header Cymraeg English
Llanharry  
Pentref sy'n datblygu'n gyson yw Llanhari yng ngogledd Bro Morgannwg, bedair milltir i'r gogledd o'r Bont-faen. Mae mwyngloddio haearn wedi bod yn bwysig i'r pentref ers canrifoedd, ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, oes Elisabeth ac am gyfnod yn yr ugeinfed ganrif, yno yr oedd unig bwll haearn Cymru.
Fodd bynnag, mae plac bach ar wal ger tafarn y Fox and Hounds yn ein hatgoffa nad mwyngloddwyr oedd yr ymwelwyr cyntaf â'r ardal, ond llwyth rhannol- grwydrol o'r Oes Efydd o'r enw Pobl y Biceri. Codwyd y plac yn y 1960au gan Gyngor y Plwyf yn dilyn pwysau gan yr ysgol gynradd leol. Mae'n coff á u darganfyddiad ysgerbwd dyn tua 35 oed, 5tr. 9 mod. a llestr bicer 8 modfedd ym 1929. Mae gan y llestr gynllun trawiadol a gwneuthuriad cain a defnyddir llun ohono'n aml heddiw mewn llyfrau pwysig am y cyfnod. Daethpwyd o hyd i'r Dyn Bicer yn gorwedd ar ei ochr dde, gyda'i ben yn wynebu'r gogledd a'i ben-gliniau o dan ei ên. Glanhawyd yr ysgerbwd gan y diweddar Mrs. Eliza Johns ar fwrdd yn ei bwthyn cyfagos, cyn cael ei symud gyda'r llestr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Gwaith cloddio ar safle Claddu Pobl y Biceri yng Ngwinllan Naboth, 1929. Daethpwyd o hyd i'r safle wrth adeiladu'r ffordd rhwng Llanharan a Llanhari

Uchod: Gwaith cloddio ar safle Claddu Pobl y Biceri yng Ngwinllan Naboth, 1929. Daethpwyd o hyd i'r safle wrth adeiladu'r ffordd rhwng Llanharan a Llanhari

 

Pwll Llanhari yn yr 1960au cyn iddo gau ym 1975
I'r gogledd o'r pentref ger Ystâd Trecastell, daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith mwyn haearn Rhufeinig neu Rufeinig-Brydeinig. Llwyddodd y mwynau cyfoethog ger y wyneb i ddenu mewnddyfodiaid o dai moethus y Fro ac o anheddiad Rhufeinig y Bont-faen. Mae'n ymddangos i'r gwaith mwyngloddio haearn gael ei wneud mewn siafftau bas dros ardal eang i gyfeiriad Meisgyn a Mwyndy, ond daeth y dystiolaeth orau o Lanhari i'r amlwg ym 1967 pan ddaethpwyd o hyd i damaid o grochan Rhufeinig o'r drydedd ganrif yn "Redlands House". Ychydig flynyddoedd yn ôl canfuwyd rhai ceiniogau Rhufeinig yn yr un ardal hefyd.


Chwith: Pwll Llanhari yn yr 1960au cyn iddo gau ym 1975

Llun trwy garedigrwydd Paul Thomas

Llanharry Map
St. Illtud's Church
 
Eglwys Illtud Sant Llanhari (Mae David J Francis, awdur y dudalen hon, i'w weld yn y llun)
Eglwys Illtud Sant Llanhari (Mae David J Francis, awdur y dudalen hon, i'w weld yn y llun)
Saif Eglwys Illtud Sant yng nghanol y pentref. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1867-8, ond mae'n bosibl i'r anheddiad Cristnogol cyntaf dyfu o amgylch eglwys bren yn ystod Oes y Seintiau. Does wybod ai Illtud Sant, neu un o'i ddilynwyr, sefydlodd yr eglwys yn ail hanner y bumed ganrif, neu i'r eglwys gael ei sefydlu yn y ddeuddegfed ganrif. Yr hyn sy'n hysbys i ni yw bod enw'r eglwys a'r enwau 'Llanhari' a 'Llanharry" yn dechrau ymddangos ar ddogfennau ar ôl y dyddiad diweddarach hwn a thrwy'r Oesoedd Canol. Does neb yn gwybod beth yw ystyr Llanhari, (doedd yna ddim Sant Harri), ond mae'n bosibl mai ‘Llanhari' yw'r ffurf Gymraeg gywir, a dyna sy'n ymddangos yng ngwaith y beirdd Cymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cafodd y Diwygiad a'r Rhyfel Cartref effaith ar yr eglwys ei hun. Yn ystod teyrnasiad Edward VI, cafodd llawer o eiddo'r eglwys ei atafaelu gan Brotestaniaid eithafol, ac yn ystod cyfnod Oliver Cromwell, cafodd y Rheithor Edmond Gamage ei droi allan o'i gartref ym 1649, gan ddioddef cryn galedi ariannol nes i'r frenhiniaeth gael ei hadfer ym 1660. Mae mwy o wybodaeth am yr hen eglwys a'r adeilad Fictoraidd a gymerodd ei lle ar gael ar wefan yr eglwys. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth bensaern ï ol a hanesyddol.
Llanhari – hen dafarndai  
Fel llawer o hen bentrefi, mae yna dafarn gerllaw'r eglwys yn Llanhari. Mae hanes diddorol iawn yn perthyn i'r Bear Inn. Defnyddiwyd y lle fel ysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a byddai'r plant yn cael eu dysgu gan athro 80 oed a oedd yn ddisgyblwr llym. Roedd yn gartref i Gymdeithas Gyfeillgar a oedd yn dyddio'n ôl i Ryfeloedd Napoleon, ac ar un adeg roedd yn Ysgol Nos Fictoraidd ar gyfer glowyr a gweithwyr haearn.

Dde: The Bear Inn, Llanhari 2004 ac (isod) - hen ran y Bear a ddefnyddiwyd fel ysgol ar un adeg 

The Bear Inn, Llanhari 2004 ac (isod) - hen ran y Bear a ddefnyddiwyd fel ysgol ar un adeg 
The Bear Inn, Llanhari 2004 ac (isod) - hen ran y Bear a ddefnyddiwyd fel ysgol ar un adeg 
The Fox and Hounds, Llanhari 2004 
Ganllath neu ddau ar hyd y ffordd i gyfeiriad Llanharan saif "The Fox and Hounds", adeilad sy'n perthyn i Oes y Tuduriaid sydd wedi'i ymestyn yn sylweddol yn ddiweddar. Roedd yna dair tafarn arall yn y plwyf yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef "The Colliers Arms", "The Gronow" a "The Boars Head" yn Nhylagarw. Enwyd y ddwy olaf ar ôl arglwyddi maenordai Llanhari a Threcastell. Ers 1959, mae Clwb y Gweithwyr wedi agor yng nghanol stad fawr o dai, gan ddatblygu'n ganolfan gymdeithasol a hamdden ffyniannus yn y pentref. Caeodd y tafarndai Fictoraidd, "The Colliers Arms" a "The Gronow" yn y 1920au. .

Chwith: The Fox and Hounds, Llanhari 2004 

Mae ysgolion wedi'u cynnal mewn amryw o adeiladau gwahanol yn y pentref dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn yr eglwys a'r hen reithordy yn y ddeunawfed ganrif. Sefydlwyd yr Ysgol Sul gyntaf a Chapel Anghydffurfwyr pwysig ychydig y tu allan i Lanhari ar y ffordd i'r Bont-faen yn yr 1820au, yn rhannol oherwydd bod grwp o fechgyn wedi bod yn chwarae pêl-droed ar y Sabath. Nid yn unig y perswadiodd y Parch. Shadrach Davies y bechgyn i roi'r gorau i'w chwaraeon “annuwiol” a mynychu'r Ysgol Sul, ond mae'n debyg iddo fynd ati ei hun i adeiladu Capel Peniel. Ar ôl i'r Bear Inn gau ym 1870, roedd plant Llanhari yn gorfod cerdded i'r Ysgol Genedlaethol yn Llansannor ym mhob tywydd. Mae'n dal i fod mor boblogaidd ag erioed. Erbyn 1913 roedd Ysgol y Cyngor wedi'i hadeiladu yn Llanhari ger Capel Peniel. Goroesodd yr adeilad blêr hwn, lle'r oedd yr inc yn rhewi yn y gaeaf, tan 1935 pan adeiladwyd Ysgol Gynradd fodern ar yr un safle. Agorodd Ysgol Uwchradd Fodern Llanhari gyferbyn â'r Ysgol Gynradd ym 1959, gan droi'n Ysgol Gyfun Llanhari yn ddiweddarach. 
Profodd Llanhari chwyldro diwydiannol bach tua chanol yr Oes Fictoraidd gyda mwyngloddio glo a Distyllfa ar Ddôl Llanhari a mwyngloddio haearn ar safle presennol Tai Patch. Ond ni chafwyd twf sylweddol o ran y boblogaeth, gwaith a thai tan ddechrau'r ugeinfed ganrif pan agorwyd Pwll Mwyn Haearn Hematit Llanhari ger Fferm Llechau. Adeiladwyd tai cyngor yn Addison a Thylacoch yn y 1920au, ac aed ati i adeiladu rhagor ar ôl y Rhyfel yn Aelfryn a Gelli, ac ar stad fawr ym Mhantgwyn yn y 1950au. Gydol y cyfnod hwn, y Pwll Haearn oedd prif gyflogwr yr ardal, ac roedd yn ergyd drom pan gaeodd ym 1975.
Plac
Er i nifer o amwynderau cyhoeddus fel siopau newydd, meddygfeydd, canolfan gymunedol, parciau a meysydd chwarae gael eu hadeiladu cyn i'r pwll gau, cafwyd cryn galedi economaidd yn yr 1980au a'r 1990au. Fodd bynnag, mae dyfodiad yr M4, twf datblygiadau tai preifat, lleoliad y pentref gerllaw Caerdydd a'r Fro, un o ardaloedd mwyaf ffyniannus Cymru, a'r tebygolrwydd o agor Stiwdio Ffilm arobryn yn Llanilid yn argoeli'n dda i bentref sydd wedi colli ei enaid haearn.
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf