header Cymraeg English

Ystrad-y-fodwg

 

Ystradyfodwg tua 1900

Ystradyfodwg tua 1900

Hen enw Cymraeg am lawr y dyffryn yw Ystrad, a chredir fod yr enw Ystrad yn tarddu o hen elw'r plwyf sef Ystradyfodwg. Credir mai disgybl Illtud Sant oedd Tyfodwg. Mae sawl enw hanesyddol yn perthyn i'r ardal, gyda chofnodion cynnar yn sôn am Ynys Fach a mapiau Arolwg Ordnans cynnar yn cyfeirio ati fel Heol Fach.

Yn ei lyfr ‘Itinery' ym 1538, mae'r awdur a'r teithiwr cynnar John Leland yn dweud mai dim ond un plwyf oedd yn ‘Glin Rodenay' (Glynrhondda), sef ‘Ystrate', ond mae map John Speed (1611) yn cyfeirio ato fel rhan o Lanwynno. Mae llyfr C.F. Cliffe, ‘The book of South Wales, the Bristol Channel, Monmouthshire and The Wye' yn disgrifio Ystradyfodwg cyn y cyfnod diwydiannol. Mae Cliffe yn dweud iddo aros mewn llety cyntefig o'r enw ‘Gellidawel' yn Ystrad, a oedd yn lle pwysig i ffermwyr y fro gyfarfod a masnachu.

 

Datblygodd Ystradyfodwg fel croesfan bwysig i lwybrau hynafol Cwm Rhondda, gan gynnwys y prif lwybr trol dros fynydd Pen-rhys i Gwm Rhondda Fach. Fel arwydd o bwysigrwydd yr ardal, adeiladwyd melin ddwr, Melin yr Om (neu ‘Melynydd Dee' ar fap 1633) yno gan fynachod Pen-rhys mwy na thebyg. Felly, daeth Ystradyfodwg yn ganolfan o bwys yng nghefn gwlad Cwm Rhondda.

Roedd Ystradyfodwg felly'n lle delfrydol i godi'r Capel y Bedyddwyr cyntaf yng Nghwm Rhondda. Adeiladwyd Capel Nebo ym 1786 am £60. Yn ogystal â bod yn rhan bwysig yn hanes Anghydffurfiaeth y fro, roedd y capel yn rhan allweddol yn addysgol hefyd. Mewn cyfnod pan oedd addysg mor brin, fe ddysgodd plant cefn gwlad Cwm Rhondda i ddysgu darllen ac ysgrifennu yn Ysgol Sul Capel Nebo.

 

Capel Nebo

Capel Nebo

Glofa Bodringallt

Glofa Bodringallt

Un enw sy'n gysylltiedig ag Ystradyfodwg ers y dyddiau cynnar yw Bodringallt (annedd rhwng dwy allt, cartref llwynogod neu gartref gwysiwr). Mae llu o chwedlau lleol yn ymwneud â Bodringallt House, gyda rhai'n dweud mai ‘Cadwgan y Cadfwyell' oedd yn byw yma, a bod twnnel tanddaearol yn ei gysylltu â mynachlog Pen-rhys. Rhoddwyd yr enw Bodringallt ar ysgol, glofa, capel a fferm leol. Doedd Ystradyfodwg heb newid fawr ddim mewn dau gan mlynedd. Ond, fel ardaloedd gwledig eraill Cwm Rhondda, daeth newid byd mawr yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i bobl ddechrau datblygu adnoddau mwynol cyfoethog y cylch. Mae yna dystiolaeth i drigolion lleol gloddio ar raddfa fach iawn am lo ym Modringallt yn y 1840au – er na fu mwy na chwe dyn wrthi ar y tro erioed. Erbyn i'r gwaith cloddio ehangu yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd glowyr lleol yn ddigon abl i dorri trwyddo i byllau oedd wedi hen gau. Dechreuwyd cloddio o ddifrif yn Ystradyfodwg yn y 1850au, gyda nifer o lofeydd a gwythiennau llai yn cael eu hagor. Agorwyd lefel Gelligaled gan David Jones, Glofa Gelligaled gan VL Lewis, a lefel Bodringallt gan David Jones a David James (perchennog Glofeydd y Porth a Llwyncelyn). Gyda'r fath brysurdeb, aeth cwmni Taff Vale Railway ati i ehangu'r lein i Gelligaled ym 1855, cyn dechrau cludo teithwyr arni ym 1861. Erbyn 1864, agorwyd siafftiau glo i wythiennau dyfnach, cyfoethocach, Bodringallt.

Roedd un o waith brics mwya'r ardal yn Ystradyfodwg hefyd, a sefydlwyd yn wreiddiol i gynhyrchu brics ar gyfer siafftiau glo lleol. Fe'i sefydlwyd ym 1857 gan gyflogi llawer iawn o ferched y fro, ac ehangu'n gyflym i gynhyrchu brics ar gyfer tai a glofeydd ar hyd a lled y De. Erbyn 1900, roedd Ystradyfodwg wedi newid yn llwyr. Yn ogystal â'r glofeydd hollbresennol, adeiladwyd Eglwys San Steffan ym 1896 am £3,600, codwyd llyfrgell ym 1895 am £3,000, agorwyd sawl capel, adeiladwyd Ysgol Elfennol Bodringallt ym 1870, ac ysbyty heintiau ar safle hen ysbyty bach yn Nhyntyla.

 

Tîm pêl-droed Ystrad United 1906-7

Tîm pêl-droed Ystrad United 1906-7

URDD YR ODYDDION YSTRAD RHONDDA – CYFRINFA LILY OF THE VALLEY

Gallwn olrhain Urdd yr Odyddion gwreiddiol i'r ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg, er bod ei gwreiddiau'n perthyn i gyfnod tipyn cynharach yn ôl y sôn. Sefydlwyd yr urdd fodern ym 1810 gyda'r nod o roi gofal a chymorth i'w haelodau mewn cyfnod pan nad oedd y fath beth â'r wladwriaeth les, undebau llafur na'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
The Star Gellidawel Hotel

Un o'r cyfrinfeydd hynaf a'r mwyaf llwyddiannus oedd Cyfrinfa Lily of the Valley, oedd yn cyfarfod yn nhafarn y Star Gellidawel. Arwyddair yr Urdd oedd ‘Philanthropic intentions are worthy of encouragement. Unity is Strength' , ac fe barhaodd yn Ystradyfodwg o 1833 tan 1976. Cymaint oedd pwysigrwydd Clwb yr Odyddion, fel yr enwyd un o strydoedd Ystradyfodwg yn Oddfellows Row cyn newid i Club Row yn ddiweddarach.

The Star Gellidawel Hotel, 1913 – Dyma un o dafarnau hynaf Cwm Rhondda, wrth droed Penrhys Road. Codwyd gwesty newydd Star Hotel o amgylch gweddillion yr hen westy sydd yn y llun. Parhawyd i werthu cwrw yno er mwyn i'r perchennog gadw'i drwydded.

Amcanion y clwb oedd codi arian trwy dâl mynediad, tâl aelodaeth, dirwyon, rhoddion a llog ar gyfalaf, er mwyn helpu'r aelodau yn ystod salwch neu henaint, ac er mwyn sicrhau swm o arian i'w dalu ar ôl marwolaeth aelod neu wraig yr aelod. Ffermwyr, masnachwyr a chrefftwyr y fro oedd yr aelodau gwreiddiol yn Ystradyfodwg, cyn i gyfansoddiad y clwb newid ar ôl i'r pyllau glo gyrraedd yr ardal .
Mae llyfryn a gyhoeddwyd ym 1886, ‘Rules of the Lily of the Valley Lodge' yn rhoi cipolwg diddorol ar hynt a helynt y Gyfrinfa yn Ystradyfodwg ar y pryd. Er mwyn ymuno â'r Gyfrinfa, byddai aelod presennol yn gorfod derbyn eich cais a'i gymeradwyo gan ddwy ran o dair o aelodau'r Gyfrinfa. Mae hefyd yn nodi, ‘No person afflicted with rupture or loss of sight or limb, or who (or his wife) is of unsound mind, or if he leads an intemperate or dissolute life, shall upon any pretence be admitted a member of this Lodge'. Doedd dim hawl i rai dan bymtheg oed neu dros 35 oed ymuno â'r Gyfrinfa ac eithrio fel aelodau anrhydeddus, ac ni allent hawlio cymorth ariannol gan y Gyfrinfa heblaw am gostau cynhebrwng. Roedd rheolau ymddygiad yr aelodau yn llym iawn o gymharu â safonau heddiw. Gallant wynebu hyd at bum swllt o ddirwy am beidio ag ufuddhau gorchymyn un o swyddogion y Gyfrinfa, a hyd at swllt o ddirwy i unrhyw aelod oedd yn trafod neu'n cyflwyno gwleidyddiaeth i'r Gyfrinfa. Roedd dirwyon hefyd am gamymddwyn neu ddefnyddio iaith anweddus, a gallai unrhyw aelod oedd wedi bod yn ymladd (heblaw amddiffyn ei hun) gael ei ddirwyo neu ei ddiarddel o'r Gyfrinfa. Os oedd rhywun yn methu gweithio oherwydd anafiadau yn sgil cwffio neu feddwi, yna ni fyddant yn gallu hawlio budd-daliadau gan y Gyfrinfa. Roedd y Gyfrinfa'n rhoi cymorth ariannol gwerthfawr iawn i'r aelodau yn eu henaint (70 oed a throsodd) ac ar ôl damwain, ond roedd pawb oedd yn cael nawdd meddygol o gronfa'r Gyfrinfa yn gorfod dilyn rheolau ymddygiad llym iawn. Dywed y Llyfr Rheolau, ‘No member on sick list shall do any kind of work (except give verbal orders, sign receipts etc.), ac os oeddynt yn mynd am dro er lles eu hiechyd, roedd rhaid iddynt adael nodyn yn eu cartref i ddweud ble roeddynt yn mynd. Roedd rhaid iddynt fod yn y t y erbyn 8 o'r gloch nos rhwng 25 Medi a 25 Mawrth, neu erbyn 9 o'r gloch nos yn y misoedd eraill. Os nad oeddynt yn cydymffurfio â hynny, gallent wynebu dirwyon cynyddol neu beidio â derbyn budd-daliadau am chwe mis am droseddu am y trydydd tro.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf