header Cymraeg English
Rhydyfelin  
Ym 1967, agorwyd y llety preswyl cyntaf ar y campws gyda lle i gant o fyfyrwyr. Roedd 632 o fyfyrwyr llawn amser a thua 1,500 o fyfyrwyr rhan-amser yma ar y pryd. Ehangodd campws y coleg gydag adeilad aml-lawr i'r adran peirianneg sifil ac yna adeilad undeb y myfyrwyr, llyfrgell a'r adran fusnes.
Yn dilyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, cafodd Polytechnig Morgannwg yr hawl i fabwysiadu teitl prifysgol a statws corfforaethol. Bu cryn drin a thrafod ar deitl newydd i'r sefydliad newydd hwn. Un o'r enwau a awgrymwyd oedd Prifysgol Crawshay, ond nid oedd enw'r meistr haearn a dreuliodd flynyddoedd maith yn byw yn Forest House yn addas ym marn rhai pobl - felly dewiswyd enw Prifysgol Morgannwg. Agorwyd y Brifysgol newydd gan David Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 1 Medi 1992,. Wrth inni nesáu at ganmlwyddiant Forest House fel sefydliad addysg, mae bron i 19,000 o fyfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Morgannwg heddiw.

Dwy ddyfrffordd oedd yn gyfrifol am ddatblygiad cynnar Rhydyfelin, y Glamorganshire Canal a'r Doctor's Canal. Rhedent fwy na heb yn gyfochrog â'i gilydd drwy'r pentref tua'r de ddwyrain cyn ymuno yn Dynea. Roedd y Glamorganshire Canal yn mynd o Ferthyr i Gaerdydd tra'r oedd y Doctor's Canal, milltir o hyd, yn cysylltu pen draw'r dramffordd â'r brif gamlas. Fel mae'r enw'n awgrymu, meddyg cymwysedig o'r enw Richard Griffiths a agorodd y Doctor's Canal ym 1813. Byddai Griffiths yn aml yn esgeuluso ei ddyletswyddau meddygol am fod y datblygiad yn y diwydiant glo o fwy o ddiddordeb iddo.

Hawthorn
Loc Lewis

Galluogai'r dramffordd a'r gamlas a adeiladodd ef i fwy o lo gael ei gario o dram i gamlas heb rwystro llif y cychod ar y Glamorganshire Canal. Roedd ei gamlas yn caniatáu iddo gludo glo o dram i gamlas ond heb amharu ar lif y cychod ar y brif gamlas.

Chwith: Loc Lewis

Roedd y Doctor's Canal yn cynnal o leiaf ddwy iard gychod. Roedd un wedi'i lleoli yn agos i'r gyffordd yn Dynea a'r llall ger pont y gamlas yn Dyffryn, lle'r oedd y ffordd o dyrpeg Caerdydd i Ferthyr i Lyn Taf yn croesi y Doctor's Canal. Yn ôl cyfrifiad 1841, William Thomas, 55 oed, oedd y saer cychod yn Dyffryn. Mae hefyd yn dangos bod cymaint â 24 o drigolion Rhydyfelin yn ennill eu bywoliaeth fel seiri cychod, cychwyr a cheidwaid lociau ac mai tua 140 oedd cyfanswm poblogaeth y pentref.

De: Adeiladu'r draphont yn Rhydyfelin
Adeiladu'r draphont yn Rhydyfelin
   
Parhaodd y Doctor's Canal ac iard gychod Dyffryn i ddatblygu yn yr 1840au wedi i bont gael ei chodi dros yr afon i Waith Tunplat Trefforest. Roedd tunplat gorffenedig yn gadael y gwaith ar dramffordd, yn croesi'r afon Taf ac yn cael ei gludo i'r Doctor's Canal lle'r oedd glanfa gyda chraen. Roedd iard gychod Dyffryn gyferbyn â'r lanfa, yn ymyl Ty Crwn Francis Crawshay lle'r oedd rhai o'r seiri cychod a'r llifwyr yn byw.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf