5
Addysg – sicrhau addysg o'r radd flaenaf i bawb.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Sefydlu arweinyddiaeth well a mwy o uchelgais;
• Cynyddu'r ffocws ar addysgu a dysgu o safon uchel;
• Mynd i'r afael â'r rhwystrau i ddysgu sy'n wynebu
llawer o bobl ifanc;
• Defnyddio gwybodaeth yn well i dargedu'r meysydd
addysgu a dysgu lle bo angen gwella;
• Annog ysgolion a theuluoedd i gydweithio'n agosach i
helpu'r plant i ddysgu;
• Moderneiddio a gwella adeiladau a chyfleusterau ysgolion.
Sut gwnaethon ni?
• Mae'r Cyngor yn herio ysgolion i ddarparu safonau uchel
o ran addysg. Yna, rydyn ni'n darparu hyfforddiant ar
gyfer ysgolion ac athrawon fel eu bod nhw'n gallu gwella
a chyflawni'r safonau hyn. O'r 21 ysgol a gafodd eu
harolygu gan Arolygwyr Addysg yn 2013/14, cafodd 14 o
ysgolion eu graddio o leiaf yn dda o ran arweinyddiaeth
a rheolaeth. Mae'r Cyngor yn cynorthwyo'r ysgolion a
gafodd raddau is i wella.
• Rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion a rhieni i newid
agweddau at yr ysgol a hyrwyddo presenoldeb mewn
ysgolion. Mae ein hymgyrch ‘Colli Ysgol, Colli Allan’ a
chynlluniau gwobrwyo a chosbi yn yr ysgolion wedi
helpu i wella presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac
uwchradd, er bod angen i ni wneud mwy i fod yn gyson
â gweddill Cymru.
• Cymerodd 78 o'n hathrawon ran yn y rhaglen ‘Athrawon
Rhagorol’. Mae hyn yn golygu bod athrawon da yn gwella
eu sgiliau addysgu i fod yn athrawon rhagorol. Maen nhw
hefyd yn datblygu'r sgiliau i hyfforddi athrawon eraill.
• Mae rhaglenni gwaith fel ‘Pontydd i Waith’ ac ‘Eich Dyfodol
yn Gyntaf’ wedi helpu bron i 1,000 o bobl i gael gwaith.
• Mae'r rhaglen ‘Teuluoedd ac Ysgolion Gyda'i Gilydd’
(‘FAST’) yn darparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer
teuluoedd â phlant oed cynradd i'w cynorthwyo i ddysgu
sut i oresgyn anawsterau o ran ymddygiad a dysgu.
Sylwodd 46% o'r teuluoedd a gymerodd ran yn y rhaglen
‘FAST’ ar welliant yn ymddygiad y plentyn.
• Mae prosiectau moderneiddio ysgolion eisoes wedi
helpu i gael gwared ar 1,864 o leoedd gwag mewn
ysgolion cynradd.
Helpu pobl i ffynnu
Adfywio ein cymunedau'n ffisegol
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Annog a helpu buddsoddiad a chyllid yn Rhondda Cynon Taf er mwyn cryfhau'r economi a chreu swyddi;
• Gwella canol trefi.
Sut gwnaethon ni?
• Rydyn ni wedi helpu busnesau lleol
i greu 86 o swyddi newydd, a helpu
mentrau cymdeithasol i greu
17 o swyddi.
• Cafodd 43 o bobl eu cyflogi gan
gontractwyr yn sgil contractau wedi
eu cymeradwyo gennym ni.
Yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd:
• Cafwyd cynnydd o 7% yn nifer yr ymwelwyr â chanol tref Pontypridd,
o'i gymharu â gostyngiad o 5.3% ar draws Cymru.
• Ers 2010/11, mae busnesau wedi cael cymorth i greu 37 o swyddi ac i
ddefnyddio gofod busnes o'r newydd.
• Byddwn ni'n cyflwyno ffyrdd gwell i gyfathrebu â pherchnogion
busnesau ac yn gwneud mwy o waith manwl i weld pa wahaniaeth mae ein
gwaith yn ei wneud.
Adfywio ein cymunedau'n gymdeithasol
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Helpu pobl i ddeall eu materion ariannol yn well;
• Cynorthwyo pobl i gael cyflogaeth ac i gael hyfforddiant;
• Gostwng digartrefedd a darparu gwasanaethau sy'n
diwallu anghenion unigolion a theuluoedd.
Sut gwnaethon ni?
• Mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth, rydyn ni wedi
gallu darparu cyngor i dros 2,500 o drigolion. Mae hyn
wedi galluogi rhai o'r aelwydydd tlotaf yn y Fwrdeistref
Sirol i hawlio dros £1.3 miliwn o arian ychwanegol.
• Trwy ein prosiectau Cymunedau yn Gyntaf a'n Clybiau
Menter, cafodd 288 o oedolion o oedran gweithio
swyddi yn sgil hyfforddiant a dysgu.
• Mae pobl hefyd wedi ennill 1,465 o gymwysterau trwy
raglenni dysgu cymunedol a fydd, gobeithio, yn eu helpu
i gael swyddi yn y dyfodol.
• Mae gwaith i'w wneud o hyd, am fod 3.7% o'r trigolion
rhwng 16 a 64 oed yn hawlio budd­daliadau diweithdra,
fel y lwfans ceisio gwaith, o'i gymharu â chyfartaledd
Cymru, sef 3.3%.
• Rydyn ni wedi rhwystro 93.6% o aelwydydd a allai fod
wedi bod yn ddigartref rhag bod yn ddigartref am o leiaf
6 mis, sef un o'r lefelau perfformiad gorau yng Nghymru.
Mae ein gwaith ni wedi amlygu diffyg llety â chymorth ar
gyfer oedolion digartref sengl, a bydd angen i ni roi sylw i'r
maes hwn yn ystod y flwyddyn nesaf.
1,2,3,4 6