header Cymraeg English
Cwmparc  

Mae chwedlau cynnar yn cyfeirio at fodolaeth parc canoloesol, neu dir hela yn ardal Parc Cwm Brychiniog. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, rhannwyd yr ardal yn bedair fferm, ac enwau dwy o'r rhain oedd Parc Uchaf a Pharc Isaf. Rhoddwyd yr enw Cwmparc ar yr ardal, ac enwyd ei nant yn Nant Cwmparc. Yn sgil datblygiad y pentref glofaol yn y cwm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd yr enw Cwmparc ar y pentref hefyd.

Mae manylion hanes a datblygiad cynnar Cwmparc i'w cael yn y llyfryn, ‘History of Cwmparc. King Coal Invades a Sylvan Valley' a enillodd wobr yn Eisteddfod Lled-Genedlaethol Treorci ym 1923. Mae'r awdur yn disgrifio Cwmparc ym 1923 fel ‘a mining village of considerable pretensions, aspiring almost to the more dignified name of township' gyda phoblogaeth o tua phum mil. Mae'n disgrifio Glofa Parc, ac ymhellach i lawr y cwm, Glofa Dare, ynghyd â'r holl wagenni yn cludo glo ar hyd y rheilffordd ar lan yr Afon Parc.

Golygfa gyffredinol o Gwmparc – tua 1890

Golygfa gyffredinol o Gwmparc – tua 1890

Adeiladu Tallis Street tua 1890

Adeiladu Tallis Street tua 1890

Arloeswr datblygiad Cwmparc oedd David Davies, Llandinam, a ddisgrifiwyd fel diwydiannwr pwysicaf Cymru a sylfaenydd yr Ocean Coal Company enwog. Ym 1892 aeth y gwr hwn ati i gynnal trafodaethau gyda Crawshay Bailey er mwyn dechrau gloddio glo ar Ystâd Tremains. Dechreuodd y gwaith fis Awst 1866 ac erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd Pwll Parc yn cynhyrchu glo am y tro cyntaf. Mae'n disgrifio'r gwaith o adeiladu Railway Terrace – y stryd newydd gyntaf yng Nghwmparc i'w hadeiladu ger y rheilffordd a arweiniai o ben y pwll. Rhoddwyd yr enw ‘Tub Row' ar y stryd yn lleol oherwydd arfer y trigolion o adael eu baddonau tun ar y palmentydd gyda'r nos, gan beryglu bywydau estroniaid ar noson dywyll! Wrth ddisgrifio gweddill y pentref, mae'n nodi bod Parc Road, y stryd fawr, bellach dros hanner milltir o hyd, ac yn cynnwys yr adeiladau mwy ‘parchus' fel Sefydliad y Glowyr, dau westy a thri chapel. Dywed bod prinder tai yn ystod dyddiau cynnar Cwmparc, wrth i'r boblogaeth dyfu mor gyflym, wedi bod yn broblem fawr.

Cyfeiria at atgofion un o'r trigolion hyn, a ddaeth i Gwmparc gyda'i rhieni yn un o bedwar o blant, gan ymgartrefu mewn bwthyn bugail o'r enw Parc Bach. Gan fod y bugail, ei deulu a thri lletywr arall eisoes yn byw yn y bwthyn, mae'n amlwg nad oedd digon o le i bawb! Gyda chymaint o alw am dai, roedd yn amlwg y byddai adeiladwyr a datblygwyr eiddo yn heidio i'r ardal. Cwblhawyd Cwmdare Street ym 1867 a'r rhan fwyaf o Parc Street y flwyddyn ganlynol. Aed ati i ffurfio menter clwb adeiladu lleol, a chyn hir roedd Tallis Street, Barrett Street a Vicarage Row wedi'u hadeiladu. Enwyd Tallis Street ar ôl Mr A.S. Tallis, rheolwr Glofa Dare, a Barrett Street ar ôl meddyg lleol uchel ei barch a hanodd o'r Alban yn wreiddiol.

Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ym 1936, ychwanegodd yr awdur bennod arall at ei waith. Wrth ystyried cyflwr y pentref yn y cyfnod hwnnw, mae ei sylwadau yn dra gwahanol i'r hyn a nododd dair blynedd ar ddeg yn gynharach. Mae'n disgrifio hanes diwydiannol y pentref fel un hynod o ddigalon gyda diweithdra yn bwrw cysgod parhaol dros yr ardal. Nid oedd prif gyflogwyr y pentref, Glofa Parc a Glofa Dare, wedi gweithio'n ddi-dor erioed, a chan fod cymaint o bobl wedi heidio i Gwmparc, doedd dim digon o waith i bawb. Bu cyfnodau o anghydfod diwydiannol, gan gynnwys streic gyffredinol 1926 a streiciau ‘yn y gweithle' 1935.

Unwyd y ddau bwll gan Fwrdd Glo Prydain ym 1954, ac ym 1966, ar ôl can mlynedd o gynhyrchu glo, caeodd Pwll Parc a Dare am y tro olaf. Wedi hynny, bu modd i ardal Cwmparc adennill rywfaint o'i harddwch gwreiddiol.
Cwmparc

Rhyfel yn cyrraedd Cwmparc

 

Ar noson 29/30 Ebrill 1941, dinistriwyd llawer o bentref bach glofaol Cwmparc gan fomiau Luftwaffe Hitler, digwyddiad a fydd yn aros yng nghof y rhai a oroesodd y noson ddychrynllyd honno am byth. Pwy wyr pam y targedwyd y pentref bach hwn yng Nghwm Rhondda, ond un awgrym oedd i gyrch awyr a fwriadwyd ar gyfer Abertawe neu Bort Talbot fethu, gan beri i'r awyrennau Almaeneg ddadlwytho eu bomiau ar eu ffordd adref. Beth bynnag oedd y rheswm am y cyrch, roedd ei ganlyniadau'n ddychrynllyd, wrth i bobl gael eu lladd ac adeiladau eu dinistrio. Disgynnodd y rhan fwyaf o'r bomiau ar dai yn Treharne Street a Parc Road, gan ladd saith ar hugain o ddynion, menywod a phlant. Ymysg y rhai a laddwyd oedd tri phlentyn oedd wedi ffoi i'r ardal o Lundain oherwydd y rhyfel. Roedd y tri, George Jameson 13 oed, ei frawd Ernest 11 oed, a'i chwaer Edith 14 oed yn byw yn 14 Treharne Street ar ôl cael eu symud i ddiogelwch Cwmparc er mwyn osgoi peryglon y Blitz yn Llundain. Un arall a laddwyd oedd Ivor Wright, aelod o'r Gwarchodlu Cartref lleol. Roedd Ivor wedi gweld parasiwt yn disgyn i'r ddaear, a chan feddwl mai milwr Almaenig ydoedd, roedd wedi rhedeg tuag ato er mewn ei herio. Fodd bynnag, bom Almaenig oedd yn y parasiwt, a lladdwyd Ivor yn syth.

Yn ôl adroddiadau yn y papur lleol, ‘The Free Press and Rhondda Leader', wrth glywed y seiren yn rhybuddio am gyrch awyr byddai'r trigolion lleol yn disgwyl cyfnod diflas o aros yn y lloches nes clywed y seiren yn datgan ei bod yn ddiogel gadael y lloches. Yn wir, cyn y noson drychinebus honno, ni fyddai amryw o'r trigolion yn trafferthu mynd i'r lloches o gwbl gan fod y seiren i'w chlywed mor aml, heb arwain at ddim byd mwy na chyfnod anghyfforddus mewn lloches. Fodd bynnag, y tro hwn roedd pethau'n wahanol iawn, fel yr eglura gohebydd y papur:

‘…suddenly, with horrifying unexpectedness, there was heard a clutter like the rattling of a thousand machine guns in simultaneous action. There were queer noises of objects falling on the roof, and outside in the street was a din of shouting… The scene was one such as could only exist in the wildest imagination. Incendiary bombs had been dropped and more were still falling, blazing brightly in their hundreds, and many little houses in the main street were already in the incipient stage of being afire'.

Mae'r gohebydd yn disgrifio ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys wrth ddiffodd tanau'r bomiau a symud y meirw a'r clwyfedig o'r rwbel. Fodd bynnag, pan oedd yn ymddangos bod popeth dan reolaeth, llenwyd yr awyr gan swn brawychus awyrennau'n dychwelyd, a disgynnodd y cyntaf o ddau fom mawr, gan ddinistrio dau dy yn gyfan gwbl a pheri cryn ddifrod i nifer o rai eraill. Mae llawer o'r adroddiadau yn cyfeirio at arwriaeth a dewrder yr achubwyr y noson honno a'r dyddiau canlynol, wrth iddynt dyrchu drwy bentyrrau o rwbel er mwyn ceisio achub pobl.
Ar ôl y rhyfel, cynhaliwyd gwasanaeth coffa fis Tachwedd 1948 y tu allan i Lyfrgell a Sefydliad Cwmparc i gofio aberth y 27 a laddwyd gan y cyrch. Dadorchuddiwyd cloc dau wyneb goleuedig a phlac er cof am y rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd gan Colin Hughes, bachgen ysgol o Treharne Street a oedd wedi'i achub y noson honno o dy a fomiwyd.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf