header Cymraeg English
Pen-y-graig  

Pen-y-graig tua 1900

Pen-y-graig tua 1900

 

Ffrwd Amos oedd enw'r ardal hon yn wreiddiol yn ôl map degwm y 1840au, fel y tystia stryd o'r enw ‘Amos Hill' heddiw. Pen-y-Graig oedd enw pwll glo cynta'r ardal, a buan y cafodd ei fabwysiadu fel enw'r pentref a ddatblygodd o'i gwmpas.
Datblygodd Pen-y-graig fel pentref yn sgil y diwydiant glo. Cyn hyn, roedd eisoes yn ganolfan grefyddol i'r Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol Cwm Rhondda. Yn ôl ‘Soariana', Hanes Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg Soar a gyhoeddwyd ym 1905, dechreuwyd achos y Bedyddwyr ym Mhen-y-graig a Dinas gan Mr. William David. Ar ôl symud i'r ardal ym 1811 fel goruchwylydd Glofa Dinas a thafarnwr y White Rock, neilltuodd ystafell yn White Rock Terrace i gynnal cyfarfodydd crefyddol. Cynhaliwyd cyrddau yma ac yn Ysgol Penygelli, ac ym 1830 prynwyd darn o dir yn Ffrwdamos i adeiladu Capel Soar. Agorwyd y capel yn swyddogol ym 1832, ar gost o £300. Fe'i hailadeiladwyd ym 1858, ei ehangu ym 1875, a'i ailadeiladu eto ym1903.
Dechreuwyd cloddio glo ym Mhen-y-graig ym 1857 ar ôl i Thomas Ellis agor cloddfa ddrifft i'r wythïen glo bitwmen. Yna ym 1858, agorwyd gwythïen rhif 2 Rhondda yn lefel lo Pen-y-graig gan Moses Rowlands a Richard Jenkins. Ymunodd Rowlands â William Williams, William Morgan a John Crockett i sefydlu Penygraig Coal Company, a aeth y cwmni ati i agor Glofa Pen-y-graig. Cysylltwyd y pwll hwn â gwythïen rhif 3 Rhondda, ac fe aeth o nerth i nerth, gan gynhyrchu bron i 100,000 o dunelli'r flwyddyn erbyn 1870. Agorwyd siafft newydd, Pwll y Pandy, gan y Naval Colliery Company, a llwyddwyd i gyrraedd yr haenau glo ager ym 1879. Ar ôl sawl anhawster, gwerthwyd y pwll i'r New Naval Colliery Company ym 1887. Ar ôl ymestyn y prydlesi oedd ganddynt eisoes, aethant ati i agor tri phwll newydd, ‘Ely', ‘Nantgwyn' ac ‘Anthony'. Daeth y cwmni'n rhan o'r Cambrian Combine maes o law.
Glofa Ely, Pen-y-graig oedd lleoliad y streic a arweiniodd at Anghydfod Glofa'r Cambrian, un o'r helyntion mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol Prydain, a ddaeth yn enwog fel Terfysgoedd Tonypandy. Dechreuodd yr helynt dros gyflogau am gloddio gwythïen newydd, a gwaethygodd pethau ar ôl i'r rheolwyr gau'r gweithwyr allan o lofa Ely a sbarduno streiciau yn holl byllau'r Combine. Bu sawl trychineb yng nglofeydd Pen-y-graig oedd yn pwysleisio natur beryglus y diwydiant glo. Gorlifodd un o'r pyllau ar 4 Rhagfyr 1875, gan foddi dau weithiwr a pheryglu bywydau llawer o lowyr eraill. Bu trychineb arall yng Nglofa Naval ym mis Rhagfyr 1880, a dyma ddisgrifiad yr adroddiad swyddogol o'r drychineb:

Pen-y-graig Naval Colliery

‘One hundred and one lives were lost in an explosion which occurred at the Naval Steam Coal Colliery at Penygraig belonging to Messrs. Rowlands and Morgan about 1.30a.m. on the morning of Friday 10th December 1880. Only five men of all who were in the colliery survived.'
Capel Soar

Ym mis Ionawr 1884, cafodd 14 o ddynion eu lladd mewn tanchwa yn yr un lofa – 11 yn sgil y ffrwydrad a 3 wedi'u mygu i farwolaeth. Yna ym mis Awst 1909 cafodd 6 o ddynion eu lladd ac 18 eu hanafu'n ddifrifol mewn damwain rhwng dau gaets. Roedd un caets yn llawn dynion oedd ar fin dechrau eu shifft.

Ym Mhen-y-graig y sefydlwyd un o gymdeithasau cydweithredol (y Co-op) cyntaf a mwyaf llwyddiannus Cwm Rhondda. Hefyd, agorwyd gorsaf ar lein reilfordd Great Western ym 1860 oedd yn cysylltu lefel Pen-y-graig â Llantrisant a phrif lein reilffordd y De.

Dde: Capel Soar
CYMDEITHAS GYDWEITHREDOL DDIWYDIANNOL PEN-Y-GRAIG
Arloeswyr Rochdale sefydlodd y gymdeithas gydweithredol gyntaf ym 1844, oedd yn seiliedig ar ychydig o egwyddorion syml. Roedd pob aelod yn gorfod buddsoddi yn y Gymdeithas trwy brynu cyfranddaliadau, a byddai holl nwyddau'r siopau yn cael eu gwerthu am bris teg a'r holl elw'n mynd yn ôl i goffrau'r gymdeithas a'i haelodau trwy ddifidend wedi'i seilio ar faint o gyfranddaliadau a brynwyd. Er bod pob cangen o'r gymdeithas yn rhan o'r rhwydwaith cydweithredol, roeddynt yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn lleol. Ym 1941, cyhoeddodd Cymdeithas Gydweithredol Pen-y-graig lyfryn i ddathlu hanner canrif ers sefydlu'r gymdeithas yn y pentref. Mae'r llyfryn hwn yn crynhoi blynyddoedd cynnar y gymdeithas ym Mhen-y-graig, ac ymdrech arloeswyr y Gymdeithas i sicrhau ei fod yn llwyddo.

Hen adeilad y Co-op, Tylacelyn Road tua 1988

Hen adeilad y Co-op, Tylacelyn Road tua 1988

 

Mae hanes y Gymdeithas ym Mhen-y-graig yn dyddio'n ôl i 1891, pan gyhoeddodd Morgan Thomas, Obadiah Williams a David Williams ymysg eraill eu bwriad i sefydlu cymdeithas gydweithredol mewn cyfarfod yn The Butchers Arms. Roedd llawer o drigolion yr ardal yn gwrthwynebu hyn, gan fod nifer wedi colli'u harian mewn cymdeithas aflwyddiannus yn Nhonypandy ychydig flynyddoedd ynghynt.
Gan fod cymaint o bobl yn erbyn cynnal cyfarfodydd yn y dafarn, cynhaliwyd cyfarfodydd y Gymdeithas yn nhafarn goffi Fosters o hynny ymlaen. Cytunodd 46 o bobl i ymaelodi â'r Gymdeithas i ddechrau, a chafodd Morgan Thomas ei ddewis fel y Cadeirydd cyntaf, Obadiah Williams yn Ysgrifennydd a David Williams yn Drysorydd. Prynwyd adeilad y siop am £950 gan Moses Rowlands (benthycwyd yr arian gan dad-yng-nghyfraith rheolwr cynta'r Gymdeithas) a chafodd Evan Treharne ei benodi'n rheolwr ar gyflog o ‘£8 y mis lleuad', a £2 i'w wraig. Dewiswyd nod masnach gwenynen, dosbarthwyd hysbyslenni, archebwyd llyfrau difidend a llyfrau'r siop a phrynwyd gwerth £250 o nwyddau ar gyfer y siop. Ar ôl cymeradwyo rheolau a rheoliadau'r Gymdeithas, cafodd ei sefydlu'n swyddogol ar 8 Awst 1891.
"Why be a co-operator?"

Roedd blynyddoedd cynnar y Gymdeithas braidd yn anodd, gydag ond 120 o aelodau erbyn 1901 a dim ond rhyw £100 o werthiant wythnosol. Newidiodd hyn yn sgil penodi rheolwr newydd, William Job, a aeth ati i ailwampio pethau'n sylweddol yn ystod ei ddaliadaeth. Erbyn 1937, roedd gan y Gymdeithas 6,200 o aelodau a thros £6,000 o drosiant yr wythnos.
Yn ystod cyfnod William Job fel rheolwr, agorodd y Gymdeithas fecws newydd ym Mhen-y-graig ynghyd â changhennau yn Nhonyrefail, y Gilfach-goch, Coed-elái a Williamstown; a symudodd y Gymdeithas o'i hadeilad gwreiddiol i'w chartref newydd yn Tylacelyn Road.
Daeth manteision y Gymdeithas Gydweithredol i'r amlwg yn ystod anghydfod chwerw Glofa'r Cambrian a'r ‘cloi allan'. Ar ddechrau'r anghydfod, penderfynodd y Pwyllgor Rheoli ganiatáu i'r aelodau oedd ar streic gael gwerth 15 o nwyddau'r wythnos er mwyn lleddfu tlodi eu teuluoedd. Wrth i'r streic barhau, apeliwyd am gyfraniadau gan ‘gyd-gydweithredwyr' ledled y wlad er mwyn rhoi 4 swllt i deulu bob aelod oedd ar streic, a 6 cheiniog i bob plentyn erbyn y Nadolig. Hefyd, gofynnwyd i staff siopau'r Co-op roi ystyriaeth ofalus a charedig i ddyledion yr aelodau, a chyflenwodd y Gymdeithas nwyddau rhatach i Bwyllgor y Glowyr ar gyfer y ceginau cawl. Talodd haelioni'r Gymdeithas at y glowyr ar ei ganfed ar ôl i'r streic ddod i ben, pan ddyblodd nifer yr aelodau yn y tair blynedd dilynol.

Yn yr un modd, yn ystod streic 1926, rhoddodd y Gymdeithas gredyd i'w haelodau o ddwy ran o dair o'u bil siopa wythnosol cyfartalog am y pedair wythnos gyntaf, yna hanner eu bil am y mis dilynol, dwy ran o bump am y tair wythnos ar ddeg ganlynol a thair rhan o ddeg am bum wythnos. Cafodd hyn ei ostwng wedyn i un rhan o bump tan ddiwedd y locowt, oedd yn golygu bod glowyr o leiaf yn gallu rhoi ychydig o fwyd ar fwrdd y teulu. Roedd gan y Gymdeithas ran gymdeithasol, ddiwylliannol ac addysgol i'w chwarae yn ogystal ag ariannol. Trwy'r pwyllgor addysgol, trefnwyd dosbarthiadau i'r aelodau a phlant yr aelodau, sefydlwyd corau, trefnwyd cyngherddau ac eisteddfodau, cyflwynwyd grantiau addysgol a threfnwyd darlithoedd a dangoswyd ffilmiau.

Roedd y Gymdeithas yn ffynnu, ac ym 1931, fe'i disgrifiwyd fel y lle prysuraf ym Mhen-y-graig, yn llawn pobl yn codi arian difidend a chyfranddaliadau, yn casglu tocynnau ar gyfer triniaeth ysbyty, yn cyflwyno arian i gyfrif cynilo ac yn defnyddio llu o wasanaethau eraill y Gymdeithas.
"The Penygraig Industrial Co-operative Society"
TRYCHINEB GLOFA ELY, PEN-Y-GRAIG 1909

Am 5.50 o'r gloch y bore, 27 Awst 1909, siglwyd pwll glo'r Ely (un o dri phwll Naval Colliery Company) i'w seiliau wrth i 28 o lowyr fynd o dan ddaear i ddechrau gweithio. Lladdwyd saith o lowyr ac anafwyd 21 ohonynt yn y man. Roedd y caets yr oedd y dynion yn teithio ynddo wedi cyflymu yn lle arafu wrth gyrraedd pen y daith, gan daro'n galed yn erbyn llawr y siafft. Oherwydd hyn, saethodd y caets gwag arall i ben y pwll, torrodd y rhaff, a disgynnodd y caets gwag yn ôl i'r gwaelodion cyn glanio ar y caets arall a lladd rhai o'r dynion oedd ynddo. Dyma ddisgrifiad papur newydd y Rhondda Leader o'r digwyddiad erchyll: ‘Five of those in the upper deck (of the cage) being instantaneously killed, while the more seriously injured died soon after they were released. Two of the killed were severely mangled, whilst another was almost decapitated. Those in the lower bond fared better than their unfortunate comrades, and all of these escaped with their lives though some were badly injured sustaining fractures of limbs and body.'

Aeth tîm achub dan arweiniad Mr. Trevor Price y rheolwr cynorthwyol cyffredinol (roedd y rheolwr cyffredinol, Mr. Leonard Llewellyn, ar wyliau yn yr Alban ar y pryd) a'r Doctor Llewellyn a Doctor Weichart o dan ddaear er mwyn trin y rhai oedd wedi'u hanafu. Roedd rhaid defnyddio Pwll y Pandy (pwll glo cyfagos arall y cwmni) i gyrraedd y trueiniaid. Gan fod yr offer weindio wedi difrodi'n llwyr, roedd rhaid cludo'r meirw a'r clwyfus ar hyd y talcenni glo ac i fyny Pwll y Pandy. Lledodd y newyddion fel tân gwyllt drwy'r ardal, ac ymgasglodd cannoedd o bobl ar ben y pwll i ddisgwyl am hanes eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
Mae'r papur newydd yn cynnwys disgrifiadau byw gan rai a lwyddodd i oroesi'r drychineb. Un ohonynt oedd Phillip Pascoe, a oedd wedi'i hyfforddi fel dyn ambiwlans ac a gafodd ei ganmol i'r cymylau am helpu dioddefwyr eraill er iddo gael mân anafiadau ei hun. Mae'n disgrifio i'r caets ddod i stop yn sydyn cyn disgyn ar wib i'r gwaelod. Ar ôl taro'r llawr, y cwbl a glywai yn y tywyllwch dudew oedd dynion yn griddfan mewn poen a malurion yn disgyn i lawr y siafft a swn y caets gwag yn hyrddio heibio. Mae'n dweud eu bod yn gaeth o dan y ddaear am ryw awr cyn i'r tîm achub lwyddo i basio lampau trwy dwll bach yn y planciau i'r caets. Llwyddodd Pascoe i helpu bachgen o'r enw Fry i fynd drwy'r twll hwnnw, cyn ymdrechu i gael Noah Matthews, oedd wedi torri'i goes, ar ei ôl.' Pan holodd gohebydd y papur newydd a fyddai Pascoe wedi gallu dianc yn yr un modd, atebodd y byddai wedi gallu gwneud hynny, ond iddo benderfynu aros yn y fan a'r lle er mwyn helpu eraill pan oedd mewn poen ofnadwy. O'r diwedd, llwyddwyd i ryddhau gweddill y dynion o'r caets, diolch i gymorth arwrol James Vaughan ac eraill, gan gynnwys Tom Rowlands, Edward Hodge ac Idris Roberts, Trealaw, David Lewis, Stephen Davies a Tom Connel, Pen-y-graig. Pascoe oedd yr olaf i adael y caets, a dim ond wrth gerdded adref y sylweddolodd ei fod wedi cael briw ac wedi sigo/troi ei goes a'i glun. Un arall a ganmolwyd am ei ddewrder oedd James Vaughan, bachwr/harneisiwr oedd ar ddyletswydd ar lawr y pwll pan ddigwyddodd y ddamwain. Yn syth ar ôl y ddamwain, aeth i chwilio am olau i ryddhau'r dynion o'r caets. Yna, aeth ati i ryddhau'r rhai oedd ar ddec ucha'r caets cyn helpu'r rhai o'r dec isaf. I wneud hyn, roedd yn gorfod symud y planciau coed o'r swmp yn y siafft agored er gwaethaf perygl y malurion yn disgyn arno. Dyma glod y papur ohono: ‘He..set about his work without thought of himself, and assisted by others he eventually managed to release all the men in the lower bond, who were handed to him by Pascoe through the aperture made by removing the planks.'

Cafwyd hanes yr angladdau yn yr un papur newydd yr wythnos ganlynol:

‘The funeral of the victims of the Ely Pit disaster took place on Tuesday last, the remains of T.H.Brown, Alf Watkins, Morgan Evans, and the boy Reginald Jenkins being interred at Llethrddu Cemetery, Trealaw whilst those of Gideon Chapman found a last resting place at Tonyrefail. The new arrangements under the Eight Hours Act enabled the workmen of various pits to attend the final obsequies in large numbers. Contrary to the usual practice in Welsh funerals, there was no singing, the cortege being headed by the Salvation Army Band playing the ‘Dead March' in Saul. The whole locality showed signs of mourning, all business premises being closed as the cortege passed. Short services were held at the private homes of the deceased, conducted by the Revs. H. Parry, J. Richards Pugh, G. Evans and Emrys Jones. Who also officiated at the graveside. Amongst the mourners were Mr. Leonard Llewellyn general manager of the Cambrian Trust, representing the directors. Mr. Trevor Price, sub agent, and Mr. Hollister, manager of the Naval Pits with Drs. Llewellyn and Weichart. The coffins were covered with beautiful flowers sent by sympathetic relatives and friends. Large crowds lined the route as the long procession filed by.'
Mewn cwest i'r drychineb, barnwyd mai sbaner tu chwith mecanwaith y caets oedd wedi achosi'r ddamwain. Roedd y sbaner dan sylw wedi hollti eisoes, ond fe'i hatgyweiriwyd yn hytrach na gosod un newydd yn ei le.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf