header Cymraeg English
Doctor William Price  
   

Ac yntau'n un o'r Siartwyr, yn gamgredwr, yn archdderwydd ac yn arloeswr ynglyn â deddfu ar gyfer amlosgi, roedd Dr William Price, yn ddiau, yn un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar a hynod yn hanes Cymru.

Ganed Dr William Price yn Rhydri ger Caerffili ym 1800 yn bumed plentyn i'r Parchedig William Price. Roedd e'n brentis i'r llawfeddyg lleol yn 13 oed cyn mynd ati i astudio yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain ac ennill gradd y Gymdeithas Apothecari ac yn Aelod o Goleg Brenhinol Llawfeddygon cyn troi'n 22 oed.
Brown Lenox Chainworks
Dr William Price
Ym 1827, symudodd e i Nantgarw a daeth yn llawfeddyg ar ran yr haearn feistr Francis Crawshay, yn gweithio yng Ngwaith Cadwyni Brown Lenox, lle yn ôl pob sôn, perfformiodd yr impiad croen cyntaf ar weithiwr a oedd wedi cael damwain. Roedd Dr. Price yn ymddangos ger bron y llysoedd byth a beunydd, yn ddiffynnydd ac yn ddeisebydd. Cafodd ei gyhuddo o ddynladdiad un o'i gleifion a chafodd corff ei dad ei ddatgladdu i brofi salwch y meddwl. Ac yntau'n meddu ar gryn wybodaeth o'r gyfraith, ac yn gwisgo siôl tartan brenhinol, fe fyddai e'n amddiffyn ei hun yn ardderchog ger bron galeri lawn.
The Rocking Stones, Pontypridd

Roedd e'n arweinydd ymgyrch fethedig y Siartwyr ym 1839, yn condemnio unrhyw nerth bôn braich a ddefnyddiwyd gan ei gyd-arweinwyr, ac yntau wedi gwisgo fel menyw, bu rhaid iddo ddianc i Ffrainc. Gan alw ei hun yn Archdderwydd Cymru, roedd e'n cynnal seremonïau derwyddol rheolaidd ar safle'r Garreg Siglo, Pontypridd. Gyda chryn ddiddordeb mewn lles pobl leol, sefydlodd e'r gymdeithas gydweithredol gyntaf a sefydlu cnewyllyn ar Wasanaeth Iechyd Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr lleol - ond roedd e'n gwrthod rhoi triniaeth i'r sawl a oedd yn ysmygu!

Adeiladodd Dr Price y Tai Crwn enwog yng Nglyn-taf, Pontypridd yn borth i blasty ac amgueddfa dderwyddiaeth ond methiant fu hanes ei gynlluniau, pan wrthododd perchennog y tir, Arglwyddes Llanofer, y cynllun. Ac felly, penderfynodd bod yr amser wedi dod i adael y dref farchnad yn gyfan gwbl. Ym 1873 symudodd i Dy'r Clettwr, Llantrisant, gyda'i wraig ty 16 mlwydd oed, Gwenllian Llewellyn, yn gwmni iddo. Rhoddodd Gwenllian enedigaeth i'w plentyn cyntaf, Iesu Grist, fis Awst 1883, pan roedd Dr William Price yn 83 mlwydd oed.

Ty'r Clettwr, Llantrisant
Tocyn coffáu amlosgiad Iesu Grist

Bu farw'r plentyn yn sydyn ar Ionawr 10, 1884 a chludodd Price y corff i fryn Caerlan a'i amlosgi mewn casgennaid o baraffin. Roedd 'y weithred gableddus greulon yma' wedi arwain at derfysgoedd yn y dref, a gwnaeth torfeydd o bobl wedi'u harwain gan ddiaconiaid y capel, dynnu'r corff allan o'r fflamau ac arestio'r 'cablwr'. Bu cryn ddiddordeb yn yr achos llys a wnaeth ddilyn, nid yn unig yn Lloegr, ond dros y byd i gyd.

Fis Mawrth, amddiffynnodd Dr Price ei hun yn athrylithgar yn Llys y Goron Caerdydd yn ystod ei achos dros amlosgi corff ei fab, yn ddyn sioe nodweddiadol yn chwarae'r galeri lawn, gan ddweud ar goedd 'dyw hi ddim yn iawn bod corff yn cael ei adael i bydru ac i fadru fel hyn. Y canlyniad yw gwastraffu tir da, llygru'r ddaear, dwr ac aer, ac mae'n berygl parhaus i bob creadur byw.' Ar ôl y gwrandawiad, gadawodd yr Ustus Stephens, i Dr Price i fynd â'i draed yn rhydd, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Deddf Amlosgi 1902.

Yn dad i nifer o blant, roedd e ymhell dros ei 80au pan roddodd ei wraig cadw ty - a oedd 60 mlynedd yn iau nag ef - enedigaeth i ddau o blant o'r enw Penelopen ac Iesu Grist II (cafodd ei enwi'n Nicholas yn ddiweddarach). Yn dilyn cwymp, aeth e i orwedd ar ei soffa a bu farw am 9 yr hwyr ar ddydd Llun, Ionawr 23 1893. Ei eiriau olaf oedd, 'Rhowch siampen imi.'

Gadawodd e gyfarwyddiadau llawn ar gyfer ei amlosgiad ei hun, oedd i ddigwydd ar yr un bryn; gyda 20,000 o bobl wedi ymgynnull i weld achlysur cynnau'r arch haearn. Roedd ysbryd carnifal i'r achlysur ac roedd yr ugain neu ragor dafarndai yn Llantrisant wedi rhedeg allan o gwrw yn ystod yr achlysur a barodd am ddiwrnod.
Amlosgi o Dr William Price
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf