5
Proposal
Cynnig
1:
Costau Gofal Cymdeithasol
i Oedolion
Mewn sawl achos, mae ein trefniadau codi tâl
ar gyfer gofal cymdeithasol yn fwy hael na'r hyn
mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn eu nodi,
ac yn is na chost y mae'r rhan fwyaf o
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn codi.
Mewn perthynas â'r cynigion ynghylch Diystyru
Gwariant sy'n Gysylltiedig ag Anabledd a
chyfraddau codi tâl yn ôl yr awr, bydd cleientiaid
sy'n defnyddio gwasanaeth yn destun i asesiad
ariannol er mwyn penderfynu ar eu gallu i dalu.
Yn ôl y gofynion cenedlaethol cyfredol, y gost
fydd uchafswm o £50 yr wythnos.
Diystyru Gwariant sy'n Gysylltiedig ag
Anabledd -
Mae Lwfans Gweini a Lwfans Byw
i'r Anabl (Gofal) yn fudd-daliadau sy'n cael eu
talu er mwyn helpu gyda gofal personol. Mae
ein polisi presennol yn diystyru 40% o'r budd-
daliadau hyn wrth i ni asesu unrhyw gyfraniad
tuag at gost gofal. Gan fod y budd-daliadau yn
cael eu defnyddio ar gyfer anghenion gofal,
rydyn ni'n gweld hi'n rhesymol i ystyried rhagor
ohonyn nhw wrth benderfynu faint sy'n rhaid i
rywun ei dalu. Felly, y cynnig yw lleihau lefel y
diystyriad i 5% o'r Lwfans Gweini a Lwfans Byw
i'r Anabl (Gofal). Byddai hyn yn arwain at
£0.790m o incwm ychwanegol y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn dal i
gynnig lefelau diogelu incwm sy'n uwch nac
argymhellion Llywodraeth Cymru.
Costau ar gyfer gwasanaethau gofal
Ar hyn o byd, mae'r Cyngor yn codi tâl o
£12.05 yr awr am ofal cartref a £13.40 yr
ymweliad am wasanaethau dydd. Mae'r costau
yn cynnwys cymhorthdal sylweddol, sy'n
golygu bod y gwir gost o ddarparu'r
gwasanaeth yn fwy o lawer na'r gost y mae
defnyddwyr y gwasanaeth yn talu. Y cynnig yw
codi'r gost ar gyfer gofal cartref a gwasanaethau
dydd i £17 yr awr/ ymweliad er mwyn lleihau
lefel y cymhorthdal sy'n cael ei ddarparu gan y
Cyngor. Byddai'r cynnig hwn yn creu incwm
ychwanegol o £0.134m y flwyddyn.
Codi tâl am Wasanaethau Teleofal Haen 1
Y cynnig yw cael gwared ar gymhorthdal
presennol y gwasanaethau teleofal haen 1 a
chynyddu'r gost o £1.58 i £2.35 yr wythnos,
sy'n adlewyrchu cost y Cyngor o ddarparu'r
gwasanaeth. Byddai'r cynnig yn creu incwm
ychwanegol o £0.118m y flwyddyn.
Codi tâl am Ofal Preswyl i'r Henoed a
Bregus eu meddwl
– Y cynnig yw gosod
uchafswm presennol y sector annibynnol o
£533 yr wythnos i ddarpariaeth gofal preswyl y
Cyngor i'r Henoed a Bregus eu meddwl. Byddai
hyn yn sicrhau tegwch o ran strwythurau codi
tâl yn y sector cartrefi gofal preswyl.
Bydd y gost uchafswm yn cynyddu o £503 yr
wythnos. Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn
cael ei asesu'n ariannol er mwyn penderfynu ar
gost sy'n berthnasol iddyn nhw. Byddai'r cynnig
yn creu incwm ychwanegol o £0.060m y
flwyddyn.
Codi tâl am Wasanaethau Gofal Preswyl
Dyw ein polisi codi tâl ar gyfer gwasanaethau
gofal preswyl ddim yn gyson yn ei driniaeth o
ddefnyddwyr ein gwasanaeth sy’n defnyddio
gwasanaethau'r sector annibynnol a chartrefi
gofal preswyl y Cyngor. Yn ogystal, does dim
rhaid i bobl ifainc (18-21 oed) gydag anabledd
dysgu dalu am ofal seibiant. Y cynnig yw
cyflwyno model codi tâl ar gyfer gwasanaethau
gofal seibiant sydd wedi'i asesu'n ariannol ac
sy'n decach ac yn fwy cyson (ac eithrio y
gwasanaethau hynny sy'n cael eu darparu dan y
Ddeddf Plant, 1989). Byddai'r cynnig hwn yn
creu incwm ychwanegol o £0.032 y flwyddyn.
Arbed (incwm ychwanegol)
£1.134m
1,2,3,4 6,7,8,9,10,11,12