header Cymraeg English
Glofa'r Gadlys  
   
Glofa'r Gadlys

Cafodd y pwll yma'i sefydlu yn dilyn yr angen i gael glo a haearnfaen i gadw Gweithfeydd Haearn y Gadlys ar agor. Roedd i'r pwll, sy'n cael ei alw'n Pwll Fictoria hefyd, nifer o siafftiau. Roedd rhai ar gyfer cloddio glo ac eraill ar gyfer cloddio haearnfaen. Roedd y pwll mewn man delfrydol – ychydig dros 400 o lathenni o'r Gweithfeydd Haearn. Cafodd y cwmni ganiatâd yn 1845 i gloddio am lo yng Nglofa'r Graig, glofa gyfagos ar lethrau isa'r Graig i gyfeiriad y De.

Chwith: Glofa'r Gadlys

1875 oedd y flwyddyn olaf i haearn gael ei gynhyrchu yng Ngweithfeydd Haearn y Gadlys. Serch hynny, arhosodd y lofa ar agor tan 1939. Wedi hynny, defnyddiwyd y lofa'n orsaf bwmpio tan y 1960au. Roedd rhaid parhau i ddefnyddio'r injan weindio gan fod y pympiau'n agos i waelod y lofa ac angen eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd. Cafodd offer pen y pwll ei dynnu i lawr fis Mai 1972.

Dde: Glofa'r Gadlys y pwll glo cyn ei ddymchwel ym 1972
Glofa'r Gadlys y pwll glo cyn ei ddymchwel ym 1972 Glofa'r Gadlys y pwll glo cyn ei ddymchwel ym 1972
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf