header Cymraeg English

Llwynypia

 

Fel llawer o bentrefi Cwm Rhondda, cafodd Llwynypia ei enwi ar ôl fferm cyn dyddiau diwydiant. Dyma ddisgrifiad y teithiwr a'r awdur nodedig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Benjamin Heath Malkin, o'r ardal: ‘a region of beautiful fields with a magnificent grove at the upper end under the shadow of a towering rock'.

Ni newidiodd yr ardal fawr ddim tan 1859, pan agorodd Isaac Smith rheolwr gyfarwyddwr Church Colliery, Pentre, lefel fechan er mwyn chwilio am lo o dan fferm Llwynypia. Ar ôl sawl problem, rhoddwyd gorau i'r fenter maes o law. Ym 1862, cyrhaeddodd gwr o'r enw Archibald Hood yr ardal, un a fyddai'n rhoi stamp arbennig ar dirwedd a hanes Llwynypia. Daeth y peiriannydd glo llwyddiannus ac uchelgeisiol hwn i Gwm Rhondda am y tro cyntaf ym 1860. Fel rhan o'r Ely Valley Coal Company, llwyddodd Hood i brydlesu'r gwythiennau glo uchaf yn Llwynypia, a chysylltu pwll rhif 1 Llwynypia â gwythiennau rhif 2 a 3 Rhondda ym 1863. Cafodd Hood broblemau lu i ddechrau, yn bennaf gyda dwr a thywod yn y pyllau.

Llwynypia o Ben-rhys

 

Llwynypia o Ben-rhys
Newidiwyd enw'r cwmni i'r Glamorgan Coal Company yn ddiweddarach, ac ehangodd Hood y brydles ar diroedd Llwynypia ac agor pyllau newydd i'r gwythiennau glo ager. Roedd galw mawr am lo o'r ansawdd hwn, a chafodd Hood gryn lwyddiant yma gan agor pyllau rhif 4 a 5 Llwynypia ym 1873. Erbyn i'r cwmni ddod yn rhan o'r Cambrian Combine ym 1908, roedd ganddo bum pwll mawr yn cyflogi miloedd o ddynion a bechgyn lleol.
Glofa 'Scotch'

Yn ogystal â chloddio glo, daeth Llwynypia yn enwog am gyflenwi glo golosg o'r radd flaenaf oedd yn boblogaidd iawn ymysg y Morlys a'r marchnadoedd tramor ar y pryd. Erbyn 1914, roedd 140 o ffyrnau glo golosg yn Llwynypia yn ogystal â gwaith brics mawr. Pan ddaeth y glofeydd yn rhan o'r Cambrian Combine ym 1908, defnyddiwyd nwyon dros ben o'r broses golosgi i gynhyrchu trydan i'r lofa ac ar gyfer goleuadau stryd yr ardaloedd cyfagos hefyd.

Daeth enw Archibald Hood yn gyfystyr â Llwynypia – roedd ei lofa'n adnabyddus i drigolion y cylch fel glofa ‘Scotch', a'r rhesi o dai teras a adeiladodd i'w weithwyr yn cael eu galw'n rhesdai ‘Scotch'.

Roedd yn ffigwr poblogaidd iawn ymysg ei weithwyr, a phan fu farw ym 1902, roedd teyrngedau lu yn canmol y modd roedd yn trin ei weithwyr. Ym 1906, dadorchuddiodd yr Aelod Seneddol lleol, William Abraham, gerflun o Archibald Hood y tu allan i Sefydliad y Glowyr Llwynypia, gyda'r rhan fwyaf o'r arian yn dod o goffrau'r gweithwyr eu hunain.

Yn ogystal â'r tai teras cyfarwydd, roedd dau dy amlwg iawn yn Llwynypia –Glyncornel a Hen Glyncornel.

Dadorchuddio cerflun o Archibald Hood ym 1906

 

Dadorchuddio cerflun o Archibald Hood ym 1906
Y cerflunydd Walter Merritt wrthi'n creu ei gerflun o Archibald Hood, tua 1905. Gosodwyd y cerflun efydd hwn o flaen Llyfrgell a Sefydliad y Glowyr Llwynypia ym 1906, a chyfrannodd gweithwyr glofeydd Hood £600 tuag ato.

Cyn i'r diwydiant glo gyrraedd yr ardal, dim ond fferm fynydd syml oedd Glyncornel, a oedd yn eiddo i deulu'r DeWinton ac yn cael ei ffermio gan Thomas Bevan yn y 1840au. Cododd Hood glamp o d y ar y safle, Hen Glyncornel, ar gyfer ei fab William Walker Hood. Yna, ar ddechrau'r 1900au, adeiladwyd Glyncornel House ar lethrau'r bryn uwchben Hen Glyncornel gan y Cambrian Coal Combine ar gyfer ei uwch reolwyr, gan gynnwys Leonard Llewellyn. Prynwyd y lle gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1939, a bu'n ysbyty mamolaeth tan 1959 ac ysbyty geriatrig ar ôl hynny. Ar ôl 1979, daeth yn Amgueddfa'r Rhondda ac yna'n hostel ieuenctid a Chanolfan Amgylcheddol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Glyncornel fel ysbyty cynorthwyol a chartref i blant faciwîs anodd eu trin.

Llwynypia yw enw un o brif ysbytai Cwm Rhondda. Fe'i hadeiladwyd ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif fel wyrcws i liniaru'r baich pan oedd wyrcws Pontypridd yn orlawn. Ehangwyd ac addaswyd yr adeilad maes o law fel ysbyty cyffredinol cyntaf y Cymoedd.

Y cerflunydd Walter Merritt wrthi'n creu ei gerflun o Archibald Hood, tua 1905. Gosodwyd y cerflun efydd hwn o flaen Llyfrgell a Sefydliad y Glowyr Llwynypia ym 1906, a chyfrannodd gweithwyr glofeydd Hood £600 tuag ato.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf