header Cymraeg English
Aberaman  
Cartref y teulu Mathew o fonheddigion oedd Aberaman cyn ennill enwogrwydd am ei weithfeydd glo a haearn hynod. Teulu o dirfeddiannwyr oedd y rhain, gyda pherthnasau iddyn nhw yn berchen ar ystadau ar hyd y sir. Dechreuon nhw ddod yn amlwg yn y 17eg ganrif, pryd y bu tri ohonyn nhw’n Uchel Siryfion Morgannwg ar wahanol adegau. Roedden nhw’n byw yn Aberaman Isaf, sy’n dal i sefyll heddiw ond ar wedd diweddarach a’i enw wedi’i newid i Dy Aberaman. Bu farw Edward Mathew, yr etifedd gwrywaidd olaf, ym 1788, a chafodd yr ystad ei rhannu rhwng ei dair merch a’u gwyr. Dyna ddiwedd felly ar ddylanwad cymdeithasol oedd wedi parhau am 200 o flynyddoedd. Prynodd Anthony Bacon, meistr haearn o Ferthyr Tudful, Dy Aberaman ym 1806, ac yn dilyn ei farwolaeth daeth y ty i ddwylo Crawshay Bailey, perchennog gwaith haearn Nant-y-Glo a Beaufort.
Dyma lun o Aberaman gyda’r dyddiad Awst 16eg 1827 wrtho, gan Emma neu Lucy Bacon, wyresau Anthony Bacon. Tynodd y ddwy sawl llun o Gwm Cynon rhwng 1820 a 1830. Mae’r llun yma’n dal i bortreadu Aberaman yn fro wledig, heddychlon.
Dyma lun o Aberaman gyda’r dyddiad Awst 16eg 1827 wrtho, gan Emma neu Lucy Bacon, wyresau Anthony Bacon. Tynodd y ddwy sawl llun o Gwm Cynon rhwng 1820 a 1830. Mae’r llun yma’n dal i bortreadu Aberaman yn fro wledig, heddychlon.
Dymuniad Crawshay Bailey oedd manteisio ar adnoddau mwynau’r ystad, ac o ganlyniad bu Aberaman yn datblygu’n gyflym yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Roedd Crawshay Bailey wedi prynu’r ystad i gyd erbyn 1845, ac aeth ymlaen i adeiladu Rheilffordd Aberdâr ar y cyd â J. J. Guest. Bu hyn yn fodd iddo agor Gwaith Haearn Aberaman a’r glofeydd oedd yn ei fwydo. Roedd diwydiannwr arall, David Davis, wedi agor Glofa Blaengwawr ym 1843, a rhwng hyn i gyd roedd Aberaman yn fwrlwm o ddiwydiant. Dyna a sbardunodd datblygu’r dref, i ddarparu tai a gwasanaethau i’r holl weithwyr newydd oedd yn llifo i mewn.Ar y dechrau, dechreuodd y dref ymestyn yn ddatblygiad hirgul oddeutu Ffordd Caerdydd i’r de o Aberdâr yn ystod y 1840au. Codwyd Curre Street, Holford Street, Gwawr Street a Lewis Street, a strydoedd eraill hefyd, oddeutu Ffordd Caerdydd yn y 1850au. Codwyd tai, siopau ayyb ar bwys glofeydd hefyd: Incline Row a Bell Place ger Glofa Aberaman er enghraifft, a Blaengwawr Row a Blaengwawr Cottages ger Glofa Blaengwawr i’r gogledd. Mae dau a fu yno ar y pryd wedi gadael disgrifiadau byw inni o sut roedd yr ardal a’i thrigolion yn ymdopi â thwf sydyn y boblogaeth.

Lewis Street c1890

Lewis Street c1890

Pan oedd yr arolygwyr wrthi’n paratoi adroddiad Seneddol 1847 ar gyflwr addysg yng Nghymru ( y ‘Llyfrau Gleision’ enwog), ysgrifennodd y Parchedig John Griffith, Ficer Aberdâr atynt i ddweud mai dim ond ers tua 18 mis roedd Aberaman yn bod.

Er hynny roedd y boblogaeth eisoes wedi cyrraedd 1,200 ac roedd disgwyl iddi dyfu i 4,800 cyn pen blwyddyn. Roedd 80 o seiri maen a 50 o seiri coed wrthi ar y pryd yn codi tai. Yn ei adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ym 1853, rhoes Thomas Rammell ddisgrifiad o gyflwr gwael y tai a godwyd yn y blynyddoedd yma. Roedd ef o’r farn fod Aberaman Road a Treaman wedi’u hadeiladu ar safleoedd arbennig o anaddas. Nid oedd modd draenio dwr i ffwrdd yn rhwydd, roedd y tai’n llaith, a byddai llifogydd yn aml. O ganlyniad roedd y trigolion yn llawer mwy tueddol o fagu heintiau. Ar yr un pryd, nid oedd ffynhonell dwr lleol yn Aberaman, ac roedd gofyn i’r trigolion fynd chwarter milltir o leiaf, i Flaengwawr, i nôl dwr. O ganlyniad:

Neuadd ac Institiwt Aberdâr

Neuadd ac Institiwt Aberdâr

‘Bydd rhaid aros amser maith wrth y pistyllau, ac nid yw tair awr yn anghyffredin. Weithiau, mae pobl wedi mynd i nôl dwr yn syth ar ôl cinio am hanner dydd, a dychwelyd heb yr un diferyn gan eu bod heb gael tro i dynnu dwr byth. Ar adegau bydd cant o biseri i’w gweld yn aros wrth y ffynnon. A chan fod pobl yn aros yno am hydoedd heb ddim i’w wneud, bydd llawer o anfoesoldeb yn digwydd.”

Daliai Aberaman i ymestyn tua’r de wrth i’r 19eg ganrif ddirwyn i ben. Erbyn datblygu Godreaman ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, roedd Aberaman a Chwmaman wedi ymledu digon i uno â’i gilydd, ac ym 1900 roedd Lewis Street yn ganolfan bwysig i fasnach yr ardal. Roedd adeilad urddasol Neuadd ac Institiwt Aberdâr, a agorwyd ym 1910, yn dystiolaeth i falchder cadarn trigolion Aberdâr yn eu tref

 

 
Beicwyr Aberaman  

Daeth beiciau modern, gyda’r pedalau’n gyrru’r olwynion â chadwyn yn boblogaidd yn ystod y 1880au a’r 1890au, a chyn hir roedd y tlawd a’r cyfoethog wrthi’n beicio. Cymerodd pobl Cwm Cynon at yr hobi newydd â’r un awydd â gweddill y byd. Cafodd Clwb Beicio Aberdâr ei sefydlu ym 1884, ac erbyn 1890 roedd wedi datblygu’n glwb rasio. 

Oes aur beicio oedd y cyfnod yma i dref fechan Aberaman. Llwyddodd hi i fagu pedwar o bencampwyr a gurodd oreuon y byd: Arthur Linton a’i frodyr Tom a Samuel, a Jimmy Michael. Aeth Arthur Linton a Jimmy Michael ymlaen i ennill pencampwriaeth y byd. Dechreuodd Arthur Linton rasio yn y fro yma, ac erbyn 1892 roedd yn enwog ar draws y De i gyd. Dechreuodd ennill ei blwyf yng ngweddill Prydain yn ystod tymor beicio 1893, a gwnaeth gontract gyda’r hyfforddwr dadleuol ‘Choppy’ Warburton i rasio’n broffesiynol ar y beiciau Gladiator newydd. Fe lwyddodd Arthur i guro Jean Dubois, pencampwr Ffrainc, ym Mharis ym 1894, a bu ond y dim iddo drechu Bonnic, pencampwr yr Eidal. Gwrthododd hwnnw rasio yn ei erbyn wedyn. Rhoddwyd teitl ‘Pencampwr Beicio’r Byd’ iddo a chafodd groeso tywysogaidd pan ddychwelodd i Aberaman ym Mis Rhagfyr. Cynhaliwyd gwledd gyhoeddus yn nhafarn y Lamb and Flag, a chyflwynwyd anerchiad ar ffurf llawysgrif oliwiedig iddo.

Arthur Linton gyda rhai o’r gwobrwyon a enillodd yn ystod ei yrfa fer ond llwyddiannus fel beiciwr proffesiynol

Arthur Linton gyda rhai o’r gwobrwyon a enillodd yn ystod ei yrfa fer ond llwyddiannus fel beiciwr proffesiynol.

Jimmy Michael gyda’i hyfforddwr, 'Choppy’ Warburton'

Uchod: Jimmy Michael gyda’i hyfforddwr, 'Choppy’ Warburton'

 

Blwyddyn llai llwyddiannus oedd1895 yn hanes Arthur. Dioddefoedd anaf i’w benglin, ac ymwahanodd â’i hyfforddwr, ‘Choppy’ Warburton. Ond yn ystod tymor beicio 1896 fe enillodd Râs Bordeaux i Baris, ei râs fwyaf erioed, gan lwyddo i drechu Gastone Rivière. Ond dilynodd trasiedi’n fuan: efallai fod y ras yn ormod o straen ar ei gorff, a bu farw Arthur o’r teiffod chwe wythnos yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 1896. Roedd e’n 24 oed.
Un o’r beicwyr iau a gafodd gymorth gan Arthur Linton oedd Jimmy Michael, a ddaeth i sylw’r bobl pan enillodd râs Herne Hill yn gyflymach na neb o’r blaen. Cafodd ef gontract gyda chwmni beiciau Gladiator hefyd, a derbyn hyfforddiant gan ‘Choppy’ Warburton. Aeth o nerth i nerth ym 1895, gan guro’r pencampwr Ffrengig Lucien Lesna, a gwneud 50 km ar yr un cyflymdra campus ag Arthur Linton. Ddiwedd y flwyddyn honno fe enillodd Bencampwriaeth Rasys y Byd Pellter Canol yn ninas Köln yn yr Almaen. Rhwng llwyddiant ysgubol Jimmy, a’r flwyddyn wael a gafodd Arthur Linton, dechreuoedd y berthynas suro rhwng Jimmy a’r ddau Linton, yn enwedig Tom.

Yn fuan ar ôl marw Arthur, torrodd Jimmy bob cysylltiad â ‘Choppy’ Warburton a phenderfynu rhoi cynnig arni yn America. Cafodd yrfa lwyddiannus dros ben yno, torri sawl record, ac ennill ffortiwn sylweddol. Ymddeolodd Jimmy o fyd beicio, gweithio fel joci ac yna ddod yn berchen ar stabl rasio. Ond methodd y fenter honno, ac ym 1902 fe ddychwelodd Jimmy i fyd beicio. Ond roedd ei ddawn beicio wedi pylu, gwaetha’r modd, ac ni fu byth yn bencampwr fel cynt. Bu farw’n 29 oed ym mis Tachwedd 1904 ar fwrdd y llong Savoie ar ei ffordd yn ôl i Efrog Newydd. Pwl o’r delerium tremens oedd y rheswm a roddwyd am ei farwolaeth, yn sgîl yfed trwm.
Parhaodd Tom Linton i fwynhau gyrfa rasio lwyddiannus, ond nid enillodd yr un clod a bri ag Arthur neu Jimmy. Bu farw ym 194 o’r teiffoid, yr un salwch a hwnnw a laddodd ei frawd 18 mlynedd ynghynt.
Dychwelodd Samuel Linton i weithio yn y glofeydd lleol,a bu farw ym 1935.

   
Gwaith haearn Aberaman  

O’r pedwar gwaith haearn yng Nghwm Cynon, Aberaman gafodd ei godi’n olaf, ym 1845. Dechreuodd ei sylfaenydd, Crawshay Bailey, bwdlo haearn yng Nglofa Aberaman ym mis Mai 1847, ac roedd ffwrnais chwyth yn gweithio erbyn 1848. Hefyd roedd gefail wrthi yn ogystal â melinau rholio a thyllu, tair injan, gwaith brics, ac odynau calch.

Ond, dros y tymor hir, ni fu’r weithfa yma’n llwyddiannus. Roedd y ffwrneisiau chwyth wedi peidio â gweithio erbyn 1854, er eu hailgychwyn flwyddyn yn ddiweddarach. Bu ymgais i werthu’r lle ym 1862, am bris o £250,000, ond mae’n debyg fod neb wedi rhoi cynnig i mewn gan fod y gwaith haearn ar werth eto ym 1864, ar ôl i Crawshay Bailey ymddeol. Prynodd Cwmni Haearn Aberaman y gwaith, ond daeth y cwmni yma i ben ym 1867 a daeth y cyfan i ddwylo Cwmni Powell Duffryn. Roedd y ffwrneisiau wedi peidio â chwythu ym 1866, a dyna’r tro olaf iddynt weithio erioed.

  

Aberaman Ironworks map
Diwydiant Glo Aberaman  
Tîm Achub Pyllau Aberaman tua 1914.

Datblygodd ardal Aberaman yn un o ganolfannau pwysicaf diwydiant glo Cwm Cynon yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Bu menter Crawshay Bailey yn sefydlu Gwaith Haearn Aberaman yn sbardun i’r diwydiant yn y cyffiniau, ac erbyn 1859 roedd pedair glofa bwysig wedi datblygu yno. Agorodd Crawshay Lofa Aberaman ym 1845, a daeth i ddwylo Powell Duffryn ym 1866 pan brynon nhw Ystad Aberaman. Yn y lofa yma y cafodd gorsaf achub pyllau gyntaf y De’i hagor, ym 1909. Roedd mil o ddynion yn gweithio yno ar y pryd. Arhosodd rheolaeth y pwll gyda chwmni Powell Duffryn nes i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gymryd drosodd ym 1947. Caewyd y lofa ym 1965.

Chwith: Tîm Achub Pyllau Aberaman tua 1914.

Cafodd Glofa Blaengwawr ei hagor gan David Davies ym 1843. Pan fu ef farw ym 1866 fe gymerodd ei feibion drosodd nes cau’r pwll ym 1885. Arhosodd y pwll ynghau nes i gwmni Powell Duffryn ei brynu ym 1914. Caewyd y pwll am y tro olaf ym 1926.
Glofa Abergwawr (Pwll Powell a Plough Pit) gafodd yr yrfa fyrraf o’r glofeydd cynnar i gyd. Fe’i hagorwyd gan Powell a Prothero ym 1849, a daeth i feddiant Cwmni Glo Ager Powell Duffryn ym 1864. Cafodd y lofa’i chau ym 1875 yn dilyn anghydfod cyfreithiol.

De: Lefel Blaengwawr tua 1910
Lefel Blaengwawr tua 1910

David Williams ddechreuodd Lofa Treaman (‘Nici-Naci’) ym 1850. Roedd y lofa wedi dod i ddwylo Crawshay Bailey erbyn 1866, a phan fu ef farw’r flwyddyn honno fe ddaeth i feddiant cwmni Powell Duffryn. Caewyd y pwll ym 1912. Daeth yr enw ‘Nici-Naci’ o swn y rhaffau’n rhedeg drwy’r offer pen y pwll, oedd i’w chlywed o bob cwr o’r pentref.
Dyma enwau rai o’r pyllau a’r lefelau eraill fu’n gweithio yn yr ardal: Meadow Pit (1864 – tua 1910), Lefel Fach (1869 - tua 1914) a Lefelau Blaengwawr (1903 – 1935).

   
‘Streic y Blociau’ 1910"  

Cwmni Glo Ager Powell Duffryn oedd y cwmni mwyaf pwerus yn niwydiant glo Aberaman erbyn 1910. Roedd syniadau’r glowyr yn dod yn fwyfwy radicalaidd yr adeg honno, a’r meistri’n uno mewn grwpiau pwerus o gwmnïau pwerus neu combines i ‘resymoli’r’ gwaith drwy ddileu arferion a hawliau gweithio traddodiadol y glowyr. Canlyniad hyn oll oedd bod sawl pwnc llosg yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy ochr, ac aeth hi’n ffrwgwd agored tua diwedd 1910, a thorrodd dwy streic fawr allan.
Anghydfod y Cambrian oedd y frwydr fawr yng Nghwm Rhondda, yn arwain at Derfysgoedd Tonypandy. Yng Nghwm Cynon, ar y llaw arall, ‘Streic y Blociau’ oedd yr anghydfod sy’n dal yng nghof pobl. Ers rhyw 40 mlynedd roedd y rheolwyr wedi caniatáu i’r glowyr fynd â darnau o goed sgrap adref i’w llosgi ar y tân. Penderfynodd rheolwyr Glofa Dyffryn Isaf ddileu’r arfer yma ar 20fed Hydref 1910. Pan glywodd shifft y nos am hyn dyma nhw’n gorymdeithio i Lofa Llety Siencyn a galw’r glowyr yno allan. Cyn hir roedd yr anghydfod wedi ymledu i bump arall o lofeydd cwmni Powell Duffryn.

Pwyllgor Cymorth Cwm-bach yn ystod Streic 1910

Pwyllgor Cymorth Cwm-bach yn ystod Streic 1910

Cynhaliodd y Glowyr gyfarfod torfol yn Aberdâr ar 21ain Hydref i lunio rhestr o 18 o gwynion. Coed tân, a defnyddio peiriannau, oedd y pynciau mwyaf llosg. Pwnc pwysig arall oedd y tâl am leoedd gweithio arbennig o anodd, lle gallai gweithio fod yn galed iawn i’r glowyr.
Aeth y berthynas rhwng Charles Stanton, Asiant y Glowyr, a rheolwyr cwmni Powell Duffryn yn fwyfwy anodd ac erbyn 30fed Hydref roedd y trafodaethau wedi torri i lawr yn llwyr. Dim ond pedair glofa oedd yn dal i weithio yng Nghwm Aberdâr y diwrnod wedyn, a gwaethygu wnaeth y tyndra wrth i fywyd y glowyr a’u teuluoedd fynd yn galetach.
Buodd achosion o drais am y tro cyntaf ar 2il Tachwedd. Roedd nifer o lafurwyr yn dal i weithio, a daeth y trên oedd yn eu cludo i Groesfan Tonllwyd. Bu ymosodiad ar y trên, a bu rhai’n taflu cerrig at dai swyddogion glofeydd.

Golchfa a Phwerdy Dyffryn Canol tua 1920. Dyma lle bu’r prif ymosodiad yn ystod terfysg 8fed Tachwedd 1910.

Golchfa a Phwerdy Dyffryn Canol tua 1920. Dyma lle bu’r prif ymosodiad yn ystod terfysg 8fed Tachwedd 1910.

Berwodd y cyfan drosodd ar 8fed Tachwedd. Daeth 2,000 o bobl i Neuadd Gyhoeddus ac Institiwt Cwm-bach, ac aeth 500 o’r rhain i lawr i ymosod ar Lofa Aberaman. Llwyddodd yr amddiffynwyr i’w gyrru’n ôl â dwr o bibellau tân, ond yn y cyfamser roedd y 1,500 o bobl eraill wedi dechrau’r prif ymosodiad, ar y pwerdy. Dim ond 29 o blismyn oedd yn amddiffyn, ond defnyddion nhw dactegau syfrdanol newydd. Ar ôl cysylltu’r ffens allanol â’r trydan, fe ddechreuon nhw daenu dwr poeth o’r bwyleri dros y dorf. Pan oedd y dorf wedi’u drysu a’u dychryn yn llwyr, fe ruthrodd y dorf arnyn nhw a’u gyrru i lawr lein y rheilffordd i lan y gamlas. Rhwng y gwasgu a’r gwthio a’r brwydro i gyd, disgynnodd rhai o’r gwrthdystwyr i’r gamlas. Cafodd 60 o’r gwrthdystwyr eu hanafu, gan gynnwys un dyn a losgwyd yn ddifrifol gan y ffens drydan.

Codai trais ei ben yn aml yn Aberaman drwy gydol mis Tachwedd. Câi ffenestri siopau’u torri, a bu swyddogion glofa yn dargedau cyson. Amgylchynnodd torf o 1,500 un dyn ar orsaf Aberaman, ac ymosododd rhai ohonyn nhw arno. Torrodd cynnulleidfa capel ar draws y gwasanaeth a mynnu troi swyddog glofa allan o’r addoldy. Dro arall, ymgynullodd torf y tu allan i Neuadd Aberaman, gwragedd a phlant yn bennaf, ac ymosododd plismyn ar gefn geffylau arnyn nhw. Digiodd pobl yr ardal yn fawr am hyn, a galw am ymchwiliad.

Chwith: Plant a gwragedd glowyr Aberdâr yn mynd â glo adref o’r tipiau yn ystod Streic y Blociau, 1910.

 

Plant a gwragedd glowyr Aberdâr yn mynd â glo adref o’r tipiau yn ystod Streic y Blociau, 1910.

 

Yn y diwedd, dechreuodd y caledi fynd yn drech na’r glowyr, a bu rhaid iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith ar 2ail Ionawr 1911. Dim ond hanner y dynion fu’n gweithio i gwmni Powell Duffryn gafodd swyddi ar y dechrau, ond cafodd rhagor o lowyr eu cyflogi ar ôl i’r gwaith trwsio gael ei gwblhau. Ond hyd yn oed erbyn diwedd 1911, roedd tua 1,000 o lowyr yn dal i gael eu cau allan o’r gwaith ac yn dibynnu ar arian o’r undeb. Achubodd rheolwyr cwmni Duffryn Powell ar y cyfle i gau glofa gyfan yn ogystal â sawl hedin lle’r aethai’r glo’n denau.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf