header Cymraeg English
Llwydcoed  
Mae hanes pentref modern Llwydcoed yn cychwyn gydag adeiladu Gwaith Haearn Aberdâr. Yn yr un modd ag ardaloedd eraill Cwm Cynon lle sefydlwyd y gweithfeydd haearn cyntaf, yn enwedig Hirwaun ac Abernant, diwydiant oedd yn gyfrifol am fodolaeth a datblygiad y pentref. Cyn i'r gwaith haearn gael ei ddatblygu, cymuned amaethyddol o ffermydd gwasgaredig oedd Llwydcoed.
Rhan Llwydcoed o Fap y Degwm Plwyf Aberdâr (1847). Mae'r map yn dangos lleoliad y tai cyntaf yn y pentref. Tregibbon i'r gogledd, a Miner's Row a Kingsbury Place i'r de, ychydig uwchlaw'r ffwrneisiau.

Aed ati i ddatblygu ardal Tregibbon yn y lle cyntaf, ac adeiladwyd tai i weithwyr yno gan Thomas ap Shencin ap Gibbon o Fferm Fforchaman. Adeiladwyd tai eraill yn Miner's Row, Founder's Row a Scales Houses. Mae enwau'r strydoedd hyn yn adlewyrchu eu hanes cynnar; roedd y teulu Scale ymhlith sefydlwyr y gweithfeydd ac yn bartneriaid yn y fenter tan 1846.

Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd yr ardal eto yn sgil datblygu'r diwydiant glo. Agorwyd Glofa Dyllas ym 1840 gan Matthew Wayne o Waith Haearn Gadlys ac agorwyd Glofa Ysguborwen ym 1849 gan Samuel Thomas a Thomas Joseph. Yn ystod y cyfnod hwn adeiladwyd tai ym Moriah Place, Horeb Terrace a Grey's Place. Adeiladwyd Exhibition Row ym 1851, a enwyd ar ôl yr Arddangosfa Fawr a gynhaliwyd yn y Crystal Palace y flwyddyn honno.

Chwith: Rhan Llwydcoed o Fap y Degwm Plwyf Aberdâr (1847). Mae'r map yn dangos lleoliad y tai cyntaf yn y pentref. Tregibbon i'r gogledd, a Miner's Row a Kingsbury Place i'r de, ychydig uwchlaw'r ffwrneisiau.

Roedd yna wyth tafarn yn Llwydcoed yn ystod y cyfnod hwn, sef The Earl Grey, Fox and Hounds, Red Cow, Corner House, The Mason's, Miner's Arms, y Dynevor Arms a'r Croes Bychan. Roedd y tafarndai ar agor tan hanner nos bryd hynny, ac yn ‘A Glance at the History of Llwydcoed', mae ysgrifwr lleol anhysbys yn disgrifio eu hawyrgylch anystywallt, gan nodi bod mwy o gwrw yn cael ei wastraffu pan oedd y ffwrneisiau, y pyllau glo a'r gweithfeydd mwyn haearn yn gweithio, yn enwedig ar ddechrau'r mis ac ar nos Sadwrn talu, nag a gâi ei yfed.

Dde: Rees Hopkin Rhys Ynad Heddwch
Rees Hopkin Rhys Ynad Heddwch

Roedd Rees Hopkin Rhys yn un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y gwaith o ddatblygu llywodraeth leol yn Aberdâr a'r cyffiniau. Fe'i ganwyd yn Llwydcoed ym 1819, a bu'n byw yno y rhan fwyaf o'i oes, ym Mhlasnewydd. Fe ddaeth yn asiant mwynau uchel ei barch yn ddyn ifanc iawn, ond cafodd ei ddallu yn 28 oed wrth gynnal profion gyda'r deunydd hynod ffrwydrol gun cotton .

Ar ôl cael ei ddallu, trodd ei sylw at fywyd cyhoeddus. Bu'n aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful am 53 mlynedd a Bwrdd Iechyd Aberdâr o 1854, ac fe'i hetholwyd yn Gadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr adeg ei sefydlu ym 1895.

Cyfrannodd yn sylweddol at y gwaith pwysig o sefydlu'r Ysgol Ddiwydiannol i blant tlawd yn Nhrecynon. Fel aelod o Fwrdd Iechyd Aberdâr, gweithiodd yn galed i wella iechyd y cyhoedd yn yr ardal, gan hyrwyddo'r angen am gyflenwad dwr glân a system garthffosiaeth foddhaol.

Ym 1881 derbyniodd benddelw ohono ef ei hun gan Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful, sydd bellach i'w gweld yn Amgueddfa Cwm Cynon.

Yn ystod yr ugeinfed ganrif dechreuodd sylfaen ddiwydiannol Llwydcoed newid. Roedd y Gwaith Haearn wedi cau cyn hynny, ym 1875. Caeodd Glofa Ysguborwen ym 1919 a Glofa Dyllas yn y 1920au. Fodd bynnag, ym 1906 agorodd Gwaith Brics Tanybryn ar safle Gwaith Haearn Aberdâr, gan barhau ar waith yn nwylo sawl perchennog gwahanol tan fis Rhagfyr 1981. Aed ati i fwyngloddio glo eto tua diwedd y 1940au wrth i safle glo brig Bryn Pica agor.

Gwaith Haearn Llwydcoed  
Gwaith Haearn Aberdâr fel y'i dangoswyd ar yr argraffiad cyntaf o Fap Arolwg Ordnans 1868. Mae'r tair ffwrnais chwyth a'r llinell o ffyrnau golosg a oedd eu hangen i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y gweithfeydd i'w gweld yn glir ar y map.
Sefydlwyd Gwaith Haearn Aberdâr yn Llwydcoed ym 1800, wrth i bartneriaeth yn cynnwys John Thompson, John Hodgett, George Scale a John Scale gymryd les 70 mlynedd am bris o £1,000 y flwyddyn ar 702 erw o dir ar Ystâd Llwydcoed. Adeiladwyd dwy ffwrnais ar y safle a gâi eu chwythu gan rod ddwr. Defnyddiwyd ffrwd a gysylltwyd â'r Afon Cynon filltir i fyny'r afon i weithio'r rhod ddwr, ac agorodd y gwaith ym 1801. Mae'n ymddangos i Gwmni Haearn Aberdâr ddechrau'n llwyddiannus. Ym 1805 cynhyrchwyd 3,586 tunnell o haearn ar y safle, ac yn wahanol i Weithfeydd Haearn eraill Cwm Cynon, llwyddodd y cwmni i oroesi'r dirwasgiad yn y diwydiant haearn ym 1813/14.
Uchod: Gwaith Haearn Aberdâr fel y'i dangoswyd ar yr argraffiad cyntaf o Fap Arolwg Ordnans 1868. Mae'r tair ffwrnais chwyth a'r llinell o ffyrnau golosg a oedd eu hangen i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y gweithfeydd i'w gweld yn glir ar y map.
Adeiladwyd tramffordd ym 1812 er mwyn cysylltu Gwaith Haearn Aberdâr â dechrau Camlas newydd Aberdâr yng Nghwmbach. Croesodd y dramffordd yr Afon Cynon ddwywaith ar ei thaith, unwaith yng Ngelli Isaf ger y gwaith haearn ac eto wrth Bont Dramffordd Robertstown. Ehangodd Cwmni Haearn Aberdâr yn sylweddol ym 1819 pan brynwyd Gwaith Haearn cyfagos Abernant.

Erbyn 1823 roedd tair ffwrnais ar waith ar y ddau safle, ac ym 1830 cynhyrchodd y cwmni 12,571 tunnell o haearn.

Ym 1846 roedd rhaid i bartneriaid y cwmni fynd i'r Llys Siawnsri i setlo anghydfod ymysg ei gilydd. Cafodd yr anghydfod rhwng Henry a Mary Scale ar y naill law a Rowland Fothergill ar y llaw arall ei ddatrys pan orchymynnodd y Llys Siawnsri y dylid gwerthu'r busnes. Yn dilyn yr anghydfod hwn, ymddangosodd yr Aberdare Iron Company ar ei newydd wedd gyda'r teulu Fothergill wrth y llyw. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd gwaith haearn Aberdâr yn cynnwys tair ffwrnais chwyth, gyda dwy injan a dwy rod ddwr fawr yn eu chwythu, ynghyd ag odynau pyllau a gweithdai.

Dde: Gwaith Haearn Aberdâr yn y 1880au, yn fuan ar ôl iddo gau ym 1875. Mae'r adeiladau ar y safle mewn cyflwr da o hyd, ac mae modd gweld y tair ffwrnais chwyth yng nghanol y llun.
Gwaith Haearn Aberdâr yn y 1880au, yn fuan ar ôl iddo gau ym 1875. Mae'r adeiladau ar y safle mewn cyflwr da o hyd, ac mae modd gweld y tair ffwrnais chwyth yng nghanol y llun.
Ar ôl agor ym 1801, gwnaeth Gwaith Haearn Aberdâr ddefnydd o rod ddwr ar gyfer chwythu. Erbyn 1869 roedd dwy rod ddwr 40 troedfedd o uchder a 5 troedfedd o led yn cael eu defnyddio ar y safle.

Nid oedd yr Aberdare Iron Company wedi cynhyrchu haearn gyr yn eu gwaith haearn ar y dechrau, ond newidiodd hynny ar ôl i'r teulu Fothergill gymryd yr awenau. Aeth y teulu hwn ati i adeiladu ffwrneisiau pwdlo yng Ngwaith Haearn Abernant ac i foderneiddio'r ddau safle. Parhaodd cynnyrch y cwmni i gynyddu, ac erbyn canol y 1860au roedd yn un o brif gyflenwyr cledrau haearn gyr. Ym 1872 roedd y cwmni'n allforio cledrau i bedwar ban byd, gan gynnwys New Orleans, Efrog Newydd a Montreal. Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiant hwn, roedd gan yr Aberdare Iron Company broblemau difrifol. Aeth y cwmni i'r wal yn sydyn iawn ym 1875 pan ddaeth y galw am gledrau haearn gyr i ben.

Chwith: Ar ôl agor ym 1801, gwnaeth Gwaith Haearn Aberdâr ddefnydd o rod ddwr ar gyfer chwythu. Erbyn 1869 roedd dwy rod ddwr 40 troedfedd o uchder a 5 troedfedd o led yn cael eu defnyddio ar y safle.
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf