Materion iechyd a diogelwch y cyhoedd – amddiffyn pobl rhag niwed.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Helpu pobl i fyw mewn tai addas a diogel mewn cymunedau cynaliadwy a bywiog;
• Helpu pobl i leihau camddefnyddio alcohol a chyffuriau;
• Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phryder y cyhoedd yn gyffredinol, gan amddiffyn pobl rhag pobl sy'n
tramgwyddo dro ar ôl tro;
• Lleihau camdrin domestig a thrais rhywiol a rhoi cymorth i ddioddefwyr;
• Rheoli alcohol trwy drwyddedu effeithiol a hyrwyddo amgylchedd masnachu teg.
Sut gwnaethon ni?
• Rydyn ni wedi helpu i ddarparu rhagor o gartrefi –
cafodd 91 o unedau tai fforddiadwy eu hadeiladu, o'i
gymharu â 40 yn 2012/13, a chafodd 94 eiddo gwag ei
ddefnyddio eto.
• Rydyn ni wedi gosod bron 3,000 o fesurau
effeithlonrwydd ynni mewn 2,617 o gartrefi.
• Mae 59% o gleientiaid yn camddefnyddio llai o alcohol
neu gyffuriau nag roedden nhw cyn cael triniaeth.
• Nid oedd 80 o'r 102 (78%) o ddioddefwyr bregus a/neu
a oedd yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar
ôl tro yn ei ddioddef mwyach/roeddent yn teimlo'n fwy
diogel o ganlyniad i'n cymorth. Yn ogystal,
cynorthwyodd ein gwaith 585 o'r 800 (74%) a oedd yn
cyflawni'r troseddau hyn i roi'r gorau iddi.
• Gofynnon ni i ddioddefwyr camdrin domestig a yw ein
gwasanaethau wedi helpu – roedd 99 o'r 117 a ymatebodd
(84%) yn teimlo'n fwy diogel o ganlyniad i'n cymorth.
• Rydyn ni wedi parhau i fynd i'r afael â masnachu
twyllodrus ac, yn dilyn achlysur codi ymwybyddiaeth,
dywedodd 91% o'r bobl hŷn eu bod nhw'n barod i
wrthsefyll masnachwyr ar stepen y drws.
3
Helpu i gadw pobl yn ddiogel
Gwasanaethau gofal y strydoedd a'r amgylchedd naturiol – Bwrdeistref Sirol fwy
glân a gwyrdd.
Fe ddywedon ni y byddem yn:
• Cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu ei gompostio ac yn lleihau faint o wastraff sy'n
cael ei anfon i safleoedd tirlenwi;
• Cyflawni strydoedd glanach gydol y flwyddyn;
• Darparu priffyrdd ac amgylchedd stryd sy'n cael eu cynnal yn dda sy'n bodloni anghenion trigolion heddiw a'r dyfodol.
Sut gwnaethon ni?
• Rydyn ni wedi ceisio gwneud ailgylchu ac ailddefnyddio
gwastraff yn haws trwy gychwyn casgliadau bob
pythefnos a chynllun ailgylchu cewynnau, ond rydyn ni
wedi methu â chyflawni'r targed ailgylchu o 52% a
bennodd Llywodraeth Cymru yn 2013/14. Rydyn ni wedi
ailgylchu 49.3%, sef un o'r lefelau isaf yng Nghymru.
• Ond, rydyn ni wedi cynyddu faint o wastraff a gafodd ei
baratoi i'w ailddefnyddio; faint o wastraff a gafodd ei
gompostio; a faint o wastraff bwyd a gafodd ei gasglu.
• Rydyn ni hefyd wedi anfon 41.5% o wastraff doedd dim
modd i ni ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu i safleoedd
tirlenwi, sef un o'r isaf yng Nghymru.
• Rhondda Cynon Taf yw un o Gynghorau gorau Cymru o
ran cadw ei strydoedd yn lân, yn ôl Cadwch Gymru'n
Daclus – roedd 99.75% o'r ffyrdd a'r tir a gafodd eu
harchwilio yn lân. Ond, yn ôl arolygon lleol, rydych chi'n
credu bod modd i'n Bwrdeistref Sirol ni fod yn lanach.
Meddai 49% o'r ymatebwyr fod Rhondda Cynon Taf yn
rhydd o sbwriel, o'i gymharu â chyfartaledd o 62% ar
gyfer Cymru gyfan.
• Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi yn ein ffyrdd a'n
llwybrau cerdded, ac mae nifer y ffyrdd mewn cyflwr
gwael wedi gostwng o 11.0% yn 2011/12 i 9.94% yn
2013/14 – sy'n well na chyfartaledd Cymru, sef 13.2%.
• Rydyn ni hefyd wedi adeiladu Llwybr Cymunedol
Llantrisant, rhwng Ynysmaerdy a Choedelái. Dyma
lwybr mwy diogel ar gyfer cerdded a beicio, gan
hyrwyddo ffyrdd mwy ‘gwyrdd’ o deithio ar gyfer pobl
sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.