header Cymraeg English
William Haggar – Arloeswr byd y ffilmiau
   
Ac yntau wedi'i eni yn Swydd Essex ym 1851, cododd William Haggar ei bac yn 18 oed, gadael ei gartref ac ymuno â charfan o ddiddanwyr teithiol. Cefnodd William ar y band wedi ond cyfnod byr yn eu cwmni ond fe barhaodd i deithio gan symud o un garfan o actorion teithiol i un arall. Dyma'r adeg pan gyfarfu â Sarah Walton, ei ddarpar wraig a merch perchennog y cwmni teithiol. Priododd William a Sarah ym 1870 ac, yn ddiweddarach, fe sefydlon nhw gwmni eu hunain. Treuliodd y ddau lawer o'u hamser yn teithio Deheubarth a Gorllewin Cymru ac yn ystod y cyfnod yma fe ymwelon nhw ag Aberdâr am y tro cyntaf – tref a oedd i dyfu'n un o'u ffefrynnau.
William Haggar
Aeth Haggar i Lundain ym 1897 i ymweld ag un o'r sinemâu cyntaf. Cafodd ei syfrdanu gan y sioe ac fe brynodd daflunydd (projector) yng Nghaer-wysg ym mis Medi'r flwyddyn honno. Bu perfformiad cyntaf ei sioe ' Bioscope ' ar Ebrill 5ed 1898 yn ffair Aberafan. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf ym 1901 – ffilm o drên yng Ngorsaf Porth Tywyn – pan fu'i sioe deithiol yn ymweld â'r dref. Ond llwyddiant ei felodrama 15-munud 'Maid of Cefn Ydfa' – o bosib, ffilm ffuglen gyntaf Prydain – cychwynnodd ei yrfa yn gynhyrchydd ffilmiau. Parhaodd ei yrfa tan 1909, cyfnod pan gynhyrchodd e rhwng pedwardeg a chwedeg o ffimliau naratif, nifer ohonyn nhw'n cynnwys aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei fab, William Haggar Junior.
Chwith: William Haggar

Bu ei wraig Sara farw ym 1909. Dyma ergyd oedd yn ddigon iddo benderfynu i ddod â'i yrfa yn gynhyrchydd i ben a bodloni ar fod yn berchennog sinema. Roedd y sinema honno'n Aberdâr ac ym 1910, agorodd Colisëwm William Haggar ( Haggar's Electric Palace oedd yr enw erbyn 1912) ar safle parhaol ar Sgwâr y Farchnad. Ym 1912, priododd Haggar Mary Davies, merch Jenkin Davies, gwestywr tafarn 'Bird in Hand Inn' yn Monk Street, Aberdâr. Adeiladodd e a Mary dy yn Abernant - a'i enw - 'Kinema House'

I'r dde: Un o sinemâu teithiol cynnar Haggar tua 1908
Un o sinemâu teithiol cynnar Haggar tua 1908
Llun o William Haggar y tu allan i "Kinema House" yn Abernant gyda'i ferch a'i ail wraig.

Roedd y blynyddoedd canlynol yn rhai prysur dros ben i William Haggar. Ym 1913, fe brynodd e ryddfraint y neuadd ymarfer cyferbyn ei safle yn sgwâr y farchnad er mwyn adeiladu sinema. Yn ogystal â hynny, cafodd ei ethol yn aelod o Bwrdd Llywodraethwyr Aberdâr yn yr un flwydddyn, ac ym 1914, cafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Dosbarth Dinesig Aberdâr.

Chwith: Llun o William Haggar y tu allan i "Kinema House" yn Abernant gyda'i ferch a'i ail wraig.

Agorodd y sinema, o'r enw 'Kosy Kinema', ar 23 Awst 1915. Dyma oedd adeilad hardd gyda seddau a oedd yn plygu ar gyfer 700 o bobl – rhywbeth oedd yn cael ei ystyried yn foethus dros ben yn y cyfnod yma! Cafodd y sinema ei hailwampio a'i hailenwi 'The Cosy Cinema' ym 1927 a gwerthwyd hi i Gapten Willis o Bentre Rhondda. Yn anffodus, bu tân mawr yn y sinema ym 1946 a gorfu cau'i drysau. Un o nifer o sinemâu Haggar oedd ‘The Kosy' - roedd e'n berchen ar nifer o rai eraill ledled Deheubarth Cymru a Deheubarth Lloegr. Fe brynodd Haggar y 'Palace' yn Aberpennar ym 1910, ac chafodd hi'i agor yn sinema ym 1912.

Wedi gyrfa ym myd y diwydiant ffilmiau a barodd dros 25 o flynyddoedd, bu William Haggar farw ar 4 ydd Chwefror 1925 yn nhy ei fab Walter, 'Maer-yr-haf', Elm Grove, Aberdâr. Ac yntau'n cael ei gofio gan drigolion Aberdâr am ei waith yn berchennog sinema a chynghorydd lleol, mae William Haggar wedi ennill y parch mae e'n ei haeddu yn ddiweddar yn un o arloeswyr mwyaf y byd ffilmiau yng Nghymru. Fe oedd y pwnc dan sylw mewn sioe gan Radio Wales ym mis Mehefin 1984, 'Haggar's Travelling Picture Show'.

I'r dde: “ The Kosy Cinema” , Market Street, Aberdâr
“ The Kosy Cinema” , Market Street, Aberdâr
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf