Philip Thomas | |
Mae'r garreg fedd sy'n nodi man claddu Phillip Thomas heddiw yn sefyll ym Mynwent Glyn-taf. Fodd bynnag, mae carreg fedd oedd wedi ei bwriadu ar ei gyfer yn sefyll ar Gomin Pontypridd. Mae'r stori y tu ôl i'r garreg sy'n edrych allan dros ei weithle ar y comin wedi dod yn rhan o lên gwerin Pontypridd. Pan fu Thomas farw yn 1840, newydd gael ei chodi oedd Eglwys Glyn-taf ac ef oedd y cyntaf i gael ei gladdu yno. Roedd y ffaith nad oedd carreg ar ei fedd yn ofid i Francis Crawshay, preswylydd enwog Forest House a rheolwr Gwaith Tunplat Trefforest. Felly aeth ati ar ei liwt ei hun i godi carreg fedd yn Eglwys Glyn-taf; ond nid oedd amwysedd y beddargraff yn plesio teulu Thomas. Yn wir, roeddynt mor ddig fel yr aethant ati i wneud twll ym mur y fynwent, symud y garreg, a'i gadael yn gorwedd mewn cae gerllaw. Daeth yr ecsentrig Dr William Price ar draws y garreg a gyda chymorth Crawshay trefnodd iddi gael ei gosod yn ei safle presennol gerllaw cylch yr orsedd. Mae'r enw, Phillip Thomas, wedi ei ddileu. De: Mae'r llun hwn yn dangos y garreg sydd ar Gomin Pontypridd |
|
Mae'r garreg yn darllen fel hyn:
who after managin the chain work |