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Parhau i gyflawni sefydlogrwydd ariannol;
• Sicrhau bod trefniadau cynllunio gweithlu effeithiol ar waith;
• Gwella effeithlonrwydd ynni ein hadeiladau;
• Gwella'r wybodaeth sy'n helpu i fesur effaith gwasanaethau'r Cyngor ar ddefnyddwyr gwasanaethau;
• Cryfhau arweinyddiaeth yn lleol er mwyn mynd i'r afael â'r sialensiau o ran cyflawni
gwasanaethau o safbwynt y dinasyddion.
Sut gwnaethon ni?
• Mae angen i ni arbed tua £70 miliwn dros y tair blynedd
nesaf, felly, rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau
anodd iawn ac wedi dysgu gwersi ar sut rydyn ni wedi
cyfleu'r wybodaeth i chi. Rydyn ni'n gwella sut rydyn ni'n
gwneud hyn, er enghraifft, cynnal achlysuron ‘galw
heibio’ i chi gael siarad â ni wyneb yn wyneb, a'ch
gwahodd chi i awgrymu sut i wneud arbedion drwy
dudalennau penodol ar ein gwefan.
• Ar gyfartaledd, cafodd pob gweithiwr dros ddeg a
hanner o ddiwrnodau salwch y llynedd, sy'n well na'r
blynyddoedd blaenorol, ond mae'r gyfradd salwch yn
uwch o hyd na chyfartaledd cynghorau Cymru.
• Rydyn ni wedi arbed dros 2.5 miliwn KWh o ynni yn ein
swyddfeydd y llynedd – tua chymaint â chynnal 124 o
gartrefi am flwyddyn.
• Rydyn ni wedi sefydlu Arsyllfa Ddata, sy'n cynnwys
gwybodaeth am ein hardal a'r boblogaeth. Cymerwch
olwg:
• Rydyn ni wedi sefydlu ‘Hwb ar gyfer Ymgysylltu
Cymunedol’ i'w gwneud hi'n haws i chi fynegi eich barn
ar ein gwasanaethau. Rhowch eich barn yn
2
adran
3