header Cymraeg English
Meisgyn  

Mae map degwm 1841 a'r atodlenni'n dangos Meisgyn fel pentref bach tua dwy filltir i'r de o Lantrisant ar lan yr Afon El á i. Roedd yn cynnwys ffermdy New Mill, bwthyn ac ysgubor a bwthyn a gefail, bob un yn perthyn i Fferm New Mill.

O gymharu'r map â map Arolwg Ordnans 1875, gwelwn fod map y degwm hefyd yn dangos melin a bwthyn ar safle presennol y Miskin Arms. Mae cyfrifiad 1841 yn nodi poblogaeth o 31 mewn pum cartref, gan gynnwys ffermwr, melinydd, siopwr, gwniadwraig, crydd a labrwr. Nodir mai ‘New Mill' oedd enw'r pentref bach.

Erbyn cyfrifiad 1861 roedd New Mill wedi tyfu'n bentref. Roedd ei boblogaeth wedi cynyddu i 83 mewn 17 cartref. Yn ogystal â'r ffermwr, y melinydd, y crydd a'r labrwr, roedd yna 17 o fwyngloddwyr haearn yn byw yn y pentref hefyd. Mae'n amlwg, felly, fod agor gweithfeydd mwyn haearn Bute a Mwyndy yn ystod y 1850au wedi cael effaith drawiadol a pharhaol ar ddatblygiad New Mill. Gweithiwyd y gweithfeydd mwyn haearn fel chwareli brig yn ystod datblygiad cynnar y diwydiant.

Dde: Map Meisgyn 1874/1876

Map Meisgyn 1874/1876
Yr hen bont, Meisgyn ger y felin ddwr

Fodd bynnag, erbyn diwedd y 1860au, roedd siafftau'n cael eu hagor, a bu newid yn natur y gweithlu o chwarelwyr a labrwyr i fwynwyr crefftus. Mae map Arolwg Ordnans 1875 yn dangos sawl gwaith mwyngloddio haearn i'r gogledd o'r pentref. Cyflogwyd nifer o gloddwyr o Gernyw, ac roedd llawer o'r rhain wedi colli eu swyddi yn dilyn cwymp y diwydiant mwyngloddio copr ym 1866. Mae cyfrifiad 1871 yn nodi bod dros hanner mwynwyr haearn New Mill wedi symud o Gernyw, gan godi poblogaeth y pentref i 144.

Chwith: Yr hen bont, Meisgyn ger y felin ddwr

 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf