header Cymraeg English
YstÂd Ddiwydiannol Trefforest  

Mae gwreiddiau Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn perthyn i'r 'South Wales and Monmouthshire Trading Estates Ltd' a sefydlwyd ym mis Mehefin 1936. Dyma gwmni dielw â'r nod o agor un neu fwy o stadau masnachu yng Nghymru i arallgyfeirio swyddi a chynnig rhywbeth heblaw'r diwydiannau dur a glo oedd yn dechrau edwino. Y dasg gyntaf a'r adnoddaf i'r cwmni oedd dod o hyd i safle ar gyfer yr Ystâd Fasnachu gyntaf, ac ar ôl ystyried sawl adroddiad manwl ar safleoedd posib, dewiswyd safle Trefforest o'r diwedd fel yr un mwyaf addas ar 20 Gorffennaf.
Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 29 Rhagfyr 1936, ac erbyn diwedd 1937 roedd tair ffatri fechan wedi'u hagor yno ac yn cyflogi 69 o bobl. Dyfarnwyd y contract cyntaf i ffatri fawr ar gyfer cwmni British Coated Board and Paper Company Cyf (Wiggins Teape), a dyma ddechrau perthynas hir a llewyrchus iawn gydag Ystâd Ddiwydiannol Trefforest.

Y dirwedd wledig cyn dyddiau'r Ystad Fasnachu

Y dirwedd wledig cyn dyddiau'r Ystad Fasnachu

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd yr Ystad Fasnachu'n mynd o nerth i nerth a dechreuodd chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ryfel ac yn economi Prydain. Roedd ymweliad Brenin Siôr VI a'r Frenhines Elizabeth ym 1941 yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol yr ystâd. Amharwyd llawer ar waith yr Ystad yn ystod y cyfnod hwn wrth i'r Llywodraeth hawlio llawer o'r ffatrïoedd, a'r gweithwyr yn cael eu symud i adeiladau dros dro ymhell o'r ystâd. Aeth adrannau'r Llywodraeth ati i godi estyniadau a hyd yn oed adeiladu ffatrïoedd newydd i'w dibenion eu hunain rhwng 1939 a 1945. Oherwydd hyn, bu cynnydd dramatig yn nifer y gweithwyr ar yr ystâd, gyda bron i 16,000 yn cael eu cyflogi yno erbyn dechrau 1944. Ar derfyn y rhyfel, cafodd llawer o adeiladau'r Llywodraeth eu gadael yn wag a dychwelodd nifer o'r cwmnïau gwreiddiol i Drefforest - gyda llawer ohonynt eisiau mwy o le nag oedd ganddynt yno i ddechrau.
Ystadau Masnachu

Daeth yr ystâd dan reolaeth nifer o gyrff gwahanol yn y cyfnod hwn. Ym 1946 y bu'r newid cyntaf pan ddaeth Wales and Monmouthshire Industrial Estates Ltd berchen arni. Bu newidiadau pellach ym 1960 a 1976 pan ddaeth yr ystâd dan reolaeth 'Welsh Industrial Estates Corporation' ac Awdurdod Datblygu Cymru yn ddiweddarach.

Mae'r safle wedi newid ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r hen ffatrïoedd wedi'u disodli gan ffatrïoedd mwy ac amrywiol i fodloni gofynion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r math o fusnesau sy'n prydlesu adeiladau'r ystâd wedi newid cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o gyfleusterau hamdden a swyddfeydd y tu allan i'r trefi mawr. Er gwaethaf neu efallai oherwydd y newidiadau hyn, mae Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn llwyddiant o hyd ac yn cynnig gwaith i nifer fawr o weithwyr.

Ystâd Trefforest tua 1950

Ystâd Trefforest tua 1950

 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf