header Cymraeg English
Traphont Cwmdâr  
Mae'r llun a'r map o Argraffiad Cyntaf map Arolwg Ordnans (1868) isod yn dangos Traphont Cwmdâr a Changen Dâr ac Aman o'r Vale of Neath Railway. Adeiladwyd y draphont i gludo'r rheilffordd dros yr Afon Dâr mewn man ger y Cwm. Roedd y Taff Vale Railway a osodwyd yn ddiweddarach hefyd yn teithio o dan y draphont. Cynlluniwyd y draphont bren gan Isambard Kingdom Brunel ac roedd yn 450 troedfedd o hyd a 70 troedfedd o uchder. Datgymalwyd Traphont Cwmdâr ym 1947, a'r draphont honno a Thraphont Gamlyn ger Penywaun oedd y ddwy draphont olaf o eiddo Brunel i gael eu dymchwel.
Traphont Cwmdâr
Traphont Cwmdâr
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf