Llwybr yr Anthem Fawr |
|
Pontypridd yw cartref gwreiddiol yr Anthem Genedlaethol, ond mae'r Anthem yn rhan o hanes sawl tref arall yn yr ardal hefyd. Ydych chi'n hoffi tipyn bach o antur? Dilynwch Lwybr yr Anthem gyda ni! Byddwch yn dod i nabod yr ardal yn well, ac yn dysgu am ein Hanthem hefyd. Mae'r cysylltau ar y map yma i gyd yn ymwneud â digwyddiadau pwysig yn hanes ein Hanthem. Pan gliciwch ar un o'r cysylltau, byddwch chi'n mynd yn syth at yr wybodaeth. |
|
AberdÂr | |
Safle Hen Westy'r Swan , Aberaman. Dyma oedd cartref James James am gyfnod byr ar ôl marw'i wraig, Cecilia. Roedd ei fab Taliesin (oedd hefyd yn delynor) yn byw yno gydag ef. |
|
Rhif 6, Hawthorn Terrace, AberdÂr | |
Cartref olaf James James. Yno y bu farw, 11 fed Ionawr 1902. |
|
Carreg fedd James James | |
Cafodd James James ei gladdu ym Mynwent Aberdâr ar Hirwaun Road gyda'i ddiweddar wraig, Cecilia. Buodd hi farw ar 12 fed Mawrth 1892. Cafodd ei ferch ifancaf, Louisa, ei chladdu yn hefyd, ym 1910. |
|
Aberpennar |
|
Symudodd James James i Aberpennar ym 1873 i gadw tafarn y Colliers' Arms . Cwm Cynon oedd ei gartref am weddill ei fywyd. |
|
Maes-teg | |
Maesteg Workingmens Club | |
Hen safle Tabor, Capel y Methodistiaid. Dyma lle canodd Elizabeth John yr Anthem yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Roedd hi'n 16 oed ar y pryd. |
|
Tabor, Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd | |
Cafodd yr adeilad yma'i godi ym 1907, a'i droi'n fflatiau yn gynnar yn 2006. Mae pobl yn dal i gamgymryd yr adeilad yma am hen gapel Tabor, lle cafodd yr anthem ei chanu'n gyhoeddus am y tro cyntaf. Clwb y Gweithwyr sy'n sefyll lle roedd yr hen gapel. |
|
Pontypridd |
|
Y MosÄig | |
Buodd llawer o ddathlu a choffáu ym Mhontypridd yn ddiweddar. O ran coffadwriaeth barhaol i Evan a James James, mae pobl y dref wedi gosod mosäig o'u hwynebau mewn tanffordd (underpass) yng nghanol y dref. Mae'r mao isod yn dangos lle mae'r mosäig. |
|
Y Plac |
|
Plac yn dangos lle safai ffatri wlan Evan James ers talwm. Tabled farmor oedd yno yn wreiddiol, ond cafodd honno ddifrod yn ystod gwaith adeiladu. Cafodd y plac yma ei ddadorchudio yn ei lle ym 1931. |
|
Y Delyn | |
Bu'r delyn yma'n eiddo i Taliesin James, mab James James. Mae'r delyn i'w gweld bellach yn Amgueddfa Pontypridd. |
|
Y Gofeb |
|
Saif Cofeb Evan a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Cafodd y Gofeb, o waith Syr William Goscombe John, ei dadorchuddio ar Orffennaf 23ain 1930. Cafodd gweddillion Evan James a'i wraig Elizabeth eu hail-gladdu dan y gofeb ar Orffennaf 1af 1973. |
|