header Cymraeg English
Cwmni Theatr Fach Aberdâr  
 

Mr. William Jenkins sefydlodd y Theatr Fach, ym 1908. Ar y dechrau, byddai'r aelodau'n cwrdd yn nhafarn y Park View, Trecynon. 'Cymdeithas Ddrama Amatur Trecynon' oedd eu henw'r adeg honno. Byddai'r elw yn mynd at achosion da gan mwyaf.

Ddrama gyntaf a gafodd ei phurfformio ar Chwefror 19 eg 1931
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd y Gymdeithas lwyddo mewn cystadlaethau drama, ac erbyn 1930 roedd £400 yn y banc. Penderfynodd y Pwyllgor fod digon o arian i gael cartref i'r Gymdeithas. Ym 1930 fe sylwodd y Cadeirydd, Tom Phillips, y byddai hen d y injan Gwaith Glo'r Gadlys yn gwneud theatr fach wych. Dywedodd Tom wrth y perchennog, Syr D.R. Llewellyn, a dyma hwnnw yn penderfynu'i roi i'r Gymdeithas. Roedd gofyn am waith caled i addasu'r hen d y injan, ond erbyn dechrau 1931 roedd y 'Chwareudy' yn barod, gyda 318 o seddi. Miss Elizabeth Llewellyn agorodd y Theatr, ac A Woman of Compassion, gan Florence Howell, oedd y ddrama gyntaf a gafodd ei pherfformio ar Chwefror 19 eg 1931. Dyma'r adeg y dechreuodd y Gymdeithas arddel yr enw 'Chwareudy Bach Aberdâr'. Y nhw oedd y gymdeithas ddrama amatur gyntaf yng ngwledydd Prydain i fod yn berchen ar eu theatr eu hunain.

Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn y Chwareudy, byddai'r Cwmni yn chwarae wyth drama bob tymor. Roedd 313 o aelodau gyda nhw ym 1931, ac erbyn 1935 roedd y nifer wedi codi i 1,250. Aethon nhw o nerth i nerth yn y cystadlaethau, a chyrhaeddon nhw rownd derfynol cystadleuaeth drama un act Cynghrair Drama Prydain 3 o weithiau. 1928 oedd y tro cyntaf, enillon nhw wobr yr Arglwydd Howard de Walton ym 1948, a chyrhaeddon nhw Lundain y trydydd tro ym 1951
.

De: Yr agoriad ffurfiol gan Miss Elizabeth Llewellyn

 

Yr agoriad ffurfiol gan Miss Elizabeth Llewellyn
Y Chwareudy Bach tua 1959

Ymhlith campau eraill y Cwmni oedd yr ymddangosiad teledu cyntaf gan gymdeithas ddrama amatur (1948), a pherfformiad cyntaf gan gwmni o Gymru yng Ng w yl Caeredin (1950). Collodd y Cwmni ei gartref am y tro yn 1942, pan gymerodd y Weinyddiaeth Bwyd feddiant o'r adeilad i fod yn storfa fwyd. Cyflwynai'r Cwmni lawer o gynhyrchiadau yn y Colisëwm dros y blynyddoedd nesaf, ac ni ddychwelodd yn llwyr i'r Chwareudy tan 1958. Cyn hir roedden nhw'n brysur wrthi ac yn perfformio. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu, ac yno mae'r Cwmni'n perfformio o hyd.

Chwith: Y Chwareudy Bach tua 1959

 

Bu hi'n waith caled ar adegau i gystadlu â'r sinema a'r teledu. Ond mae cefnogaeth y gymuned i'r Theatr i'w gweld mor gryf ag erioed. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi'n ddifrifol gan dân ym 1978. Lawnsiodd y Cwmni apêl am arian i drwsio'r Chwareudy. Fe fu hyn mor llwyddiannus nes bod y Chwareudy ar agor eto ym 1979. Cafodd yr adeilad ei wella a'i gynnal a'i gadw yn barhaus oddi ar hynny, ac mae safonau'r perfformiadau mor uchel ag erioed. Heddiw mae'r Cwmni'n dal i gynhyrchu sioeau llwyddiannus sy'n denu cefnogaeth y gymuned leol .

De: Dechrau ar y gwaith adnewydd

 

Dechrau ar y gwaith adnewydd
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf