header Cymraeg English
Glynrhedynog (Ferndale)

Cyfieithiad o'r enw Cymraeg gwreiddiol Glynrhedynog yw Ferndale, ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf yn y 1860au, naill ai gan David Davies, Blaengwawr, a agorodd byllau Ferndale, neu ei brif ariannwr Delta Davies. Mae map degwm 1847 ar gyfer Ferndale yn dangos coedwigoedd, dolydd a chaeau toreithiog, a'r unig le yr oedd ôl dyn i'w weld oedd ar y ddwy fferm Rhondda-Fechan, a ffermiwyd gan David Evans, a Dyffryn Sarfwch, a ffermiwyd gan William Davies. Yr ochr draw i'r cwm, roedd ffermydd anghysbell Blaenllechau, Pendyrys Isaf a Phen-yr-Heol.

Glynrhedynog
Arloeswr y diwydiant glo yn y rhan hon o Gwm Rhondda Fach oedd David Davis (1797-1866) a oedd wedi ennill ei gyfoeth yn gyntaf fel masnachwr gyda siopau yn Hirwaun ac Aberdâr ac yn ddiweddarach fel perchennog cwmnïau glo ager ym Mlaengwawr (Aberdâr) ac Abercwmboi. Daeth anawsterau lu i'w ran wrth geisio mwyngloddio'r ardal o gwmpas Glynrhedynog. Roedd ei ymgais gyntaf i gyrraedd gwythïen rhif 3 Rhondda yn aflwyddiannus ac roedd natur anghysbell Glynrhedynog ar y pryd yn golygu bod rhaid i'r holl beiriannau a deunyddiau ar gyfer y fenter gael eu cludo o ddyffryn Aberdâr gan geffylau, am fod y llwybr mynydd yn rhy gul i gerti.
Dim ond ar ôl i Lewis Davis, mab David, argymell y dylid suddo'r pwll yn llawer dyfnach y cyrhaeddwyd y wythïen bedair troedfedd ar ddyfnder o 278 llath ym 1862. Roedd ansawdd y wythïen yn llawer gwell nag yng nghwm Aberdâr ac, o ganlyniad, dyfnhawyd pwll rhif 1 a chyrraedd dwy wythïen newydd bwysig hefyd. Yn y cyfamser, roedd Taff Vale Railway wedi ehangu ei gweithrediadau o Ynyshir i Flaenllechau, gan alluogi'r llwyth cyntaf o lo ager i gael ei anfon o Lyn Rhedynog i Gaerdydd ym 1862. Roedd yr oes ddiwydiannol yng Nghwm Rhondda Fach wedi cychwyn o'r diwedd.
Glynrhedynog No. 1 - No. 5 Pits
Fel yn y rhan fwyaf o Gwm Rhondda, ar ôl canfod glo a chyda mewnlifiad gweithwyr, daeth darparu cartrefi i'r bobl hyn yn broblem fawr. Roedd gweithwyr gwreiddiol y pyllau (tua 40 i gyd) wedi bod yn byw mewn un annedd, Y Lluest. Cafodd y glowyr cyntaf a'u teuluoedd, a gafodd eu denu i Lyn Rhedynog trwy hysbysebion yng ngweisg y De am ‘waith dan amodau da', eu rhoi mewn cytiau pren niferus a alwyd ‘y barics'. Ym 1867, disgrifiodd newyddiadurwr o'r ‘Times' a ymwelodd â Glynrhedynog sut roedd bron yr holl boblogaeth o 800 yn byw mewn tai syml wedi'u hadeiladu o bren, fel cytiau pren Americanaidd. Dim ond yn ystod y 1870au, pan ddechreuodd niferoedd llawer uwch ymfudo i'r ardal, y cafodd y cytiau eu dymchwel ac yr adeiladodd cwmni'r lofa'r rhesi hir o dai cerrig cyfarwydd fel cartrefi i'r boblogaeth gynyddol.
Streicwyr yn edrych am lo ar y tomenni yn ystod streic 1921

Fel llawer o'r trefi yng Nghwm Rhondda, dioddefodd Glynrhedynog o ganlyniad i natur beryglus y diwydiant mwyngloddio, yn enwedig yn ei ddyddiau cynnar. Yn ogystal â sawl marwolaeth o ganlyniad i gerrig yn cwympo, damweiniau gyda thramiau a damweiniau eraill tebyg, bu dwy drychineb fawr yn y blynyddoedd cynnar; y naill ym 1867 pan laddwyd 178 o ddynion a bechgyn, a'r llall ddwy flynedd yn ddiweddarach ym 1869 pan fu farw 53 o lowyr.

Streicwyr yn edrych am lo ar y tomenni yn ystod streic 1921
Datblygodd Glynrhedynog yn brif dref Cwm Rhondda Fach, gyda chanolfan siopa brysur, yng nghyffiniau'r Strand, yn ogystal â'r Ferndale Workmen's General Hospital and Eye Infirmary , a adeiladwyd ym 1891. Agorwyd llawer o gapeli hefyd, fel Trerhondda a adeiladwyd ym 1867, a'r Capel Methodistiaid Wesleaidd, a godwyd ym 1880 ac a ailadeiladwyd ar ôl tân ym 1893 gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr y diweddar Lewis Davis, perchennog y lofa, fel teyrnged iddo. Roedd cyfleusterau hamdden o bob math yno hefyd fel llyn a pharc Darran a phwll nofio awyr agored, ynghyd â'r Workmen's Institute and Library.

TRYCHINEBAU GLOFA FERNDALE – COST WIRIONEDDOL Y GLO

Ym 1988, wrth ymyl safleoedd hen byllau rhif 1 a rhif 5 Glynrhedynog, codwyd cofeb i gofio'r glowyr hynny a fu'n gweithio ym mhedwar pwll Glynrhedynog, neu a gafodd eu lladd neu eu hanafu ynddynt, gan gynnwys y 231 o lowyr a fu farw mewn dwy danchwa erchyll ym mhwll rhif 1 ym 1867 a 1869. Roedd pyllau Glynrhedynog yn eiddo i D.Davies and Sons, a oedd yn ffynnu yn y 1860au, ond, yn dilyn marwolaeth y Davis hynaf ym 1866 a'r ddwy danchwa ym 1867 a 1869, dechreuodd menter Glynrhedynog fynd i'r wal.
O ganlyniad i'r trychinebau, ym 1867, pan fu farw 178 o lowyr, ac ym 1869, pan fu farw 53 o lowyr, cafodd Glynrhedynog enw drwg fel ‘lle gwael' fel ‘glyn cysgod angau'. Mewn gwirionedd, bu farw mwy o lowyr ym mhwll rhif 1 Ferndale nag mewn unrhyw bwll glo arall yng Nghwm Rhondda. O ganlyniad, dechreuodd llawer o'r glowyr adael Glynrhedynog i chwilio am waith mewn mannau eraill a phenderfynodd Lewis Davis, y perchennog ar y pryd, symud i Lyn Rhedynog (lle adeiladodd Brynderwen House) i oruchwylio'r gwaith yn bersonol. Cliciwch(pdf)

Glowyr coffa
Glowyr coffa

‘FATAL FRIDAY AT FERNDALE' – TANCHWA GLOFA RHIF 1 FERNDALE 8 TACHWEDD 1867

Disgrifiodd papur newydd y Merthyr Express danchwa ymhlith y mwyaf trychinebus a fu erioed yn y De (yn wir, mae adroddiad y Syrf ë wr Pyllau Glo ar y danchwa yn nodi mai'r drychineb hon oedd y waethaf o ran nifer y bobl i gael eu lladd mewn un danchwa yn ei ardal ef ar y pryd). Â'r papur newydd ymlaen i ddisgrifio canlyniad y danchwa, y cydymdeimlad â'r dioddefwyr a'u teuluoedd o bob cwr o'r wlad, y golygfeydd ym mhen y pwll lle'r oedd torf wedi crynhoi i geisio adnabod eu ceraint a'r orymdaith ddyddiol o gyrff yn cael eu codi o'r pwll. Daw effaith wirioneddol y drychineb ar bentref bach Glynrhedynog, lle'r oedd bron pob dyn a bachgen yn gweithio yn yr un pwll, yn gwbl glir wrth ystyried tynged Thomas Thomas a'i bedwar mab, a laddwyd yn y drychineb. Mae'r newyddiadurwr hefyd yn disgrifio galar un ferch a oedd wedi dilyn un brawd i'r bedd ar y dydd Mercher, un arall ddydd Iau, ac roedd ei thad a'i thrydydd brawd yn dal ar goll yn y pwll. Mae adroddiad yr Arolygwyr Pyllau Glo ar y drychineb a gyflwynwyd yn y cwest i'w ddioddefwyr yn nodi eu bod yn credu bod y danchwa wedi digwydd o ganlyniad i groniad nwy mewn rhan o'r lofa; croniad a achoswyd gan esgeulustod Mr Williams, y rheolwr, a'i is-swyddogion. Yn ei dro, cafodd y nwy hwn ei danio gan un neu fwy o'r glowyr yn cymryd y topiau oddi ar eu llusernau ac yn gweithio gyda fflamau noeth.

‘We believe the explosion took place.1st in consequence of a great accumulation of gas in certain workings of the colliery, and this accumulation we attribute to the neglect of Mr. Williams the manager and his subordinate officers. 2nd by this gas being fired by one or more of the colliers carelessly taking off the tops of their lamps and working with naked lights.'

Ar ôl y danchwa, sefydlwyd cronfa i geisio lleddfu dioddefaint y gweddwon a'r plant amddifaid o dan gadeiryddiaeth Richard Fothergill AS. Mae Llyfr Cofnodion y Pwyllgor Trychineb wedi'i gadw'n ddigidol ac mae copïau ar gael ar CD-ROM i'w gweld ar gyfrifiadur yn ein 3 prif lyfrgell.
Tanchwa Glofa Rhit Ferndale 8 Tachwedd 1867

TRYCHINEB GLOFA FERNDALE 10 MEHEFIN 1869

Cyn pen dwy flynedd ar ôl y danchwa gyntaf yng Nglynrhedynog, roedd y pentref bach hwn yng Nghwm Rhondda Fach yn y newyddion unwaith eto oherwydd trychineb fawr arall a laddodd 53 o lowyr. Y tro hwn, fodd bynnag, y gweithwyr yn y rhan Dyffryn y lofa a fu farw, a llwyddodd y gweithwyr yn rhannau'r Rhondda a Glo-Bach i ddianc heb eu hanafu; y gwrthwyneb i'r hyn a ddigwyddodd ym 1867.
Nid oedd adroddiad yr Arolygydd Pyllau Glo'n gallu dweud yn union lle bu'r danchwa, a bu'n rhaid iddo ddyfalu sut y cafodd ei achosi. Roedd yn credu, oherwydd mai Ferndale oedd yr unig lofa yn yr ardal ar y pryd a oedd yn cloddio'r cyflenwad helaeth o lo ager Aberdâr yn yr ardal, a oedd yn adnabyddus fel glo tanllyd, dyma oedd yr unig allfa i'r holl nwy a oedd wedi'i ddal yn y gwythiennau hyn.
O'r herwydd, bu'r pwll yn gweithredu gyda lampiau diogelwch wedi'u cloi ac ni chaniatawyd tanio yn ystod oriau gwaith. Fodd bynnag, bu sawl cwymp yn y pwll ac achosion o nwy'n cronni'n sydyn, yn enwedig rhwng glofeydd rhif 6 a rhif 7, lle credai y gallai'r danchwa fod wedi digwydd. Roedd yn credu y byddai nwy yn cronni'n sydyn uwchben lamp ddiogelwch, hyd yn oed lamp oedd yn gweithio'n dda, yn ddigon i achosi'r danchwa. Ei ddamcaniaeth oedd bod y nwy wedi dod o'r wythïen ddwy droedfedd naw modfedd nad oedd neb yn gweithio arni, rhyw ddeg neu ddeuddeg llath uwchben y wythïen bedair troedfedd lle digwyddodd y danchwa. Felly, argymhellodd y dylid gweithio ar y wythïen hon yr un pryd â'r wythïen bedair troedfedd yn y dyfodol er mwyn i'r nwyon oedd ynddi gael eu gwasgaru drwy system awyru'r pwll. Beirniadodd casgliad y cwest reolwyr y pwll am beidio â rhoi'r holl argymhellion a wnaed ar ôl tanchwa 1867 ar waith. Hefyd, beirniadodd yr arolygydd system awyru'r pwll am ei fod yn credu nad oedd yn llwyddo i ddosbarthu aer yn gywir i bob rhan o'r pwll.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf