header Cymraeg English
Trehafod  
Trehafod

Saif treflan Trehafod ar y ffin rhwng Cwm Rhondda a Thaf Elái, ac roedd wedi'i rhannu rhwng plwyfi Pontypridd ac Ystradyfodwg yn ôl Cyfeiriadur Busnesau Kelly 1926.
Mae map degwm 1847 yn dangos bod yr ardal yn frith o ffermydd fel Hafod Uchaf, Hafod Genol a Hafod Fawr. Ystyr ‘hafod' yw cartre'r bugail dros fisoedd y gaeaf, a dyma fu'n sail i enwi'r dref newydd hon. Cafodd hawliau mwynol y tiroedd hyn eu prydlesu mor gynnar â 1809. Yn ogystal â'r ffermydd, mae map degwm 1847 yn dangos bwthyn, tramffordd a rheilffordd.

Dechreuwyd cloddio am lo yn gynnar yn yr ardal hon gan ei bod mor gyfleus cyrraedd yma. Felly, agorwyd nifer o lefelau bach a phyllau bas i'r lefelau glo bitwmen yma cyn 1850 ar gyfer y marchnadoedd ‘glo gwerthiant' bach oedd yn prysur gynyddu. Agorwyd Lefel yr Hafod yn gyntaf gan Jeremiah Homfrey ym 1809, ac ym 1835, agorwyd lefel Gwaun yr Eirw gerllaw gan William Crawshay. Ar y cyfan, cyn-weision fferm o'r ardal leol oedd y glowyr cyntaf yma. Ym 1850, agorwyd Glofa Coed-cae gan Edward Mills ac yna Glofa'r Hafod gan y brodyr David a John Thomas.

Aeth glofeydd Coed-cae a'r Hafod trwy gyfnodau anodd iawn fel busnesau bach, ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i W.T. Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach) brynu'r glofeydd hyn ac agor pyllau Trefor a Bertie yr ochr arall i'r afon. Er i Lewis barhau i gloddio'r glo bitwmen o bwll Coed-cae dan fantell ‘Coed Cae Coal Company', ni ddatblygodd pethau go iawn yn Nhrehafod tan ar ôl iddo gysylltu pyllau'r Hafod, Trefor a Bertie â'r gwythiennau glo ager fwy cyfoethog. Dyma ddechrau un o weithfeydd glo mwyaf Prydain, a oedd yn cyflogi bron i 5,000 o ddynion ac yn cynhyrchu bron i filiwn o dunelli o lo'r flwyddyn ar ei anterth.

Glofeydd Hafod a Choed-cae

Glofeydd Hafod a Choed-cae

 

Eglwys/Cenhadfa Bryn Eirw

Eglwys/Cenhadfa Bryn Eirw

Fel llawer o bentrefi glofaol y cyfnod, roedd gan Drehafod ei heglwys ei hun, Eglwys Sant Barnabas (Cenhadfa Bryn Eirw yn wreiddiol), a llu o gapeli gan gynnwys Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Capel Calfinaidd, Capel y Wesleaid a Chapel Cymraeg yr Annibynwyr.
Roedd Trehafod yn dref siopa digon bywiog, a chyda tref ffyniannus Pontypridd gerllaw, roedd digon o gyfleusterau diwylliannol, addysgol, crefyddol ac ati i blesio'r trigolion lleol.
Ym mis Gorffennaf 1889, daeth Trehafod yn derfynfa ar gyfer lein reilffordd newydd cwmni ‘Barry Railway and Docks' rhwng Cwm Rhondda â Dociau'r Barri, fel rhan o ymgais perchnogion glo'r Rhondda i gystadlu yn erbyn monopoli cwmni Taff Vale Railway a dociau Bute Caerdydd wrth allforio glo i bedwar ban byd.

   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf