header Cymraeg English
Pontyclun  

Mae map degwm 1841-42 o ardal Pont-y-clun/Meisgyn yn dangos rhyw 30 o ffermydd rhwng 20 a 200 erw o faint, melin flawd a bythynnod bach ar safle River Row . Erbyn heddiw, yn yr un ardal, nid oes ond 5 o ffermydd sy'n parhau i gael eu hamaethu. Dim ond ers 1893 y mae'r enw Pont-y-clun wedi cael ei ddefnyddio'n swyddogol; cyn hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Pont Clown neu Bont-y-clown oedd, mae'n debyg, yn dangos bod yr afon wedi'i gorchuddio gan goed a phrysgwydd. Mae cofnodion cynharach yn cynnwys amrywiaeth o enwau, gan gynnwys 'Cloune' a 'Clune'. Enw'r afon Clun, sy'n ymddolennu o gwmpas yr ardal, sydd o bosib yn gyfrifol am y rhain.

Pont-Y-Clun
Ffordd y Bont-faen, Pont-y-clun tua 1900
Mewnlifiad gweithwyr i'r diwydiant glo a mwyn haearn ynghyd â dyfodiad y rheilffordd yn ystod y 1850au oedd yn gyfrifol am newid yr ardal am byth. Glofa Coedcae (a restrir am y tro cyntaf ym 1856) a gwaith mwyn haearn Bute (a agorodd ym mis Hydref 1852) sbardunodd y twf yn y boblogaeth. Erbyn 1871, mae'r ffurflenni cyfrifiad yn cofnodi mewnlifiad o fwynwyr o Gernyw a oedd wedi dioddef oherwydd methiant y diwydiant mwyn copr yng Nghernyw.

Ffordd y Bont-faen, Pont-y-clun tua 1900

Cafodd y twf mawr hwn o siaradwyr Saesneg yn yr ardal gryn effaith ar y boblogaeth leol o siaradwyr Cymraeg a bu'n gyfrifol am ‘ladd' Cymraeg fel iaith dros gyfnod cymharol fyr. Erbyn 1870 ehangwyd diwydiannau'r ardal drwy ddyfodiad yr Ely Tin Plate Works, y Gwaith Peipiau a'r Steam Joinery Company. Er mwyn diwallu anghenion y gweithlu adeiladwyd Stryd yr Ysgol a Ffordd Llantrisant, rhai o dai cynharaf yr ardal, ynghyd â‘r National School a adeiladwyd yn Stryd yr Ysgol, tua 1878, Bethel Capel y Bedyddwyr (tua 1876) a thafarndai fel y Bute Hotel a'r Windsor Arms. 
Gweithwyr Pipe
Gweithwyr ifanc yn y Gwaith Tunplat tua 1904
I gyfoethogi bywyd diwylliannol a chymdeithasol y boblogaeth a oedd yn tyfu, yn gynnar yn yr 20fed ganrif aed ati i adeiladu Institiwt Pont-y-clun (1910). Erbyn y 50au hwyr roedd yr Institiwt wedi gweld dyddiau gwell a phenderfynwyd rhoi iddo enw newydd, Clwb Athletau Pont-y-clun, fyddai'n diwallu anghenion pêl-droed, rygbi a chriced yr ardal. Mae Pont-y-clun yn dal i ffynnu er gwaetha cau'r pyllau a'r gweithfeydd mwyn, a gafodd effaith andwyol ar yr ardal. Daeth yr ardaloedd siopa y tu allan i'r dref â bywyd newydd i Bont-y-clun, a busnesau manwerthu yw'r prif gyflogwyr bellach. Mae Pont-y-clun hefyd yn lleoliad addas ar gyfer cymudo i Gaerdydd a'r Fro, ac mae rhagor o dai wedi eu codi yn sgil hynny.

Gweithwyr ifanc yn y Gwaith Tunplat tua 1904

BRAGDY'R CROWN, PONT-Y-CLUN  
Prynodd y South Wales & Monmouth United Clubs Brewery Co. Ltd. y bragdy bach teuluol o eiddo D & T Davies ym 1919. Roedd y Cwmni hwn wedi ei ffurfio i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o Glybiau Gweithwyr a oedd yn cael anhawster i gael digon o gwrw gan y nifer sylweddol o fragdai lleol ledled yr ardal. Roedd Deddf Cau'r Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 wedi hybu'r twf yn nifer y clybiau, gan nad oedd yn rhaid iddyn nhw, yn wahanol i'r tafarndai, gau ar y Sul. Codwyd cyfalaf ar gyfer y fenter drwy gynnig cyfrannau, a phrynwyd y bragdy am £25,000. Yn y flwyddyn gyntaf roedd y bragdy yn cynhyrchu 200 casgen o ‘Club Pale Ale ' yr wythnos. Pennaeth y bragdy bryd hynny oedd Capten Rogers a oedd wedi gwasanaethu fel swyddog gyda'r marchoglu yn ystod Rhyfel De Affrica.

Erbyn 1936 roedd y bragdy yn cynhyrchu 500 casgen yr wythnos, a chynyddodd i 900 ym 1938. Pan dorrodd y rhyfel allan ym 1939 peidiodd y cynnydd, ond pan ddaeth y rhyfel i ben ym 1945 ail-ddechreuodd eto. Erbyn 1954 roedd yr hen fragdy wedi cael ei ddisodli gan fragdy newydd sbon a oedd yn ddigon mawr i gynhyrchu'r 1200 casgen yr wythnos yr oedd y clybiau yn gofyn amdanynt bryd hynny. Ym 1984 Bob Smith oedd prif fragwr y cwmni, dim ond y pumed yn y 65 mlynedd y bu'r cwmni'n marchnata. Ym 1988 cyfunwyd y Crown â bragdy hynaf Cymru, Buckley's of Llanell i i ffurfio ‘r Crown Buckley Brewery ond yna, wedi 80 mlynedd o fasnachu, caeodd y bragdy yn ystod Gwanwyn 1999.

Bragdy'r Crown

Bragdy'r Crown
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf