header Cymraeg English
David Davis, Blaengwawr (1797-1866)  
   
Cafodd David Davis ei eni yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Busnes cyntaf David Davis's oedd siop fwyd yn Hirwaun, a oedd yn fusnes digon llwyddiannus i ariannu'i gynnig i fentro i'r diwydiant glo. Ei fusnes glo cyntaf oedd lefel yng Nghefn Rugos, a brynodd ym 1842, ond fe werthodd hwn yn fuan iawn i ddatblygu gwaith glo mwy o faint ym Mlaen-gwawr, a suddodd ym 1843. Gyda chefnogaeth ei feibion David a Lewis fe ehangodd ei fusnes drwy agor gwaith glo Abercwmbói a gweithfeydd glo yn ddiweddarach yng Nglynrhedynog yng Nghwm Rhondda Fach, ardal lle nad oedd gwaith glo tan hynny. Ym 1865 roedd Davis yn aelod o garfan o berchnogion gweithfeydd glo a agorodd ddoc newydd ym Mhenarth mewn protest yn erbyn trethi uchel y roedd Ardalydd Bute yn eu codi.
David Davis
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf