header Cymraeg English
Tommy Farr  
   

Fe'i ganwyd yn Railway Terrace, Cwm Clydach ar 12 Mawrth 1913. Roedd Thomas George Farr yn fab i George Farr, ac yn un o wyth o blant. Bu farw ei fam pan oedd yn wyth oed a'i dad pan oedd yn ddeunaw oed, yn dilyn salwch hir a oedd wedi'i barlysu. Fel y rhan fwyaf o blant yn y cyfnod hwnnw, gadawodd yr ysgol yn ifanc ac aeth i weithio yn y pwll glo er mwyn helpu i gynnal ei deulu. Roedd yn gas ganddo fywyd fel gl ö wr, a gadawodd y pwll yn fuan, gan weithio mewn nifer o lefydd a dioddef ‘hunllefau hir o ddiweithdra'. Yn ôl y cofnodion, enillodd ei ornest gyntaf dros chwe rownd yn erbyn Jack Lord ym mis Rhagfyr 1926, ac yntau ond yn ddeuddeg oed! Gweddnewidiwyd bywyd Tommy Farr gan ei gyfaill agos, y cyn-löwr Joby Churchill, a awgrymodd y dylai Tommy geisio cael gwaith ym mwth bocsio Joe Gess yn Nhylorstown. Rhwng 16 ac 18 oed, gweithiodd ym mythau bocsio'r De, gan ymladd pedair neu bum gwaith y dydd yn erbyn unrhyw un a oedd am ei herio. Nid oedd yn arbennig o lwyddiannus, ac ni fyddai neb wedi proffwydo y byddai enwogrwydd yn dod i'w ran ryw ddydd. Yn ddeunaw oed, sylweddolodd na fyddai'n gwneud ei ffortiwn yn Ne Cymru, a phenderfynodd symud i Lundain. Fel y dywed ei hun, cerddodd i Lundain a chyrhaeddodd gyda swllt neu ddau yn ei boced. Ar ôl gweithio hwnt ac yma am gyflog isel dros dro, bu'n rhaid i Tommy wynebu ei fethiant, a dychwelodd i Glydach ac i gartref ei deulu. Tra yn Llundain, llwyddodd i sicrhau gornest gydag Eddie Steele, fel eilydd i focsiwr arall o Gymru a oedd wedi anafu ei hun wrth hyfforddi ar gyfer yr ornest. Roedd gornest gyntaf Tommy yn Llundain yn drychinebus, wrth iddo neidio allan o'r cylch a rhedeg i'r ystafell newid ar ôl i Steele ei ddyrnu mor galed nes iddo bron â thagu ar ei orchudd dannedd!

Tommy Farr

Parhaodd i focsio ar ôl dychwelyd i Gymru, ac ar 22 Gorffennaf 1933 fe ddaeth yn bencampwr Pwysau Godrwm Cymru ar ôl trechu Randy Jones (y bocsiwr yr oedd wedi cymryd ei le yn Llundain) yn Nhonypandy. Fe aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth Pwysau Trwm Cymru ym 1936 a Phencampwriaeth Pwysau Trwm Prydain yn erbyn Ben Foord ym Mai 1937. Ar ôl hynny, roedd yn fuddugol mewn gornestau yn erbyn Max Baer, cyn-bencampwr y byd, a'r bocsiwr Walter Neusel o'r Almaen. Roedd Tommy ar ei orau, a llofnododd gytundeb i ymladd cyn-bencampwr y byd arall, yr Almaenwr Max Schmeling. Fodd bynnag, cyn i hynny ddigwydd, cafodd gynnig arall - un a fyddai'n sicrhau lle Tommy Farr yn oriel anfarwolion y byd bocsio. Cafodd Tommy gynnig i focsio yn erbyn yr enwog Joe Louis am Bencampwriaeth Pwysau Trwm y Byd.

Tommy Farr

Cynhaliwyd yr ornest yn y Yankee Stadium yn Efrog Newydd, ar Awst 30 1937 yng ngwydd torf o 36,000. O'r 300 o ohebyddion bocsio oedd yn bresennol, dim ond un a gredai fod gan Tommy unrhyw obaith o drechu'r 'Brown Bomber'. Roedd y lleill wedi ei ddiystyru fel bocsiwr anobeithiol arall o Brydain. Roedd cyffro mawr yn y De, ac yng Nghwm Rhondda yn enwedig, wrth i filoedd o bobl aros ar eu traed i wrando ar y darllediad byw am 3 y bore, yr amser lleol. Er nad oedd neb heblaw ei gefnogwyr mwyaf pybyr yn credu fod ganddo unrhyw obaith o ennill, llwyddodd Farr i herio Louis tan y pymthegfed rownd, cyn colli ar bwyntiau. Ar ôl yr ornest, disgrifiodd Louis Tommy Farr fel y bocsiwr caletaf roedd e wedi'i wynebu erioed, ac mae'r ornest yn rhan o lên gwerin chwaraeon Cymru hyd heddiw, ac yn un o'r gornestau bocsio gorau yn hanes y gamp.
Yn dilyn yr ornest, parhaodd Farr i focsio nes iddo gyhoeddi ei ymddeoliad ym 1940. Dychwelodd i'r cylch am gyfnod byr ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac yntau'n dri deg chwech oed, cyn ymddeol ar 17 Mai 1953.

Bu farw Tommy Farr ar Ddydd Gwyl Dewi 1986 yn Shoreham, Sussex. Claddwyd ei lwch yn yr un bedd â'i rieni ym mynwent Trealaw, o dan y gofeb farmor roedd ef ei hun wedi'i chodi ar eu cyfer, gyda'r geiriau, 'In Death reunited'.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf