Pontypridd | |
Hanes Pontypridd
Mae'n eithaf anodd mynd i'r afael yn iawn â chefndir Pontypridd ond, cyn i William Edwards adeiladu'r bont ym 1756, mae'n ymddangos mai ardal denau ei phoblogaeth o ffermydd gwasgaredig oedd Pontypridd – lle gwledig, digon marwaidd. Dechreuodd y boblogaeth dyfu ryw 50 mlynedd yn ddiweddarach pan sefydlwyd Gwaith Tun Trefforest (tua 1800) a'r system drafnidiaeth ar y gamlas a gludai ddeunyddiau crai o gymoedd Cynon a Merthyr. |
|
‘Yr Hen Bont', Pontypridd
Teithwyr ar droed yn unig sy'n cael defnyddio pont William Edwards erbyn heddiw. Mae'r adeiladwaith yma o hyd yn gofadail i ddyfeisgarwch a dyfalbarhad William Edwards. |
|
Yr Anthem Genedlaethol
Mae Anthem Genedlaethol Cymru yn un o'r anthemau mwyaf ardderchog yn y byd ac yn gân wedi'i gwreiddio yn hanes. Evan James a'i fab James James, dau fasnachwr gwylaidd a oedd yn byw ym Mhontypridd yng nghanol yr 19eg ganrif a'i sgrifennodd hi. |
|
Llwybr yr Anthem Genedlaethol
Pontypridd yw cartref gwreiddiol yr Anthem Genedlaethol, ond mae'r Anthem yn rhan o hanes sawl tref arall yn yr ardal hefyd. Ydych chi'n hoffi tipyn bach o antur? Dilynwch Lwybr yr Anthem gyda ni! Byddwch yn dod i nabod yr ardal yn well, ac yn dysgu am ein Hanthem hefyd. Mae'r cysylltau ar y map yma i gyd yn ymwneud â digwyddiadau pwysig yn hanes ein Hanthem. Pan gliciwch ar un o'r cysylltau, byddwch chi'n mynd yn syth at yr wybodaeth. |
|
Brown Lenox Chainworks
Yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Y Chainworks ', mwynhaodd Brown Lennox and Co. Ltd berthynas faith â Phontypridd gan wneud cyfraniad arwyddocaol i hanes y dref. |
|
Philip Thomas
Mae'r garreg fedd sy'n nodi man claddu Phillip Thomas heddiw yn sefyll ym Mynwent Glyn-taf. |
|
CÔr Meibion Pontypridd |