header Cymraeg English
Llanharran  
Mae plwyf Llanharan yn cwmpasu tua 3,000 o erwau, dan gysgod Mynydd Garth Maelwg. Mae golygfeydd godidog o Fro Morgannwg o ben y mynydd, ac mae'r ardal yn frith o hanes a chwedlau. Hyd at ychydig o genedlaethau yn ôl, roedd pobl yn dal i gredu bod y Brenin Llwyd yn byw ar y mynydd hwn, a gwae unrhyw un fyddai'n cael ei ddal ganddo! Os cerddwch chi dros y mynydd o Lanharan i Lantrisant fe ddowch chi ar draws safle "The Beacons", lle byddai'r Milisia yn cyfarfod cyn y 1700au i fyddino a dangos eu harfau. Yn fwy diweddar, arferid tanio coelcerth ar y bannau i ddathlu'r coroni. Ychydig i'r dwyrain o fan hyn mae lle poblogaidd o'r enw Egg Wells , a oedd yn denu cannoedd o ymwelwyr yn ystod yr haf i flasu'r dwr sylffwraidd bendithiol a mwynhau hwyl y ffair. Efallai mai'r daith i greigiau'r Gaer yw'r un orau i gerddwyr, ac mae gwreiddiau'r geiriau "Duw Cariad Yw" gerllaw wedi bod yn destun dadl a rhyfeddod i gerddwyr erioed.

High Corner House

High Corner House

Os ydych chi eisiau gweld y pentref cyn-ddiwydiannol yn ei holl ogoniant, dechreuwch yn Sgwâr Llanharan. Edrychwch ar dafarn "The High Corner" gyferbyn, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf 1700. Enw'r dafarn wreiddiol oedd "The Corner House", a fu hefyd yn gapel erbyn y 1770au! Hyd yn oed cyn i'r dafarn gael ei hymestyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn ddigon mawr i gynnal y dyrfa fawr oedd yn dod i helfa flynyddol Llanharan yn nyddiau Richard Hoare Jenkins. Roedd ffermwyr lleol yn talu'r rhent yma ddwywaith y flwyddyn, ac mewn oes o oryfed, roedd eu gwragedd yn falch o ddylanwad y pregethwyr oedd yn lladd ar y ddiod gadarn. Yn ôl y sôn, cafodd llond carfan o chwaraewyr rygbi lleol dröedigaeth ar ôl i'r efengylwr Evan Roberts ymweld â'r Sgwâr ym 1905!
Trowch i'r dde ger y dafarn ac fe welwch chi bentref hen ffasiwn sy'n wledd i'r llygaid. Mae'n debyg mai'r pentref llinellol, nodweddiadol, hwn ar lannau'r afon Ewenni Fach oedd un o bentrefi pertaf a mwyaf yn y fro, gyda'i adeiladau o feini brown lleol a thai teras bach. Roedd yn gwbl ddibynnol ar y sgweier lleol yn wreiddiol, ac yn yr oes aur Fictoraidd, roedd yn cynnwys gefail, ysgol hen ferch, bragdy, “ffatri” crydd, melin yd, eglwys a bythynnod to gwellt del.
Eglwys Sant I w l ac Aaron  

Mae'n werth ymweld â'r eglwys hon sy'n cael ei hanwybyddu'n aml. Cafodd ei chynllunio gan John Prichard a'i hadeiladu gan J Rees o Ben-y-bont ar Ogwr yn arddull gothig nodweddiadol Oes Fictoria, am ychydig dros £1,000. Wedi'i hadeiladu o dywodfaen pennwn lleol yn bennaf, cafodd ei disgrifio gan Geoffrey Orrin fel un o eglwysi pentref prydferthaf Prichard.

Ceir un o'r cyfeiriadau cyntaf at yr eglwys fel capel ym 1563, ond credir ei bod yn dipyn h y n na hynny, a'i bod mwy na thebyg yn un o adeiladau Abaty Tewkesbury ym Morgannwg yn y ddeuddegfed ganrif

Dde: Tu mewn i'r eglwys

Tu mewn i'r eglwys
Ffenestr wydr liw Eglwys Sant Iwl

Mae rhai pobl ddiddorol wedi'u claddu yn yr Eglwys , gan gynnwys "The Three Ladies of Lanelay" a ddisgrifiwyd gan dad y dyddiadurwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, David Jones o Wallington, fel y gwragedd rhyfeddaf a welodd erioed.
Eleanor, Joan ac Ann Bassett, yr aelodau olaf o deulu Basset, Glanelái, oedd y rhain. Buont yn byw fel meudwyiaid ym Mhlas Glanelái tan eu marwolaeth. Mae'n syndod gweld beddi pedwar o Uchel Siryfion Morgannwg yma, a'r un mwyaf diddorol ohonynt o bell ffordd yw Richard Hoare Jenkins, Llanharan House, fu farw ym 1856. Chwaraeodd ran flaenllaw wrth atal Terfysgoedd Merthyr 1831, ac iddo ef, un o ddyletswyddau mwyaf annymunol ei swydd oedd goruchwylio crogi Dic Penderyn.

Chwith: Ffenestr wydr liw Eglwys Sant Iwl

Treuliwch funud neu ddau yn darllen y manylion ar blac Powell. Gallwch weld enw Margaret Powell, gwraig Sgweier Llanharan, y Parchedig Gervase Powell, arno. Ym marn David Jones, hi oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cymeriad comig anfarwol Sheridan, Mrs Malaprop. Mae Jones yn dyfynnu cameiriad ganddi, sydd efallai'n cyfeirio at Llanharan House,
"A turpentine walk through a scrubbery is a very nice reproach to a house".
Yn ôl y sôn, roedd un o blant Margaret Powell wedi etifeddu dawn dweud rhyfedd y teulu! Sonnir i ferch Margaret ddweud wrth ei ffrind bod ei gwr wedi ychwanegu crocodeil i'w ewyllys! Nid oedd Richard Sheridan mor gyfeillgar â hynny gyda'r bonheddwyr Cymreig gan iddo ymladd dwy ornest gyda Thomas Mathew o Lys Llandaf. Mae'n debyg mai Mathew oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o gymeriadau mwyaf cofiadwy Sheridan, felly pam ddim Mrs Powell? A oedd y dramodydd o'r ddeunawfed ganrif wedi'i gyfareddu gan acen Sir Frycheiniog Mrs Powell neu ei swildod neu ei amharodrwydd i siarad Saesneg caboledig gyda byddigions parchus Caerfaddon, gan mai Cymraeg oedd ei mamiaith? Ni chawn fyth wybod yn sicr, ond mae hi'n haeddu'r sylw ym mlwyddnodion Llanharan.

Plac ar wal Eglwys Sant Iwl

Plac ar wal Eglwys Sant Iwl

Ysgolion Llanharan  
Ar ôl dychwelyd i'r Sgwâr, fe basiwch chi'r hen efail ar y dde. Mae'n ddiddorol bod ysgol a gefail yn rhannu'r adeilad hwn yng nghanol oes Fictoria, fel yr ysgol a'r dafarn yn y Bear Inn, Llanhari. Menyw o Felin Ifan Ddu oedd athrawes yr ysgol, ac roedd hi hefyd yn wniadwraig fedrus. Cyn hir, symudodd yr ysgol i adeilad arall i fod yn nes at yr Eglwys, sef canolfan y Sgowtiaid a'r Geidiaid heddiw. Dyma lle'r oedd "Bugs" Smith yr athro carismataidd yn addysgu, ac mae'n bosibl mai Ysgol Genedlaethol oedd hi. Mae gan Mrs Sarah Holland Miles atgofion melys o'r ysgol yn ei bywgraffiad "Dros yr Ysgwydd", gan ddisgrifio sut y llwyddodd i osgoi sefyllfa chwithig yn ystod Diwrnod Arolygu. Ei thasg oedd gwau hosan er mwyn i'r arolygwr ei asesu. Yn anffodus, methodd â chwblhau'r dasg oherwydd ei nerfusrwydd, ond cafodd achubiaeth pan nad oedd yr arolygwr yn sylwi. Taflodd ei hathro caredig hosan wedi hanner ei chwblhau ati! Ffurfiwyd Bwrdd yr Ysgol ym 1890. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, codwyd ysgol newydd ar gyfer 200 o blant yn Chapel Road. Roedd yr ysgol hon yn gwasanaethu pentrefi Llanbedr-ar-fynydd a Llanilid tan 1904, pan adeiladwyd ysgol newydd ym Mrynna. Pan ehangodd Llanharan tua'r gorllewin yn sgil agor Glofa Powell Duffryn yn arbennig, codwyd trydedd ysgol yn y Dolau yn y 1920au. Yr ysgol hon oedd â'r adeiladau a'r cyfleusterau gorau yng Nghymru a gorllewin Lloegr ar y pryd, yn ôl adroddiadau.
Llan y Llenorion  
Ar dalcen yr Hen Efail, fe welwch chi gloc wedi'i gyflwyno er cof am Tegwen Lewis (dde), bardd lleol a enillodd 29 o gadeiriau a 3 coron mewn eisteddfodau lleol. Mae'r cloc hwn yn dyst i'r ffaith fod Llanharan yn parchu ei llenorion. Ac mae'r pentref yn frith ohonynt. Y cynharaf ohonynt yw'r bardd medrus o'r bymthegfed ganrif, Rhys Brydydd o Flaen Cynllan, ac roedd eraill yn cynnwys David Evans (Dewi Haran) (1812-1895), y Parchedig John Morgan (1827-1903) a Sarah Holland Miles (1873-1965). Ymhlith llenorion diweddar Llanharan mae George Williams, Llanharan House, y Parchedig Bob Morgan, John Harris, David Francis Les Servini a Terry Witts.
O blith y sgwenwyr modern, efallai dylid rhoi sylw arbennig i Terry Witts. Bu fyw yn Llanharan ar hyd ei oes, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes ei gyndeidiau. Gwelwyd ei frwdfrydedd mewn cyfres o lyfrau o'r enw "The Forgotten Years", sy'n trin a thrafod hanes Llanharan o oes y sgweieriaid i oes y diwydiant glo. Mae cyfres o luniau gwerthfawr yn cyd-fynd â'r hanesion difyr.

Y cloc a'r plac ar dalcen yr hen efail

Y cloc a'r plac ar dalcen yr hen efail

Llanharan House  
Mewn llecyn ysblennydd tua milltir i lawr Heol Llantrisant saif Llanharan House, sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i'r awduron Terry Witts a David Francis. Mae wedi bod yn gartref i 4 neu 5 o deuluoedd gwahanol gan gynnwys teulu'r Powell, Jenkins, Blandy (Blandy Jenkins yn ddiweddar) a Williams. Adeiladwyd y ty presennol gan Rees Powell ar ddiwedd y 1740au, ond a oedd yna Dy Mawr yn Llanharan cyn i'r Poweliaid gyrraedd yno tua 1700? Tua'r un cyfnod â Thân Mawr Llundain (1666), roedd gan wr bonheddig o'r enw Evan Rees gartref ar safle Llanharan House heddiw, er ei fod yn dy tipyn llai o bosib. Ai Rees oedd y cyntaf o Sgweieriaid Llanharan? Fel llawer o dirfeddianwyr yr oes, roedd sgweieriaid Llanharan yn hela, saethu a physgota yn ogystal â chyflawni gwasanaeth cyhoeddus. Er enghraifft, roedd John Blandy Jenkins yn Siryf Berkshire a Chadeirydd Cyngor Sir Morgannwg rhwng 1895 a 1915, ac mae Mr George Williams a'i fab Owen wedi gwasanaethu fel Uchel Siryfion Morgannwg yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae perchnogion Llanharan House wedi croesawu nifer o enwogion ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Brenin Gwlad Groeg a Margaret Thatcher .
Y pentref glofaol  

Er mwyn deall lle a sut y datblygodd Llanharan i fod yn bentref glofaol ar ôl 1885, cerddwch ar hyd Bridgend Road (Dolau Road yn wreiddiol). Ar ôl gadael y Sgwâr, croeswch y bont reilffordd i weld y rhes o dai sydd mor nodweddiadol o'r cymoedd glo. Roedd Cwm Ewenni Fach rhy gul i gartrefu'r holl fewnfudwyr. Nid y pyllau glo oedd yn gyfrifol am ddenu pobl yma'n wreiddiol. Dechreuodd y boblogaeth gynyddu ar ôl i'r South Wales Railway gyrraedd ym 1850, cyn cynyddu ymhellach ar ôl agor gweithfeydd haearn ger Pont-y-clun a Llanhari. Ar ôl 1872, ymgartrefodd llawer o weithwyr tun yn Llanharan ac yn "Tin Works Row" ger Tylagarw hefyd. Ond ar ôl i dair glofa ddechrau ehangu i'r gogledd a'r gorllewin o Lanharan, fe ddaeth hi'n amlwg bod angen cryn dipyn o dai newydd i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Adeiladwyd tua 80 o dai newydd rhwng 1891 a 1901, ac erbyn troad y ganrif, roedd dros 1000 o drigolion yn byw yn y pentref. Daeth llawer o'r mewnfudwyr o Loegr, yn enwedig o ardal Forest of Dean, lle'r oedd y diwydiant glo yn prysur ddirywio. O 1900 tan 1962, pan gaeodd Glofa Powell Duffryn, datblygodd yr ardal i'r gorllewin o Bridgend Road fel canolbwynt masnachol y pentref glo lled-lewyrchus hwn - pentref a lwyddodd i ddal ei dir yn ystod cyfnod y Dirwasgiad Mawr hyd yn oed.
Cerddwch ar hyd y briffordd hon i weld a yw olion yr hen ffyniant economaidd yno o hyd. Go brin y byddech wedi tybio bod cymaint o fwrlwm yn ardal y stryd hon am 60 mlynedd, rhwng gorsaf reilffordd, llaethdy, sinema, gorsaf heddlu, trefnwyr angladdau, dwy neuadd filiards, llyfrgell, becws, siop y co-op, banc, garej, gwerthwr glo, swyddfa'r post, cyrtiau tennis, sawl caffi, neuadd yr eglwys, pum capel a thua 20 o siopau amrywiol.
Nid pawb o'r newydd-ddyfodiaid oedd yn byw ar y stryd hon: ymsefydlodd y nouveau riche yn Chapel Road, ac ymgartrefodd llawer o'r glowyr a gweithwyr coleri gleision mewn tai cyngor ar y ffordd i Frynna.
Daeth oes aur Bridgend Road i ben ar ôl i'r lofa olaf gau, ac erbyn 1970, roedd cynghorwyr amlwg hyd yn oed yn dweud fod y pentref yn marw. Heblaw am Gapel Carmel ac ambell siop, roedd y busnesau a'r cyfleusterau uchod wedi cau fesul tipyn, a Llanharan yn dechrau mynd rhwng y cwn a'r brain.

Dal ati  
Nid oedd pethau'n ddu i gyd yn Llanharan, ac roedd pethau'n well yno nag yr oedd hi mewn cymunedau glofaol eraill. Achubwyd y pentref i raddau gan yr holl ddatblygiadau tai newydd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ym mhlwyf Llanbedr-ar-fynydd, Heol Llanhari a Bryncae. Roedd y ffaith ei bod mor agos i'r M4 ac ardal lewyrchus Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i Lanharan. Roedd ymdeimlad cryf o gymdeithas yn nhafarndai a chlybiau'r pentref eisoes, a chryfhaodd hynny yn y 1990au gydag agor Canolfan Galw Heibio a Siop Gymunedol fywiog. Mae'r ddau ddatblygiad hwn wedi gwneud cymaint i roi hwb newydd i'r pentref cyfan.
Yn fwy diweddar, dechreuodd Pwyllgor Adfywio ofyn i'r cyhoedd beth oedd prif flaenoriaethau'r hen a'r ifanc yno. Adnewyddwyd hen adeilad y Clwb Rygbi i fod yn glwb o'r radd flaenaf (dde) ar safle hen adeilad y Lleng Brydeinig, gan gynnig cyfleusterau gwell a modern i glwb a gafodd ddyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru yn 2004. Mae Neuadd y Pensiynwyr yn cael ei ailwampio hefyd, gan sicrhau man cyfarfod i henoed y pentref yn y dyfodol.

Dde: Clwb Rygbi Llanharan

Clwb Rygbi Llanharan
Yr hen safle glo brig sydd wrthi'n cael ei droi'n ganolfan cynhyrchu ffilm enfawr – un o'r mwyaf o'i bath y tu allan i'r Unol Daleithiau.

Yn olaf, dylai datblygiadau arfaethedig Dragon International Studios ar hen safle glo brig Llanilid adfywio economi'r pentref ymhellach.

Chwith: Yr hen safle glo brig sydd wrthi'n cael ei droi'n ganolfan cynhyrchu ffilm enfawr – un o'r mwyaf o'i bath y tu allan i'r Unol Daleithiau.
Llanbedr-ar-fynydd  
Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, plwyf ar yr ucheldir rhyw 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ben-y-bont ar Ogwr yw Llanbedr-ar-fynydd. ac mae isafon Ewenni Fach rhyngddo a phentrefi Llanharan a Llanilid. Efallai mai'r ffordd orau o gael rhywfaint o naws y plwyf cyn i bentref Brynna ddatblygu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw ar droed. Os cerddwch chi o Heol Gellifedi, Brynna, at adfeilion hen eglwys Llanbad ar lechwedd Mynydd Portref, fe welwch chi olygfa o'r ardal fel yr oedd hi ers talwm. Er ei bod hi'n olygfa braf, mae'n lle unig dros ben, sy'n gwneud i chi ofyn - pam codi eglwys yma o gwbl?
Ni wyddom ai eglwys Geltaidd neu Normanaidd oedd hi. Ond mae un peth yn sicr, roedd angen dipyn o ymdrech a dyfalbarhad i ddod yma i addoli ar hyd y canrifoedd. Er hynny, nid yw'n llecyn mor anghysbell â hynny mewn gwirionedd gan ei fod ond ychydig lathenni o hen lwybr mynyddig rhwng Llantrisant a Chastell-nedd. Roedd yr eglwys yn boblogaidd iawn ymysg beirdd Morgannwg a chyplau oedd am briodi. Yn rhyfeddol, cynhaliwyd 14 o wasanaethau priodas yma rhwng 1736 a 1740 – un yn fwy na'r fam eglwys yn Llangrallo.
Church remains
Y dyddiau cynnar  

Os edrychwch chi i lawr tuag at Frynna a Phen-coed, fe sylweddolwch mai ffermio bugeiliol oedd economi'r ardal o'r cychwyn cyntaf.
Ar ôl concwest y Normaniaid, roedd ffiniau Llanbedr-ar-fynydd yn cyd-daro â maenor Tirnewydd a oedd yn nwylo arglwyddi Coety. Ond roedd byd o wahaniaeth rhwng maenorau Llanhari a Llanbedr-ar-fynydd. Mae arolygon 1631 yn dangos yn glir nad oedd pentref na thir copihold a thenantiaid yn ôl y ddefod, dim gwaith glo ac ychydig iawn o ffermio âr yn Llanbedr-ar-fynydd. Yn Llanhari fodd bynnag, roedd glo yn agos at wyneb y tir, ac fe'u cloddiwyd gan y Sidneys yn ystod teyrnasiad Elizabeth 1; ond roedd y gwythiennau'n rhy ddwfn yn Llanbedr-ar-fynydd. Er bod rhywfaint o bentrefi ar hyd llwybr y mynydd, doedd dim sôn am bentref ger yr hen eglwys nac yn unlle arall yn y plwyf. Dim ond un felin oedd yn y plwyf ym 1631, sef ym mhentref Llanharan. Mae'n amlwg bod y ddau bentref yn rhannu'r un felin felly.
Heb bentref gerllaw, aeth hen eglwys Llanbad yn wag ac yn adfail erbyn blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly ym 1833, penderfynwyd adeiladu eglwys newydd mewn safle llawer mwy hygyrch heb fod ymhell o dafarn "The Eagle". Codwyd yr eglwys gan Mr E. Davies, Tre-groes, am £250. Er mwyn cadw cymeriad hanesyddol yr hen eglwys, gosododd yr adeiladwyr gloch, bedyddfaen a charegl Elisabethaidd yr hen eglwys yn yr un newydd. Yn ystod gwaith adfer yn y 1880au, cludwyd cerrig hen eglwys Llanbad o'r mynydd i wella'r adeilad newydd.
Pe baech chi wedi cyrraedd y plwyf ugain mlynedd ar ôl codi'r eglwys newydd, ni fyddech wedi gweld pentref Brynna o gwbl. Er bod rhywfaint o lo wedi'i gloddio yn Nant Ciwb ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond un adeilad oedd ym Mrynna ym 1843, sef tafarn The Eagle. Gerllaw, roedd melin Gellifedw, plasty Hendre Wen a Brynna Gwynion, tir anial agored oedd yn ymestyn cyn belled â'r pentref nesaf. Wrth gwrs, roedd Capel Bethlehem ac ychydig o fythynnod yn Llanharan ei hun, i'r gorllewin o afon Ewenni Fach. Yn wir, dim ond tua 40 o dai oedd yn y plwyf ym 1881.

Brynna  
Gyda mynd mawr ar gloddio glofeydd a drifftiau fel De'r Rhondda, Brynna Gwynion a Hendre Wen rhwng 1881 a 1901, datblygodd Brynna yn bentref diwydiannol ffyniannus. Mae'r enw Brynna i'w weld ar gofnodion eglwysi tua 1897 - felly gallwn dybio mai Brynna Gwynion oedd enw'r pentref newydd i ddechrau cyn ei dalfyrru i Frynna wedyn. Erbyn 1901, roedd y boblogaeth wedi chwyddo i 600 (dwywaith cymaint â phoblogaeth 1891) a thros 100 o dai, gyda llawer mwy i ddod. I ddechrau, daeth y glowyr o rannau eraill o Forgannwg, ond buan yr ymunodd glowyr o gyffiniau Forest of Dean, Lloegr, â nhw. Mae'n ddiddorol nodi gweld mai cyfuniad o Gymry a Saeson oedd trigolion cyntaf William Street, Brynna, gyda rhai o'r cyfenwau'n cynnwys Combes, Jones, Gibby, Williams, Young, Walters, Morgan, Hill, Ruck a Germain. Efallai bod rhai o'u disgynyddion yn dal i fyw yn y pentref! 
Ailadeiladwyd tafarn The Eagles i ddisychedu'r holl weithwyr newydd hyn.
Adeiladwyd Capel y Methodistiaid Brynna i ddiwallu anghenion ysbrydol y pentref newydd oedd yn prysur dyfu.
Gwelwyd newidiadau ym myd addysg hefyd. Sefydlwyd ysgolion cynnar yn y plwyf, fel Ysgol Gylchynol Griffith Jones ym mhentref Llanharan ym 1747. Mae'n debyg fod yr ysgol hon â 49 o ddisgyblion yn gwasanaethu'r ddwy gymuned. Roedd Ysgol Hen Ferch/Ysgol Un Athrawes hefyd yn y 1870au a'r 80au dan ofal gwraig foneddigaidd o'r enw Mrs Maria Habbakuk, aelod o deulu enwog Guest o Ddowlais. Mae'n debyg fod yr ysgol hon wedi'i lleol mewn tri bwthyn ar y ffordd i Ben-coed, ychydig gannoedd o lathenni y tu hwnt i dafarn y Mountain Hare. ‘Godre' neu ‘Habbakuk's Row' oedd enw'r stryd ar y pryd.
Erbyn 1904, doedd dim rhaid i blant deithio i Lanharan i gael addysg. Gyda'r pentre'n datblygu'n gyflym, agorwyd ysgol newydd yn y flwyddyn honno gan Mrs Blandy Jenkins, Llanharan House. Roedd 160 o blant yn Ysgol Brynna bryd hynny, a'r prifathro cyntaf oedd Mr D. Emlyn Davies. Dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol yn 2004. Dadorchuddiwyd cloc coffa ar Sgwâr Brynna, cynhaliwyd Dawns Canmlwyddiant yng nghwmni ‘enwogion' fel Stan Stennett a David Hughes a channoedd o bobl eraill, cafwyd Diwrnod Ysgol Edwardaidd ac enillwyd Gwobr Hanes o fri i gyd-fynd â'r dathliadau.
Mae cyfres y diweddar T.J. Witt, "Forgotten Years", yn sôn mwy am hanes pentref Brynna. Ysgrifennodd yn frwd am weithfeydd glo, amaeth, ysgolion a chwaraeon yr ardal. Mae ei waith yn cofnodi oes aur timau pêl-droed Brynna ar ôl y rhyfel, pan enillwyd y South Wales and Monmouthshire Amateur Cup ym 1949. Ysgrifennodd hefyd am y diweddar Evan Bowen, gôl-geidwad a chwaraewr dartiau penigamp.
Brynna heddiw  

Mae hen strydoedd y pentref diwydiannol yn amlwg heddiw, wrth ochr yr Eagle Hotel. Er hynny, mae'r pentref wedi bod trwy ragor o newidiadau mawr nad oedd yn gysylltiedig â'r diwydiant glo, yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Codwyd cryn dipyn o dai yn y pentref ei hun, ac ymhellach i'r gorllewin ger tafarn The Mountain Hare.

Dde: Eglwys Brynna

Isod: Dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol yn 2004. Dyma lun o'r pennaeth presennol a'r hen ddisgyblion yn sefyll o flaen murlun sy'n portreadu hanes yr ysgol – ddoe, heddiw ac yfory.

Eglwys Brynna
Dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol yn 2004. Dyma lun o'r pennaeth presennol a'r hen ddisgyblion yn sefyll o flaen murlun sy'n portreadu hanes yr ysgol – ddoe, heddiw ac yfory.
Mae angen cynnal tipyn o ddigwyddiadau mewn cymuned fywiog, ffyniannus, ac mae'r ddwy dafarn a'r ganolfan gymdeithasol fodern yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon amrywiol. Mae'r clybiau pêl-droed ieuenctid a h y n wedi elwa ar gael cae pêl-droed ychwanegol heb sôn am faes chwaraeon amlbwrpas llawr caled. Mae'r Eglwys a Chapel y Methodistiaid yn parhau i chwarae rhan amlwg ym mywyd y pentref, a chydag ysgol gynradd sy'n rhoi pwyslais ar y gymuned, prysurdeb Cymdeithas yr Henoed a chanolfan i bensiynwyr a phobl anabl yn Nhan-y-bryn, mae'r pentref yn llwyddo i blesio'r hen a'r ifanc fel ei gilydd.
Llanilid  
Y ffordd hawsaf o astudio hanes y plwyf hwn yw mynd i Eglwys Santes Ilid sy'n sefyll yn unig yng nghanol y caeau. Rhaid mynd trwy giât ac ar hyd llwybr bychan i'w chyrraedd. Os craffwch chi'n ofalus wrth droed gogleddol yr eglwys, gallwch chi weld sylfeini hynafol yr hen eglwys.
Mae oedran Eglwys Llanilid wedi bod yn destun dadl ers canrifoedd, rhai'n fwy ffansïol nag eraill. Y gred ar un adeg oedd mai dyma eglwys hynaf gwledydd Prydain!
Y tebygrwydd yw i'r eglwys gael ei chysegru i Santes Julitts neu Julitta ar ôl i'r Normaniaid oresgyn Morgannwg, ac mae rhai'n dadlau mai ffurf ar Julitta yw'r enw Ilid. Os felly, mae'n amlwg mai menyw oedd Ilid! Nepell o'r eglwys roedd ffynnon, lle byddai pobl sâl yn taflu eu dillad i'r dwr gan gredu y byddai hynny'n eu hiacháu.
Mae gwrthgloddiau canoloesol diddorol gerllaw'r eglwys, a does dim modd i chi osgoi'r mwnt crwn yma. Mae'n bosibl mai'r Normaniaid oedd wedi adeiladu hwn wrth frwydro'u ffordd tua'r gogledd yn erbyn y Cymry styfnig. Os ewch chi dros y gamfa a dilyn y llwybr i'r de-orllewin o'r eglwys, fe ewch heibio rhagor o wrthgloddiau o'r enw'r "Gadlys". Mae ysgolheigion bellach yn credu mai canolfan weinyddol yn hytrach na chastell oedd yma unwaith. Efallai bod y "Gadlys" wedi disodli mwnt crwn cynharach.

Dde: Eglwys Santes Ilid, Llanilid

Eglwys Santes Ilid, Llanilid
The Old Mill/Harvester

Gyda choetiroedd, rhosydd a chorsydd yn dominyddu'r dirwedd, roedd hi'n anodd tyfu yd a sicrhau economi gref i'r pentref. Un eithriad i'r patrwm hwn, fodd bynnag, oedd maenor hynafol Bryncwtyn oedd â digonedd o dir âr ffrwythlon. Roedd Maenor Bryncwtyn yn ymestyn ar hyd a lled Morgannwg, ac yn eiddo i farchogion enwog Sant Ioan o Jerwsalem cyn 1338. Efallai bod gan yr Urdd hon lety i deithwyr yma hefyd.
Heb os, y felin ddwr oedd canolbwynt plwyf Llanilid, a hyd yn oed ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y felin a'r efail yn dal i weithio, gefail, clwstwr o fythynnod a thafarn "The Fox and Hounds" yma. Gallwch ddychmygu hanes cyfoethog Llanilid a'i gysylltiadau ag anturiaethau Marchogion Sant Ioan wrth fwynhau llymaid bach yn nhafarn yr "Old Mill/ Harvester" ar y safle dan sylw heddiw.

Chwith: The Old Mill/Harvester

Yn ôl cofnodion Treth Aelwyd cyfnod Siarl II, roedd llawer mwy o ffermydd a thai yma nag yn ystod Oes Fictoria. Ond doedd dim maenordy yma bryd hynny na wedyn. Y ty mwyaf oedd Trallwn, gydag ond pedair aelwyd.
Ychydig o bobl sy'n gwybod mai'r pentref bychan tawel hwn oedd un o'r lleoedd y cychwynnodd Methodistiaeth yng Nghymru. Sefydlwyd cymdeithas y Methodistiaid yma, a daeth Hywel Harris yma ar ymweliad. Yn ei ddyddiaduron, mae'n nodi iddo ymweld â “Penprisk” a "nr Rhythyn" ar 27 Ebrill 1745 a'i fod mewn lle o'r enw “Pantrhythin” wedyn. Fe wyddom i achos y Methodistiaid barhau yn ardal Trallwn am ryw 30 mlynedd, gan fod cofnodion eglwysig yn dangos bod ychydig o Fethodistiaid yn y plwyf o hyd ym 1771.
Cafodd Eglwys Santes Ilid ei hesgeuluso am y ddwy ganrif nesaf, yn rhannol oherwydd tirfeddianwyr absennol. Erbyn 1880, roedd twr yr eglwys yn dechrau mynd â'i ben iddo - nid oedd y gloch yn ddiogel ac roedd rhan o'r adeilad bron â disgyn i'r llawr. Diolch i ymdrechion y Rheithor, y Parchedig John Morgan, aeth John Prichard pensaer yr esgobaeth ati i adfer yr eglwys ym 1882-3 ar gost o £875. Nid yw carreg fedd John Morgan, sydd yn ymyl giât yr eglwys, yn cyfeirio at hyn, na'r ffaith ei fod yn fardd dawnus a'i gerdd ‘Welsh Homes' yn ffefryn gan Gladstone a Lord Tennyson.
Gostwng fu hanes poblogaeth a nifer y tai yn Llanilid o ganol oes Fictoria ymlaen.
Dim ond 95 o bobl oedd yn byw yn Llanilid ym 1901, y rhan fwyaf mewn ffermydd gwasgaredig a bythynnod y gweision. Edwinodd y boblogaeth ymhell i'r ugeinfed ganrif. Er hynny, cafwyd ail-wynt yn y 1970au yn sgil agor gwaith glo brig, adeiladu traffordd yr M4 a chyfleusterau hamdden clwb golff St Mary Hill a'r Old Mill yn ddiweddarach. Ond y newid mwyaf sydd ar y gweill yn hanes Llanilid yw'r datblygiad stiwdios ffilm a pharc thema Dragon International, gwerth £330 miliwn. Er y bydd y datblygiad yn hwb economaidd, heb os, gobeithio na fydd yn amharu ar gynefinoedd bywyd gwyllt cyfoethog yr ardal.

   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf