 
    
  | AberdÂr | |
| AberdÂr Pentre bach oedd Aberdâr, yn ôl y cyfeiriadau cynta yn y 12f ed ganrif. Datblygodd tref fodern Aberdâr tua chanol y 19 eg ganrif. Roedd llawer mwy o bobl oherwydd twf y diwydiannau trwm, a daethon nhw yma i fyw a gweithio. Dyma fap rhyngweithiol o Arolwg Ordnans cyntaf Aberdâr, ym 1868, i'ch tywys i mewn i dreftadaeth gyfoethog y dref. | |
| Camlas Aberdâr oedd yn cludo'r rhan fwyaf o'r nwyddau a'r bobl ar gyfer y diwydiannau lleol yn gynnar yn y 19 eg ganrif. Er mor fach oedd y Gamlas yn ôl safonau heddiw, fe chwaraeodd hi ran allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol. Ar hyd lannau'r Gamlas yr agorodd rhai o'r glofeydd cynta i gloddio am lo i'w anfon i ffwrdd i'w werthu. Dyma'r fasnach fu'n sylfaen economi'r De am y ganrif nesa. | |
| Gwaith Haearn y Gadlys Safai Gwaith Haearn y Gadlys ychydig i'r Gogledd o ganol tref Aberdâr. Cafodd ei agor ym 1827. Yn hen D y Castio'r Gwaith Haearn mae Amgueddfa Cwm Cynon bellach. 
 | |
| Suddo i ddarparu glo a haearnfaen ar gyfer Gwaith Haearn y Gadlys | |
| E. Thomas & Williams LtdCwmni bydenwog am wneud lampau glowyr. | |
| Cynhyrchydd ffilmiau, ac arloeswr y sinema yn y De. | |
| Cafodd y Cwmi'i sefydlu yn 1909, o Gymdeithas Ddrama Amatur Trecynon |