header Cymraeg English

Tylorstown

Mae Tylorstown wedi'i enwi ar ôl Alfred Tylor, gwr o Lundain a brynodd hawliau mwynol fferm Pendyrus ym 1872 cyn mynd ati i agor glofa gynta'r pentref, Glofa Pendyrus. Mae map degwm 1847 yn dangos mai dim ond ffermydd gwasgaredig, caeau a dolydd ffrwythlon a choedwigoedd derw eang oedd ym Mhendyrus, fel gweddill y cwm ar y pryd. 1872 oedd blwyddyn geni'r diwydiant glo yn Tylorstown a'r pentref ei hun mewn gwirionedd. Dyma'r adeg y prynodd Alfred Tylor o Newgate Street, Llundain hawliau mwynol fferm Pendyrus ac agor yr ail lofa fwyaf yng Nghwm Rhondda Fach. Er hynny, cafwyd trafferthion mawr wrth agor y pwll cyntaf ac ni lwyddwyd i ddarganfod y gwythïennau glo ager cyntaf tan 1876, 333 o lathenni islaw'r ddaear. Anfonwyd y llwyth cyntaf o lo ager ar y Taff Vale Railway i Gaerdydd ym 1877, ac aeth Glofa Pendyrus o nerth i nerth wedyn, gan gynhyrchu 3,252 o dunelli ym 1877 a chynyddu i 241,061 o dunelli erbyn 1893. Prynodd David Davis and Sons Co. y lofa ym 1894.

Tylorstown tua 1900

Tylorstown tua 1900

Llewellyn Street tua 1900

Daeth gweithwyr o bell ac agos i weithio yn y pentref mwya'r sydyn, gan arwain at orboblogi difrifol ac amodau byw gwael. Roedd gweithwyr cyntaf Glofa Pendyrus yn gorfod byw mewn cytiau pren wedi'u hadeiladu ar frys. Prin iawn oedd y cyfleusterau i ddechrau, fel y disgrifiodd E.D. Lewis yn ei waith, ‘The Rhondda Valleys: ‘…in many of these hastily erected townships of the Rhondda in the early days of the ‘coal rush', life bore a strong resemblance to the frontier townships of the United States.' Mae'r ffaith mai cwmni Tylor and Co. oedd yn gyfrifol am y cyflenwad dwr i gartrefi Tylorstown yn dangos y graddau yr oedd y gweithwyr wedi eu clymu i'r lofa leol. Cafodd Tylorstown ei siâr o drychinebau hefyd, pan laddwyd 57 o lowyr mewn tanchwa ym 1896.

Llewellyn Street tua 1900

Mae byd o wahaniaeth rhwng y ddelwedd o Tylorstown fel ‘frontier town' yn y 1870au â'r disgrifiad o'r dref lai na 30 mlynedd yn ddiweddarach yng Nghyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906. Mae'n disgrifio Tylorstown fel pentrefan 7 milltir i'r gogledd-gogledd-orllewin o Bontypridd, gyda'i gorsaf ei hun ar lein Taff Vale Railway. Roedd yno eglwys, ‘Y Drindod Sanctaidd' a godwyd ym 1883 am £1,400, swyddfeydd post a swyddfa delegraff, oedd hefyd ar agor ar y Sul.

Roedd 13 o addoldai Cymraeg a Saesneg yn y dref, gan gynnwys y Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Annibynwyr a'r Wesleaid. O ran byd masnach, roedd yno fasnachwr gwin a gwirodydd, warws esgidiau, gwneuthurwr watshis a chlociau, gwerthwr llaeth, gwerthwr llestri, gwerthwr pysgod wedi ffrïo, dilledydd a siop ddillad, cangen y London and Provincial Bank, Sefydliad Cerddorol Band Tylorstown, Sefydliad a Chlwb Ceidwadwyr Tylorstown, Llyfrgell a Sefydliad Tylorstown, a llu o siopau cyffredinol, cigyddion, groseriaid ac ati.

Felly, llwyddodd Alfred Tylor a'i olynwyr i drawsnewid pentref bach gwledig anghysbell, prin ei boblogaeth, i fod yn dref lofaol ffyniannus dros ben.

Swyddogion Glofa Cynllwyn-Du

Swyddogion Glofa Cynllwyn-Du

TANCHWA GLOFA TYLORSTOWN, DYDD LLUN 27 IONAWR 1896

Mae papur newydd y Rhondda Chronicle yn disgrifio sut y daeth Cwm Rhondda yn ganolbwynt tristwch a thrychineb unwaith eto ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r danchwa ddiwethaf mewn pwll glo yn yr ardal. Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio, ‘the Angel of Death had been at his dread task mowing down the colliers who were finishing their nights work in the Tylorstown colliery'. Mae'r adroddiad yn sôn am y miloedd o bobl o ardal Merthyr Tudful, Aberdâr a Chwm Rhondda oedd ar bigau'r drain wrth ben y pwll, yn disgwyl am newyddion am y glowyr druan yn nyfnderoedd y ddaear. Mae'r papur newydd hefyd yn disgrifio'r angladdau niferus a'r holl bobl a ddaeth i dalu teyrnged ym mynwentydd y cylch (Mynwent Llethr-ddu, Mynwent y Maerdy a mynwent Eglwys Llanwynno) a'r cyrff a gludwyd ar drenau i'w claddu yn Aberystwyth, Sanclêr, Cheltenham a'r Trallwng.
Tua 5.30 y bore y bu'r danchwa yn Tylorstown, pan oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr shifft nos yn cyrraedd y brig ar ôl gorffen eu gwaith, a chyn i'r gweithwyr shifft dydd fynd o dan y ddaear. Felly, byddai llawer mwy na 57 o weithwyr wedi'u lladd pe bai'r ffrwydrad wedi digwydd yn ystod y shifft lawn pan fyddai dros 300 o weithwyr o dan y ddaear.
Cynhaliwyd cwest i'r danchwa rhwng 18 a 25 Chwefror, a dyma ddyfarniad y rheithgor,
‘…the cause of the explosion was the firing of a shot in gas in Daniel William's stall in No.8 pit and that the air passing through the faces was charged with gas….and the explosion was accelerated by coal dust. Also that no one now living was responsible for the explosion'.
Ysgrifennodd Robert Woodfall a J.T. Robson, Arolygwyr pyllau glo ardal De Cymru adroddiad am y ffrwydrad. Roeddynt yn disgrifio'r pwll, a oedd yn eiddo i D. Davies and Sons Ltd. (rhan o'r Ferndale Coal Company), fel un sych a llychlyd, gan feirniadu effeithiolrwydd dyfrio'r pwll. Disgrifiwyd y pwll fel lle ‘tanllyd' a bod angen polisi lampau ar glo heb unrhyw fflam agored heblaw yn y sied lampau, ac na chaniatawyd unrhyw danio yn ystod shifft. Er bod cryn dipyn o nwy yn y pyllau, ni adawyd i nwy grynhoi yno. Mewn gwirionedd, cafodd nwy ei ganfod a'i wasgaru yn ffas lo Daniel Williams, lle y credir i'r ffrwydrad ddechrau, mor ddiweddar â 10 Ionawr. Wrth grynhoi, dywedodd yr Arolygwyr mai taniwr esgeulus a daniodd ergyd yn ffas lo Daniel Williams a achosodd y danchwa, ac y dylai fod yn gwybod fod nwy yn y ffas lo a'r cyffiniau.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf